Rydym yn amgyffred tirweddau fel lleoliadau amgylcheddol sy’n seiliedig ar leoedd:

  • y mae eu cymeriad yn deillio o gamau a rhyngweithiadau adnoddau naturiol a ffactorau diwylliannol;
  • sy’n darparu cyd-destun integreiddio ar raddfa tirwedd ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy;
  • sy’n darparu manteision lles amryfal i bobl

view of the afon dwyryd estuary

Ffoto©John Briggs

Cawn ein harwain gan y Confensiwn Tirweddau Ewropeaidd, o fewn y cyd-destun canlynol:

  • Rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, yng nghyd-destun Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016; a lles, yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Rydym yn cynnig tystiolaeth, canllawiau a chyngor yn ymwneud ag amrywiaeth eang o bolisïau, rhaglenni, cynlluniau a phrosiectau. Mae’r rhain yn cynnwys Polisi Cynllunio Cymru a Rheoli Datblygu, Tirweddau Dynodedig, Cynllunio Morol ac Asesiadau Lles lleol.

Ymhellach, rydym yn ystyried tirweddau wrth reoli ein hystad – mae hon yn cynnwys Ystad Goed Llywodraeth Cymru, sy’n cyfateb i 7% o Gymru. Rydym yn monitro ein tystiolaeth parthed tirweddau trwy gyfrwng Adroddiad CNC o Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) a byddwn yn cyfrannu at Ddatganiadau Ardal.

Cyd-destun Polisi

Asesiadau Tirwedd

Canllawiau

Darllenwch y canllawiau ar gynnal Asesiad Sensitifrwydd Tirwedd

Diweddarwyd ddiwethaf