Adnabod, rhoi gwybod am blâu ac afiechydon coed a’u rheoli

Adnabod plâu ac afiechydon

Pa un ai eich bod yn weithiwr coedwigaeth proffesiynol neu’n ymwelydd i’r goedwig, dewch o hyd i wybodaeth a fydd yn eich cynorthwyo i adnabod plâu ac afiechydon ar wefan Forest Research.

Rhowch wybod!

Rhowch wybod i ni am unrhyw blâu ac afiechydon coed peryglus gan ddefnyddio ffurflen Tree Alert gan Forest Research.

Rhowch gymaint o wybodaeth a phosib ynglŷn â’r hyd rydych wedi’i weld, ym mha le a’r rhywogaeth sydd wedi’i heffeithio.

Dyletswydd gweithwyr proffesiynol i roi gwybod am bryderon

Mae gan weithwyr coedwigaeth proffesiynol yn enwedig ddyletswydd statudol i adrodd am rai plâu a chlefydau dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005.

Os oes unrhyw amheuaeth gennych chi ynglŷn ag adrodd am eich pryderon, byddwch cystal â chysylltu â ni ar treehealth@naturalresourceswales.gov.uk

Rhybudd cynnar am blâu ac afiechydon: Observatree

Er mwyn ceisio atal sefydliad a lledaeniad plâu ac afiechydon ar draws y DU, sefydlwyd system rhybudd cynnar i goed o’r enw  Observatree.

Mae’n annog gweithwyr coedwigaeth proffesiynol a phobl sydd ynghlwm a choed i gadw golwg ar, a rhoi gwybod am unrhyw bla neu afiechyd posib cyn gynted â phosib.

Mae’n brosiect gwyddoniaeth y dinesydd cydweithredol, wedi’i arwain gan Forestry Research mewn cydweithrediad ag eraill, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru.  Nod y rhaglen yw :

Gwirfoddolwyr

Mae’r prosiect wedi sefydlu rhwydwaith craidd o dros 200 o wirfoddolwyr Observatree wedi’u hyfforddi sy’n cefnogi swyddogion a  gwyddonwyr  iechyd coed trwy ymgymryd ag ystod eang o waith arolwg a chynorthwyo gyda phrosesu a dilysu adroddiadau iechyd coed. 

Darganfyddwch mwy

Darganfyddwch mwy am Observatree a chofrestrwch i dderbyn diweddariadau.

Gall bawb helpu

Mae arolygwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), sydd wedi cael hyfforddiant pwrpasol, yn cynnal arolygon yn rheolaidd ac ar frys.  Maen nhw'n chwilio coedydd, porthladdoedd, meithrinfeydd coed a lleoliadau eraill ledled Cymru am arwyddion o blâu a chlefydau.

Ond gall unrhyw un a phawb ein helpu i gadw golwg ar fygythiadau - ac i ymateb iddyn nhw'n brydlon - trwy adnabod symptomau clefydau a rhoi gwybod i ni am unrh

Diweddarwyd ddiwethaf