Modelu ar gyfer Asesiadau o Ganlyniadau Llifogydd

Asesiadau o ganlyniadau llifogydd

Mae'n bosibl y bydd angen asesiadau o ganlyniadau llifogydd arnoch ar gyfer y canlynol:

Mae asesiadau o ganlyniadau llifogydd yn dangos y perygl llifogydd o safbwynt y canlynol:

  • i ddatblygiad newydd
  • o ganlyniad i ddatblygiad newydd neu weithgarwch perygl llifogydd

Gallwch hefyd ddefnyddio asesiadau o ganlyniadau llifogydd i ddangos bod eich cynnig:

  • yn cynnwys mesurau lliniaru priodol i leihau'r perygl llifogydd a chanlyniadau
  • mor ddiogel â phosibl
  • ddim yn achosi perygl cynyddol o lifogydd rhywle arall

Yr hyn y dylid ei gynnwys yn eich asesiadau o ganlyniadau llifogydd

Dylai asesiadau o ganlyniadau llifogydd ddarparu tystiolaeth o berygl llifogydd o'r canlynol:

  • afonydd a'r môr
  • dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach
  • dŵr daear
  • cronfeydd dŵr (os yw'n berthnasol)

Os yw eich datblygiad wedi'i leoli mewn ardal â pherygl llifogydd cyfunol o afonydd a'r môr, cysylltwch â'r tîm Dadansoddi Perygl Llifogydd lleol i drafod pa gyfuniadau o debygolwrydd ar y cyd y dylech eu hasesu: 

FRASouth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
FRANorth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15): Datblygu a pherygl llifogydd yn rhestru'r holl wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys mewn asesiad o ganlyniadau llifogydd i ategu cais cynllunio neu gais am Drwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd.

Rhestr wirio model perygl llifogydd

Defnyddiwch ein rhestr wirio model pergyl llifogydd i'ch helpu i ddatblygu eich model. Rydym yn defnyddio'r rhestr wirio hon at ddibenion ein prosesau sicrhau ansawdd.

Mae'r rhestr wirio yn fan cychwyn da, ond dylech hefyd wirio'r canlynol ymhellach:

  • nodweddion lleol
  • amodau lleol
  • cyfyngiadau'r feddalwedd rydych yn ei defnyddio

Dylech gwblhau'r rhestr wirio a'i chyflwyno i ni ynghyd â'ch model ac adroddiadau.

Tystiolaeth y dylid ei chynnwys yn eich asesiad

Rhaid i chi asesu perygl llifogydd ac effeithiau yn eich asesiad o ganlyniadau llifogydd yn drylwyr. Gallai'r rhain gynnwys y canlynol:

  • model hydrolig sylfaenol priodol a chadarn sy'n cynrychioli amodau cyfredol, ac sy'n cynnwys y feddalwedd modelu hydrolig ddiweddaraf (os ydych yn defnyddio model hydrolig)
  • model hydrolig sy'n integreiddio eich gwaith arfaethedig parhaol a dros dro â'r model sylfaenol
  • arolygon topograffeg (yn unol â Datwm Ordnans lle bo hynny'n bosibl), a'r amcangyfrifon o lifau llifogydd a ddefnyddiwyd gennych
  • allbynnau o'r model hydrolig sylfaenol, a'r model hydrolig arfaethedig, sy'n cyfrifo'r perygl llifogydd o ran dyfnder, cyflymder a graddfa ar gyfer y llifau llifogydd a ddewiswyd gennych
  • cymhariaeth o ganlyniadau eich model sylfaenol a model eich cynnig
  • amrediad o senarios llifogydd “hyd at, a chan gynnwys” uchafswm y digwyddiad y cynlluniwyd ar ei gyfer
  • lwfans ar gyfer y newid yn yr hinsawdd yn unol â chanllawiau cyfredol y llywodraeth
  • asesiad effeithiau llifogydd ynglŷn â bylchau mewn amddiffynfeydd a/neu rwytrau ar bont/cwlfert, neu bibell yn croesi cwrs dŵr

Dangos nad oes perygl cynyddol o lifogydd

Er mwyn dangos nad yw eich datblygiad arfaethedig, neu weithgarwch perygl llifogydd wedi achosi perygl cynyddol o lifogydd rhywle arall, rhaid i'ch asesiad o ganlyniadau llifogydd, ac unrhyw waith modelu cysylltiedig, ddangos:

  • na cheid cynnydd yn nyfnder, cyflymder, perygl, neu raddfa dŵr llifogydd y tu allan i sianel yr afon neu'r ardal storio dŵr llifogydd gytunedig
  • na cheid newid o ran dechreuad llifogydd
  • na cheid effaith ar seilwaith o fewn sianel yr afon neu seilwaith sydd wedi'i gysylltu'n hydrolegol â sianel yr afon

Camau lliniaru

Fel rheol, yn eich asesiad o ganlyniadau llifogydd, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o fesurau lliniaru i fynd i'r afael ag unrhyw berygl cynyddol o lifogydd mewn lleoliad arall.

Cyfrifo perygl llifogydd

Rhaid i'ch cyfrifiadau fod yn gywir, a'u bod wedi'u mesur mewn metrau fel a ganlyn:

  • canlyniadau dyfnder a lefelau i ddau bwynt degol
  • cyflymder, a gwerthoedd perygl i un pwynt degol

Mae hyn oherwydd cydraniad yn y model.

Er enghraifft, os gwnaethoch gyfrifo:

  • bod y lefel ddŵr sylfaenol 100.000 metr Uwchben Datwm Ordnans
  • a bod y newid arfaethedig yn lefel y dŵr yn 100.004 metr Uwchben Datwm Ordnans

Byddech yn adrodd hyn fel 100.00 metr Uwchben Datwm Ordnans. Hynny yw, dim newid i'w adrodd.

Ond, yn yr un enghraifft, os ydych yn cyfrifo:

  • bod y lefel ddŵr arfaethedig 100.005 metr Uwchben Datwm Ordnans

Byddech yn adrodd hyn fel newid yn lefel y dŵr lefel gyda lefel ddŵr arfaethedig o 100.01 metr Uwchben Datwm Ordnans. Mae hyn yn newid cadarnhaol yn lefel y dŵr o'i chymharu â'r lefel sylfaenol.

Diweddarwyd ddiwethaf