Cyfarfod y Bwrdd 21 Medi 2023
Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno ymuno arsylwi ar y sesiwn gyhoeddus drwy Dimau ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb rhyngweithiol gyda'r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol orffen. Cofiwch y gall amseru agenda newid ar y diwrnod ac felly i sicrhau bod cwestiynau'n cael eu clywed, cyflwynwch y rhain ymlaen llaw erbyn dydd Llun am 5pm i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar ddiwrnod y cyfarfod, felly cyflwynwch unrhyw gwestiynau ymlaen llaw at sylw Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.
Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.
Amser y cyfarfod: 9:00 – 11:15
Amser |
Eitem |
---|---|
9.00 (5 munud) |
1. Agor y cyfarfod
Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiant. |
9.05 (5 munud) |
2. Adolygu’r Cofnodion a’r Log Gweithredu 2A. Adolygu Cofnodion y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2B. Adolygu’r Log Gweithredu Cyhoeddus Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) Crynodeb: CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a’r log gweithredu. |
9.10 (5 munud) |
3. Diweddariad gan y Cadeirydd Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw Crynodeb: NODI diweddariad y Cadeirydd i’r Bwrdd. |
9.15 (15 munud) |
4. Adroddiad y Prif Weithredwr Noddwr a chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr Crynodeb: NODI’R sefyllfa gyfredol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am weithgareddau allweddol. Cyfeirnod y Papur: 23-09-B05 |
09:30 (20 munud) |
5. Adroddiadau Diweddaraf y Pwyllgorau a Fforymau (trwy eithriad) Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion y pwyllgorau Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg – 7 Medi Diweddariadau Fforwm Crynodeb: NODI’R diweddariadau gan bwyllgorau’r Bwrdd, o’r cyfarfodydd a gynhaliwyd a thu hwnt. |
09:50 (10 munud) |
6. Adroddiad Perfformiad Ariannol Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid Cyflwynydd: Andrea Morgan, Rheolwr Tîm Cyllid Busnes 1 Crynodeb: CYMERADWYO'R sefyllfa ariannol ddiweddaraf Cyfeirnod y Papur: 23-09-B09 |
10.00 (20 munud) |
7. Adroddiad Chwarter 1 Dangosfwrdd Perfformiad Cynllun Busnes ac Adroddiad Chwarter 1 Perfformiad Mewnol Noddwr a chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr Yn bresennol: Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Gorfforaethol a'r Swyddfa Rheoli Rhaglenni; Kirsten Hughes, Ymgynghorydd Arbenigol Arweiniol, Cynllunio Corfforaethol a Pherfformiad; Sue Ginley, Ymgynghorydd Arbenigol Arweiniol, Cynllunio Corfforaethol a Pherfformiad Crynodeb: CYMERADWYO Adroddiad Chwarter 1 Dangosfwrdd Perfformiad Cynllun Busnes ac Adroddiad Chwarter 1 Perfformiad Mewnol Cyfeirnod y Papur: 23-09-B10 |
10.20 (20 munud) |
Egwyl |
10:40 (5 munud) |
8. Aelodaeth Pwyllgor y Bwrdd Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Cyflwynydd: Victoria Painter, Pennaeth Dros Dro ar gyfer Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd Crynodeb: CYMERADWYO'R diwygiadau i aelodaeth Pwyllgor y Bwrdd Cyfeirnod y Papur: 23-09-B11 |
10:45 (5 munud) |
9. Eitemau i'w Cymeradwyo a) Adroddiad Chwarter 1 Lles, Iechyd a Diogelwch Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Crynodeb: Cymeradwyo Adroddiad Ch1 Lles, Iechyd a Diogelwch Cyfeirnod y Papur: 23-09-B12 b) Datganiad Caethwasiaeth Fodern Noddwr: Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Masnachol Cyflwynydd: Vernon Lambert, Rheolwr Caffael Crynodeb: CYMERADWYO'R Datganiad Caethwasiaeth Fodern Cyfeirnod y Papur: 23-09-B13 |
10.50 (5 munud) |
10. Unrhyw fater arall |
10.55 |
Diwedd y Cyfarfod |
10.55 (20 munud) |
Sesiwn holi ac ateb cyhoeddus |
11.15 |
Diwedd y Cyfarfod Cyhoeddus |