Gwybodaeth am 'feini prawf tir' 

Canllawiau tanwydd coed fersiwn 2 (Chwefror 2017) mae'r ddogfen yn nodi canllawiau ynglŷn â sut i gydymffurfio â'r meini prawf ar gyfer tir biomas prennol (fel y'u diffinnir yn y cytundebau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy (RO), RHI a chontractau er gwahaniaeth (CfD1)). Yn cyd-fynd â'r 'Nodyn Cyngor Tanwydd Coed' mae dwy ddogfen bellach, ac mae'r rhain i gyd yn ffurfio'r 'Canllawiau Tanwydd Coed'. Mae'r 'Dull Cydbwyso Màs Tanwydd Coed' a'r 'Asesiad Rhanbarthol Seiliedig ar Risg: Dull Rhestr Wirio' yn adeiladu ar y manylion a nodir yn y ddogfen hon ac yn esbonio, gan ddefnyddio enghreifftiau, sut y gellir defnyddio dull cydbwyso màs neu ddull rhanbarthol seiliedig ar risg i helpu i gydymffurfio â'r meini prawf ar gyfer biomas prennol.

Darperir y wybodaeth hon er mwyn cefnogi'n partneriaid yn y sectorau tanwydd coed a biomas. Fodd bynnag, rydym yn nodi'r canlynol:

  • Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n gwerthu coed cynradd ardystiedig Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd® (FSC®) a Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC), a chynhyrchion pren a gynaeafwyd o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Cod trwyddedu Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd® FSC® yw FSC-C115912 a chod trwyddedu PEFC yw PEFC/16-40-1003.

  • Mae rhywfaint o hwn wedyn yn cael ei newid yn fiomas gan gynhyrchwyr eraill yn y gadwyn gyflenwi. Nid ydym yn gwerthu biomas yn uniongyrchol ac felly nid ydym wedi ein cofrestru ar y Rhestr Cyflenwyr Biomas. Cod ein trwydded FSC yw FSC-C115912.

Nid ydym yn gallu ymateb i unrhyw ymholiadau ar y mater hwn – rhoddir manylion cysylltu ar gyfer sefydliadau perthnasol isod

Rhagor o wybodaeth

Rhestr Cyflenwyr Biomas (BSL): mae'r rhestr hon yn rhoi cyngor a chymorth mewn perthynas â'r broses awdurdodi i'r Rhestr Cyflenwyr Biomas. Mae hefyd yn rhoi cyfarwyddyd a gwybodaeth am feini prawf nwyon tŷ gwydr (GHG).

Pwynt Arbenigedd Canolog ar Bren (CPET):Pwynt Arbenigedd Canolog ar Bren Mae'n cynnig cymorth i gyflenwyr a chynhyrchwyr tanwydd pren ar sut y gallant gydymffurfio â meini prawf tir tanwydd pren a nodir yn y Safon Pren. 

Ofgem: mae'n gallu helpu i ateb ymholiadau'n ymwneud â'r broses ymgeisio RHI. Mae Ofgem hefyd yn darparu cyngor ar ymholiadau cysylltiedig â dosbarthu tanwydd.

Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yw adran y llywodraeth sy'n gyfrifol am y strategaeth a pholisi cyffredinol ar gyfer ynni a newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys gwres a thrydan adnewyddadwy.

Diweddarwyd ddiwethaf