Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru

Wyddoch chi fod bod yn yr awyr a gored, cysylltu â natur a’r byd naturiol yn dda i ni?
Mae tystiolaeth yn dangos ei fod yn gwella iechyd a lle - fel rhwystro gordewdra a lleihau symptomau straen ac ADHD. Mae hefyd yn llesol i’r amgylchedd oherwydd gall helpu i atal colli gwybodaeth amgylcheddol ac annog ymddygiadau cadarnhaol gydol oes.
Mae ymchwil diweddar hefyd yn dangos y gall dysgu yn yr awyr agored gael effaith gadarnhaol ar berfformiad unigolion a grwpiau, gan helpu i wella sgiliau craidd fel datrys problemau a chyfathrebu.
Gall hefyd helpu i wella datblygiad cymdeithasol plant ysgol gynradd ac atal colli gwybodaeth amgylcheddol – gan ein helpu ni i gyd i ofalu am ein byd ar gyfer y dyfodol.
Athrawon, rhieni, grwpiau dysgu – rydym eich angen chi!
Os ydych chi’n mesur coed fel rhan o’ch gwers mathemateg, ar y traeth yn edrych ar ffurfiant twyni tywod, yn gwella eich sgiliau darllen mapiau ar lwybr cyfeiriannu, neu allan gyda’ch teulu dros y penwythnos, rhowch wybod i ni beth fyddwch chi’n ei wneud.
Rhannwch eich lluniau gyda ni gan ddefnyddio #WythnosDysguAwyrAgored a helpwch i annog eraill i gymryd rhan.
Os nad ydych chi ar y cyfryngau cymdeithasol, beth am ddanfon e-bost atom ni ar education@naturalresourceswales.gov.uk yn lle hynny, fel y gallwn weld faint o bobl fu’n cymryd rhan.
Angen ysbrydoliaeth? Dyma weithgareddau syml y gallwch roi cynnig arnyn nhw heddiw: