2019 Dyddiadau cyfarfodydd y Bwrdd
Dyddiadau cyfarfodydd y Bwrdd – 2019
Cynhelir nifer o gyfarfodydd y Bwrdd yn gyhoeddus. Ar gyfer y cyfarfodydd hyn rydym yn cyhoeddi Agenda ynghyd â’r papurau a gaiff eu hystyried yn y cyfarfodydd. Caiff y rhain eu cyhoeddi ar ein gwefan yma wythnos o flaen y cyfarfod. Rydym hefyd yn cyhoeddi’r cofnodion ar ôl iddynt gael eu cadarnhau yn y cyfarfod dilynol.
Mae croeso i’r cyhoedd a’n rhanddeiliaid arsylwi’r cyfarfodydd hyn. Os hoffech fynychu cyfarfod, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.
Croesewir defnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg yn ein cyfarfodydd. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael ym mhob cyfarfod cyhoeddus agored.
- Dydd Iau 24 Ionawr - Y Fenni
- Dydd Iau 21 Mawrth - Y Ganolfan Fusnes Orbit, Merthyr Tydfil
- Dydd Mawrth 21 Mai - Caerdydd (cyfarfod preifat)
- Dydd Iau 11 Gorffennaf - Bangor
- Dydd Iau 19 Medi - Tyddewi
- Dydd Iau 21 Tachwedd - Y Trallwng
Diweddarwyd ddiwethaf