Cyfarfod y Bwrdd 12 Gorffennaf 2018
Lleoliad: Ystafell y Cefnfor, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
Amser: 9:30 - 14:50
Ar ddiwedd y cyfarfod bydd y Cadeirydd yn derbyn cwestiynau oddi wrth aelodau o’r cyhoedd.
Byddem yn hapus i dderbyn unrhyw gwestiwn rydych yn bwriadu gofyn yn y cyfarfod o flaen llaw. Ein hymrwymiad ar y diwrnod yw gwrando ac ymateb i unrhyw beth y gallwn neu fynd a'r cwestiwn i ffwrdd gyda ni a danfon ateb atoch faes o law. Anfonwch bob cwestiwn cyn 9 Gorffennaf. Fel arall, bydd modd ichi ofyn cwestiynau ar y diwrnod.
Bydd yr holl gwestiynau a godwyd yn ystod y sesiwn hon yn cael eu cofnodi fel atodiad i’n cofnodion a gyhoeddir ar ein gwefan.
Os hoffech fynychu cyfarfod, neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.
Agenda
- Croeso
- Cyflwyniad lleol – problemau, cyfleoedd a heriau ynghlwm â rheoli adnoddau naturiol yr ardal leol
- Diweddariad cyllid
- Materion llywodraethu: Cofnodion a materion sy’n codi o gyfarfodydd is-bwyllgorau statudol blaenorol ac adroddiadau eraill
- Adolygiad o'r defnydd o arfau tanio ar dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru
- Rheolaethau pysgota newydd ar gyfer afonydd trawsffiniol Afon Dyfrdwy ac Afon Gwy
- Cau'r cyfarfod yn ffurfiol
- Adolygiad/sylwadau gan y cyhoedd
Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig
Cofnodion Wedi eu Cadarnhau Mai 2018
PDF [170.6 KB]
Cyfarfod y Bwrdd 12 Gorffennaf 2018 Agenda
PDF [128.6 KB]
Diweddariad cyllid
PDF [228.2 KB]
Strategaeth Iechyd a Diogelwch Lles 2018 - 2021
PDF [290.4 KB]
Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2017/18
PDF [112.0 KB]
Gohebiaeth y Gweinidog ar CNC Adolygu'r defnydd o Arfau Tân ar Ystâd Llywodraeth Cymru (Saesneg yn unig)
PDF [272.4 KB]
Cofnodion y Bwrdd wedi’u Cadarnhau
PDF [365.7 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf