Datganiad caethwasiaeth fodern

Cyflwyniad

Mae’r datganiad hwn wedi’i gynllunio i fodloni gofynion Rhan 6 o adran 54 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 ac mae’n rhan o’n hymrwymiad i ‘Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi’ Llywodraeth Cymru a Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU (UKWAS).

Fel y corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru, rydym yn cynnal ein hunain i’r safonau uchaf o ymddygiad moesegol yn ein holl weithgareddau ac rydym wedi ymrwymo i welliant parhaus. Nid yw CNC yn cymryd rhan mewn arferion masnachu pobl, caethwasiaeth na llafur gorfodol, nac yn cymeradwyo’r arferion hynny.

Trwy ein cynllun corfforaethol a deddfwriaeth fel y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, ein huchelgais yw gweld natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd ac mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni fel sefydliad. Rydym yn falch o wasanaethu pobl Cymru trwy fod fel a ganlyn:

  • Mewn cysylltiad ag eraill: rydym yn gwerthfawrogi ein hymlyniad dwfn â thir a dŵr, natur a chymunedau Cymru ac yn adeiladu partneriaethau ystyrlon
  • Yn feiddgar: rydym yn defnyddio ein llais, yn gweithredu i wneud gwahaniaeth, ac yn arwain trwy esiampl
  • Yn ofalgar: rydym yn gwrando i ddeall ac yn gofalu am ein gilydd a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, a’r amgylchedd rydym ni i gyd yn dibynnu arno
  • Yn ddyfeisgar: rydym yn archwilio ffyrdd newydd o wneud pethau, yn arloesi i gyflymu newid, ac yn defnyddio ein hadnoddau’n effeithiol

Rydym wedi ymrwymo i wella ein harferion busnes i frwydro yn erbyn caethwasiaeth fodern a masnachu pobl ac i sicrhau nad ydym yn rhan o unrhyw achosion o dorri hawliau dynol. Rydym wedi ymrwymo i ddim goddefgarwch o gaethwasiaeth, masnachu pobl, ac arferion llafur plant.

Diffiniadau

At ddibenion y datganiad hwn, rydym wedi mabwysiadu’r diffiniadau canlynol:

  • ‘Caethwasiaeth’ yw lle mae perchnogaeth yn cael ei harfer dros unigolyn. Mae rhywun mewn caethwasiaeth os yw’r canlynol yn wir amdano:
    o ei fod yn cael ei orfodi i weithio trwy fygythiad meddyliol neu gorfforol
    o ei fod yn eiddo i ‘gyflogwr’ neu’n cael ei reoli ganddo, fel arfer drwy gamdrin meddyliol neu gorfforol neu fygythiad o gam-drin
    o ei fod yn cael ei ddad-ddyneiddio, ei drin fel nwydd, neu ei brynu a’iwerthu fel ‘eiddo’
    o ei fod yn cael ei gyfyngu’n gorfforol neu fod cyfyngiadau ar ei ryddid
  • Mae ‘caethwasanaeth’ yn ymwneud â’r rhwymedigaeth i ddarparu
    gwasanaethau a osodir gan orfodaeth.
  • Mae ‘llafur dan orfod neu lafur gorfodol’ yn golygu gwaith neu wasanaeth a
    dynnir oddi wrth unrhyw unigolyn o dan fygythiad cosb ac nad yw’r unigolyn
    wedi cynnig ei hun yn wirfoddol ar ei gyfer.
  • Mae ‘masnachu pobl’ yn ymwneud â threfnu neu hwyluso taith rhywun arall
    gyda’r bwriad o fanteisio arno.

Bydd y datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi ar gofrestr Tryloywder mewn Cadwyni Cyflenwi (TISC) (tiscreport.org).

Ynglŷn â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) 

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru – mae’n cyflogi dros 2,400 o staff ar draws 17 o swyddfeydd a 36 o ddepos ledled Cymru ac mae ganddo gyllideb o ryw £265 miliwn ar gyfer 2023/24.

Cawsom ein sefydlu yn unol â’r manylebau yng Ngorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 a Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013. Rydym yn cael llythyr cylch gwaith sy’n nodi’r hyn y mae Llywodraeth Cymru am inni ei gyflawni yn ystod y flwyddyn honno a llythyr ariannu
yn nodi’r gyllideb sydd ar gael inni.

Mae ein gwaith yn cael ei oruchwylio gan fwrdd sy’n cynnwys y cadeirydd a 12 cyfarwyddwr anweithredol pellach a benodir gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â’r prif weithredwr.

Mae tua hanner ein cyllideb incwm yn deillio o gymorth grant gan Lywodraeth Cymru, ond rydym hefyd yn cynhyrchu incwm drwy godi tâl am rai o’n gwasanaethau a thrwy sawl gweithgaredd masnachol, gan gynnwys gwerthu pren a thenantiaethau.

Ein cadwyni cyflenwi

Mae cadwyni cyflenwi CNC yn eistedd yn bennaf o fewn y categorïau canlynol:

  • Peirianneg Sifil ac Ymgynghoriaeth
  • Rheoli Fflyd
  • Cyfleusterau ac Asedau
  • TGCh
  • Gwasanaethau Proffesiynol
  • Rheoli Tir
  • Hydrometreg a Thelemetreg
  • Gweithrediadau Coedwigaeth
  • Gwasanaethau Labordy

Mae gan CNC lawer o’i gontractau a’i fframweithiau ei hun ar gyfer categorïau gwariant penodol a defnyddir y rhain gan ein staff i gyflawni ein hamcanion. Mae adran Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd â’r sector cyhoeddus ehangach, gan gynnwys awdurdodau lleol a GIG Cymru, i ddatblygu a chyflawni cytundebau fframwaith cenedlaethol cydweithredol. Mae CNC yn defnyddio nifer o’r cytundebau hyn ac rydym hefyd yn defnyddio fframweithiau Gwasanaeth Masnachol y Goron (CCS), Yorkshire Purchasing Organisation (YPO) ac Eastern Shires Purchasing Organisation (ESPO) lle bo’n briodol. Yr
arweinydd caffael neu’r arweinydd categori sy’n penderfynu a ddylid prynu o gontract neu gytundeb fframwaith CNC addas.

Rydym yn aelod achrededig o’r Sefydliad Cyflog Byw Gwirioneddol ac felly’n anrhydeddu ymrwymiadau’r cyflog byw gwirioneddol i’n gweithwyr (gan gynnwys gweithwyr asiantaeth), boed yn amser llawn neu ran amser.

Ein polisïau a’n harferion gwaith

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw gaethwasiaeth fodern na masnachu pobl yn ein cadwyn gyflenwi nac yn unrhyw ran o’n busnes. Rydym yn parhau i ddatblygu ein polisïau a’n gweithdrefnau i adlewyrchu ein hymrwymiad i weithredu’n gynaliadwy, yn foesegol ac yn onest yn ein holl berthnasoedd busnes.

Mae CNC yn lliniaru’r risg y bydd caethwasiaeth fodern yn digwydd yn ei weithlu drwy sicrhau bod staff a gyflogir yn uniongyrchol yn cael eu recriwtio drwy bolisïau recriwtio adnoddau dynol cadarn. Mae polisi Codi Pryder Difrifol er Budd y Cyhoedd (Chwythu’r Chwiban) ar waith i aelodau o staff godi unrhyw bryderon am
ddrwgweithredu yn ogystal â chanllawiau i staff sy’n profi cam-drin domestig. Mae gennym hefyd weithdrefn Bwlio ac Aflonyddu yn ogystal â gweithdrefn Datrys y gall staff eu defnyddio i godi cwynion. Mae staff a gyflogir dros dro (fel gweithwyr asiantaeth) yn cael eu recriwtio, lle bo modd, drwy gyflenwyr cymeradwy CNC.

Cynnydd yn erbyn ein hymrwymiadau

Mae ein timau gweithredol yn parhau i fod yn wyliadwrus mewn perthynas â’r mater hwn. Trwy eu gwaith partneriaeth a’u hymgysylltiad rhagweithiol ag asiantaethau arbenigol allanol, rydym wedi datblygu gwell dealltwriaeth o feysydd posibl ein gweithrediad lle mae achosion o gaethwasiaeth fodern yn fwy tebygol.

Rydym wedi sefydlu tudalen fewnrwyd i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern yn fewnol. Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am sut i adnabod arwyddion posibl o gaethwasiaeth fodern, yn rhoi gwybod i staff am sut i godi pryderon, ac yn darparu amryw o gyfeiriadau at ffynonellau cyngor mwy manwl.

Rydym wedi sefydlu Gwasanaeth Cefnogi Rheoli Contractau ar gyfer y sefydliad. Er ei fod newydd ei sefydlu, bydd y tîm hwn yn sefydlu arferion rheoli contractau da, gan gefnogi staff i reoli contractau i sicrhau bod canlyniadau’n cael eu cyflawni drwy roi’r offer a chanllawiau angenrheidiol iddynt. Bydd y ffyrdd newydd hyn o weithio a gwell rheolaeth ar gontractau hefyd yn sicrhau mwy o fonitro a thryloywder yn erbyn y cytundebau a roddir ar waith gennym.

Rydym wedi parhau i wneud taliadau prydlon i’n cyflenwyr i leihau’r risg y bydd arferion anfoesegol yn treiddio drwy ein cadwyn gyflenwi.

O fewn ein prosesau tendro, mae caethwasiaeth fodern a chyflogaeth foesegol wedi ymwreiddio fel ystyriaethau allweddol, gan ffurfio rhan o’n meini prawf dethol.

Ein hymrwymiadau yn y dyfodol

Dyma bedwerydd Datganiad Caethwasiaeth Fodern CNC. Adeiladir ar ein gwaith yn y maes hwn a’i ddatblygu bob blwyddyn, ac rydym yn parhau i adolygu ein cynnydd a’n datganiad yn flynyddol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a gweithredol.

Rydym yn cydnabod bod mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn gofyn am ddull cydgysylltiedig, cydweithredol a hirdymor.

Rydym wedi cwblhau adolygiad o’n dogfennau caffael ac wedi sicrhau bod arferion cyflogaeth foesegol yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses gaffael.

Byddwn yn datblygu strategaeth gaffael a chontractau ac yn ategu nodau Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), unwaith y daw’n gyfraith, gan ymgorffori cyflog teg a thriniaeth gyfartal ymhellach i’n gweithwyr a gweithwyr ein cadwyni cyflenwi o fewn ffyrdd CNC o weithio.

Byddwn yn cysylltu â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i rannu dulliau gweithredu ac addasu unrhyw arferion da sy’n gyffredin yng Nghymru wrth gadw at y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern.

Byddwn yn parhau i adolygu ein prosesau mewnol a monitro effeithiolrwydd ein gweithredoedd yn erbyn caethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Byddwn yn ceisio cynyddu tryloywder yn ein cadwyni cyflenwi gyda’r nod o leihau’r risg o gaethwasiaeth fodern ac arferion anfoesegol.

Dros y flwyddyn weithredol 2023-24, byddwn yn parhau i ysgogi trafodaeth a chodi ymwybyddiaeth ar draws y sefydliad am Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a pha risgiau y gallai hyn eu peri i ni fel sefydliad.

Byddwn yn sicrhau ein bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am risgiau a materion allanol yn y gadwyn gyflenwi sy’n effeithio ar ein darpariaeth gwasanaeth, drwy rwydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Bydd y datganiad hwn yn cael ei adolygu’n flynyddol ac mae wedi’i gymeradwyo gan y bwrdd.

Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru
Dyddiedig: 21.11.2023

Diweddarwyd ddiwethaf