Dyn, menyw a bachgen back yn mynd am dro mewn coedtir

Chwarae yw un o'r prif ffyrdd y mae plant yn datblygu ac yn dysgu.  Trwy chwaraemae plant yn dysgu amdanyn nhw eu hunain a'r byd o'u cwmpas. Er mwyn annog teuluoedd, gofalwyr plant, gweithwyr chwarae a grwpiau addysg i wneud y gorau o faes chwarae gorau Cymru – ein hamgylchedd naturiol gwych, rydym wedi llunio rhai syniadau ac awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau i helpu i ennyn diddordeb plant a meithrin eu cysylltiad â natur.

Angen syniadau syml ar gyfer Chwarae a Hwyl i'r Teulu ym Myd Natur?

P'un a ydych chi’n ymweld â'ch parc lleol neu draeth neu'n mynd am dro drwy goetir lleol, mae archwilio natur yn ffordd wych i blant ymarfer eu cyrff a'u meddyliau.  Mae'r amgylchedd naturiol yn cynnig cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau difyr a syml waeth beth fo'u hoedran, lefel ffitrwydd neu ryw, felly beth am roi cynnig ar rai o'n hawgrymiadau ar gyfer gweithgareddau gyda'ch plant.

Lawrlwythwch ein Llyfryn Hwyl a Chwarae ym Myd Natur am syniadau ac awgrymiadau.

Mae ein rhestr chwarae YouTube ar gyfer Addysg, dysgu a chwarae'n, dysgu a chwarae’n cynnig amrywiaeth o fideos byr arweiniol i ddarparu ysbrydoliaeth ar gyfer anturiaethau awyr agored:

Tyrau cerrig
Creu abwydfa
Clwyddau bach natur
Darluniau mawr naturiol
Saffari creaduriaid bychan
Helfa chwilotwyr

Ysbrydolwch eu creadigrwydd 

Edrychwch ar ein llyfryn Awyr Agored Creadigol am syniadau. O greu mandalâu naturiol i wneud pili-palas allan o begiau, gyda 26 o syniadau ar gyfer gweithgareddau, mae rhywbeth i bawb.

Lawrlwythwch ein Llyfryn Awyr Agored Creadigol i helpu i ysbrydoli creadigrwydd eich plant pan fyddwch allan yn yr amgylchedd naturiol.

Ar gyfer gweithgaredd 15 bydd angen ychydig o adnoddau ategol arnoch. Cofiwch fynd â nhw gyda chi i helpu i wneud adeiladu lloches yn hwyl i'r teulu cyfan.

Gweithgaredd 15 - Cysgodfannau a chuddfannau (nodyn gwybodaeth)
Gweithgaredd 15 - Her lloches greadigol (cardiau adnoddau)

Gweithgareddau synhwyraidd i gael eich teulu i archwilio a darganfod yn yr amgylchedd naturiol

Mae defnyddio eu synhwyrau i archwilio'r amgylchedd naturiol yn caniatáu i blant ddysgu am y byd o'u cwmpas a’u hunain. O ddefnyddio eu synnwyr arogleuo i greu arogleuon naturiol, i edrych ar yr amgylchedd naturiol o bersbectif newydd wrth gerdded o dan ganopi, mae'r gweithgareddau a'r gemau rhyngweithiol hyn yn sicr o ysgogi awydd i grwydro a darganfod.

Lawrlwythwch ein Llyfryn Synhwyrau Naturiol ac ewch â'r syniadau allan gyda chi.

Mae angen rhywfaint o wybodaeth ac adnoddau ategol ar rai o'r gweithgareddau:

Gweithgaredd 7: Pigog, gogleisiol (cardiau adnoddau) 

Gweithgaredd 8: Snap anifeiliaid (cardiau adnoddau) 

Gweithgaredd 14: Helfa sborion arfordirol (cardiau adnoddau) 

Gweithgaredd 14: Helfa sborion tir​ (cardiau adnoddau)

Ydy’ch plant yn mwynhau straeon a llyfrau natur?

Dysgwch am yr hyn y mae ein ffrind Heti yn ei feddwl am hoff stori yn y ffilm fer hon.

Efallai y bydd yn eich ysbrydoli chi a'ch plant i fynd allan! 

Neu beth am droi at lyfrau gyda'n rhestr lyfrau coed a choetiroedd?

Canghennau a llyfrau yn llu! – (rhestr lyfrau)

Ddim yn siŵr ble i fynd?

Archwiliwch ein coetiroedd, gwarchodfeydd natur, llwybrau a thir mynediad agored.  Mae ein tudalennau gwe lleoedd i ymweld â hwy yn caniatáu i chi chwilio yn ôl mannau i fynd iddynt neu weithgareddau i'w gwneud.

Awgrymiadau i'ch helpu i fynd â'ch plentyn allan i'r gwyllt

Cyn mynd allan, edrychwch ar ein hawgrymiadau ar gyfer sesiwn chwarae ddiogel a hapus gyda'ch plant:

  • Amser - Ceisiwch roi cymaint o amser â phosibl i'ch plant archwilio ac ymchwilio, profi eu galluoedd a dilyn eu diddordebau. Beth am ddod o hyd i fan braf i eistedd ac ymlacio wrth i'r plant grwydro’r ardal?
  • Dillad - Ydych chi i gyd yn gwisgo'r dillad cywir ar gyfer ble rydych chi'n mynd a'r tywydd? Os ydych yn mynd i'r goedwig gallai fod yn oerach o dan y coed. Gallai'r arfordir fod ychydig yn fwy gwyntog neu'n boethach. Rhowch ddigon o haenau amdanoch os yw'n oer; cofiwch y dillad gwrth-ddŵr os yw'n wlyb; esgidiau cadarn ar gyfer cerdded a dringo; llewys ysgafn hir, gorchuddion coesau a hetiau haul i ddiogelu croen ifanc rhag yr haul. A chofiwch y cynnyrch ymlid pryfed a'r eli haul!
  • Bwyd a nwyddau - Oes gennych chi ddigon o fyrbrydau a diodydd i gadw pawb yn hapus yn ystod eich amser y tu allan? Mae llosgi egni yn yr awyr iach yn codi chwant bwyd ar blant (ac oedolion!). A fydd rhywle i olchi dwylo cyn bwyta? Efallai y dylech gymryd ychydig o ddŵr ychwanegol/clytiau gwlyb/hylif golchi dwylo. Cofiwch gael gwared ar unrhyw ddeunydd lapio, cynwysyddion a bwyd dros ben yn ofalus neu fynd â nhw adref gyda chi fel y gellir eu hailgylchu.
  • Sicrhau ymweliad diogel a phleserus - Dilynwch y Cod Cefn Gwlad i sicrhau ymweliadau diogel a hapus â chefn gwlad a’r arfordir, ac er mwyn osgoi achosi problemau i eraill. Am fwy o wybodaeth ar #MentronGall gweler Mentro’nGallCymru

Pam chwarae y tu allan?

Edrychwch ar ein poster chwarae i gael gwybodaeth am y manteision lluosog i iechyd, lles a dysgu, wrth chwarae mewn mannau naturiol. Mae ein posteri eraill ar gysylltu â natur, gweithgarwch corfforol a lles ar gael ar ein tudalen Ymchwil dysgu yn yr awyr agored.

Chwarae plant – Mae gan blant yr hawl i chwarae

Oeddech chi'n gwybod bod gan blant hawl ddynol, gyfreithiol i chwarae? Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd o ran hyrwyddo hawl plant i chwarae. Os ydych chi eisiau gwybod mwy am chwarae, mae gan Chwarae Cymru lawer o wybodaeth ac adnoddau gwych.

Credwn mai hawl pob plentyn yw tyfu i fyny a byw mewn amgylchedd naturiol iach sy'n cael ei reoli'n gynaliadwy. Mae ein Siarter Hawliau Plant yn dangos sut y byddwn yn cynnal ac yn hyrwyddo hawliau plant yn ein gwaith ac yn darparu gwell gwasanaethau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Dysgwch fwy am y dull hawliau plant ar wefan Comisiynydd Plant Cymru.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf