Paratoi cynllun prosiect ar gyfer eich cais am grant

Pan ydych yn gwneud cais inni am grant, bydd angen i chi roi cynllun eich prosiect inni.

Templed cynllun y prosiect

Lawrlwythwch a chwblhewch dempled y cynllun prosiect ac uwchlwythwch ef i’ch cais am grant.

Sut i gwblhau templed y cynllun prosiect

Rydym eisiau gwybod sut y bydd eich cynnig yn gwneud gwahaniaeth i'r heriau a nodir.

Ar dempled y Cynllun Darparu Grant mae ddull model rhesymeg i gwblhau’r blychau gwag i ddangos y camau yn eich prosiect.

Y gweithgareddau y byddwch yn eu cyflawni, beth fydd allbynnau’r gweithgaredd hwnnw (sef y pethau y gallwch hawlio eich arian grant yn eu herbyn) a’r canlyniadau tymor hwy a gyflawnir.

Dylai hyn ddangos y bydd y camau y bydd eich prosiect yn eu cyflawni yn cysylltu'n uniongyrchol â chanlyniadau tymor hwy.

1. Dyddiad yr hawliad arfaethedig

Bydd dyddiadau'r hawliad, allbynnau, tystiolaeth a gwerth yr hawliad yn sail i ddyfarnu’r grant os byddwch chi’n llwyddiannus.

Dylech ddisgwyl cwblhau rhes ar gyfer pob cyfnod hawlio.

Gallwch ofyn i gael gwneud hawliadau bach yn fwy rheolaidd os oes angen, i reoli eich llif arian (er enghraifft hawliad bob chwarter), neu gallwch ofyn am gael gwneud hawliadau mwy (unwaith y flwyddyn) a fydd yn lleihau'r baich gweinyddol i chi ac i ni. Os hoffech dderbyn cyngor am hyn, cysylltwch â ni ar grants.team@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Dylai cyfanswm gwerth eich hawliadau yng ngholofn 5 gyfateb â'r gwerth yn eich taenlen gostio.

2. Gweithgareddau a gyflawnwyd yng nghyfnod yr hawliad

Dyma’r hyn fyddwch yn ei wneud yn ystod eich prosiect.

3. Allbynnau o gyfnod yr hawliad

Dyma gynhyrchion diriaethol eich prosiect.

4. Tystiolaeth o’r allbynnau i’w chyflwyno gyda’r hawliad

Bydd y dystiolaeth hon yn ffurfio rhan o’ch llythyr dyfarnu. Bydd angen ichi ei anfon gyda’r hawliad perthnasol.

5. Gwerth yr Hawliad

Bydd angen tystiolaeth ar gyfer pob gwerth pan fyddwch yn hawlio, fel yn achos anfonebau.

6. Deilliannau

Dyma’r newid ehangach a fydd yn cael eu cyflawni gan y cynhyrchion hyn. Mae canlyniad yn cael ei ddiffinio fel effaith eich prosiect - nid yn nhermau’r hyn a gyflawnodd eich gwasanaeth neu eich gweithgaredd ond yn hytrach newid yn y tymor hir.

7. Dulliau i fesur cynnydd yn erbyn deilliannau

Mae enghreifftiau yn cynnwys cyfweliadau â chyfranogwyr y prosiect, holiadur i’r grŵp cymunedol, arsyllu poblogaeth yr astudiaeth.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf