Rhyddid Gwybodaeth

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn rhoi'r hawl i chi wneud cais am fynediad at wybodaeth heb ei chyhoeddi sydd gennym ni, oni bai fod eithriad penodol yn berthnasol.

Cyn gwneud cais am wybodaeth

Gwneud cais am wybodaeth

Gallwch wneud cais am wybodaeth dros e-bost neu drwy’r post.

  • Ffoniwch: 0300 065 3000 a gofynnwch am gael eich trosglwyddo i Swyddog Mynediad at Wybodaeth
  • E-bost: timmynediadatwybodaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
  • Drwy’r post: anfonwch i’r swyddfa ym Mangor, wele’r manylion isod

    Bangor (Maes y Ffynnon)

    Maes y Ffynnon
    Penrhosgarnedd
    Bangor
    Gwynedd
    LL57 2DW

Wrth anfon cais atom:

  • byddwch yn benodol am y wybodaeth rydych ei heisiau, gan ddarparu amserlen os gallwch
  • rhowch wybod i ni sut yr hoffech dderbyn y wybodaeth (drwy'r post, e-bost, neu wyneb yn wyneb)
  • darparu manylion cyswllt rhag ofn y bydd angen i ni drafod y cais gyda chi

Os ydych chi am weld gwybodaeth y gallwn fod yn ei chadw amdanoch chi, ewch i'n tudalen ar sut i wneud cais am wybodaeth rydym yn gadw am danoch chi.

Cyngor ynghylch sut i wneud cais llwyddiannus

Er mwyn ein helpu ni i ymateb yn brydlon i'ch cais, rydyn ni'n eich cynghori i edrych ar y canllawiau ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth a gwefan Gov.uk ynghylch sut i wneud cais rhyddid gwybodaeth llwyddiannus.

Ymateb i'ch cais

Pan fyddwch wedi cyflwyno cais, rhaid inni ymateb cyn gynted â phosibl ac ymhen 20 diwrnod gwaith.

Mewn rhai achosion cyfyngedig, mae'n bosibl y gallwn estyn y cyfnod hwn ar gyfer achosion cymhleth. Os felly y bydd hi, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl, ynghyd â phryd y byddwn yn gallu ymateb.

Gwybodaeth ni allwn ei ddatgelu

Mae'n bosibl na fydd yr holl wybodaeth yn cael ei rhoi i chi oherwydd ei bod yn dod o dan esemptiad (o dan Ryddid Gwybodaeth) neu eithriad (o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol) rhag datgelu ‒ er enghraifft, oherwydd y byddai’n datgelu manylion personol rhywun arall yn annheg.

Ffioedd am wybodaeth

Mae ein hatodlen ffioedd yn nodi ein ffioedd ar gyfer darparu gwybodaeth i chi o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a Deddf Diogelu Data 1998.

Diweddarwyd ddiwethaf