Canllaw i’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau fel perchennog glannau afon yng Nhymru

1.  Cyflwyniad

Os ydych chi’n berchen ar eiddo ar lan afon, ffrwd neu ffos, rydych yn ‘berchennog glannau’r afon’ ac mae’r canllaw hwn ar eich cyfer chi. Mae wedi ei ddiweddaru gyda gwybodaeth newydd am bwy i gysylltu â nhw am gyngor am gyrsiau dŵr.

Mae eich hawliau fel perchennog tir glannau’r afon wedi eu sefydlu mewn cyfraith gwlad ers nifer o flynyddoedd, ond efallai y bydd cyfreithiau eraill yn effeithio arnynt.

Efallai y bydd angen ichi gael caniatâd ar gyfer rhai gweithgareddau gan drydydd parti, fel eich awdurdod lleol (cyngor unedol, sir neu ddosbarth), Ardaloedd Draenio Mewnol (ADD) neu Cyfoeth Naturiol Cymru. Gelwir y sefydliadau hyn yn awdurdodau rheoli risg, a disgrifir eu rôl yn Atodiadau 1 a 2.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio:

  • eich hawliau a’ch cyfrifoldebau fel perchennog glannau’r Mae hefyd yn esbonio rôl eich awdurdod rheoli risg a sefydliadau eraill y gall fod angen ichi weithio gyda nhw
  • pwy sy’n gyfrifol am reoli perygl llifogydd ac amddiffynfeydd rhag llifogydd, a beth mae hynny’n ei olygu yn ymarferol
  • sut y gallwch weithio gyda’r awdurdod rheoli risg a sefydliadau eraill i ddiogelu a gwella amgylchedd naturiol ein hafonydd a’n nentydd

Mae gan eich awdurdod rheoli risg rymoedd a chyfrifoldebau i reoli’r risg o lifogydd ac i weithio gydag eraill i wella amgylchedd afonydd yng Nghymru.

Cwrs dŵr yw unrhyw sianel naturiol neu artiffisial uwchlaw’r ddaear neu dan y ddaear y mae dŵr yn llifo ar ei hyd, fel afon, nant, ffrwd, ffos, cafn melin neu gwlfer.

Gall eich awdurdod rheoli risg roi cyngor ac arweiniad ichi ar reoli’ch cwrs dŵr.

Fodd bynnag, yn ddibynnol ar y sefyllfa, ni fydd yn cymeradwyo neu gydsynio i waith a allai niweidio’r amgylchedd neu gynyddu’r risg o lifogydd, hyd yn oed os yw’r gwaith yn gadarn o ran ei adeiladwaith. Bydd yn ceisio osgoi creu cwlfer, newid neu sianelu cyrsiau dŵr, ac adeiladu oddi mewn i gyrsiau dŵr, gan dresmasu ar le. Bydd yn hyrwyddo dulliau ‘peirianneg feddal’ i reoli erydu (gweler adran 11).

O fis Ebrill 2015, mae holl Ardaloedd Draenio Mewnol yng Nghymru yn cael eu gweinyddu gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n golygu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am bob cwrs dŵr yn yr ardaloedd hyn.

2.  Eich hawliau a’ch cyfrifoldebau

Os ydych yn berchen ar dir sy’n ffinio â chwrs dŵr, sydd uwchlaw cwrs dŵr neu â chwrs dŵr yn rhedeg drwyddo, mae gennych hawliau a chyfrifoldebau penodol. Mewn termau cyfreithiol rydych yn ‘berchennog glannau afon’. Os ydych yn rhentu’r tir, dylech gytuno â’r perchennog pwy fydd yn rheoli’r hawliau a’r cyfrifoldebau hyn.

Eich hawliau

  • Os yw terfyn eich tir yn ffinio â chwrs dŵr, fe dybir mai chi yw perchennog y tir hyd at ganol y cwrs dŵr, oni bai fod rhywun arall yn berchen arno.
  • Os bydd cwrs dŵr yn rhedeg yn gyfochrog â wal neu glawdd eich gardd, dylech edrych ar weithredoedd eich eiddo i weld ai’r wal neu’r clawdd yw terfyn eich tir. Os mai’r cwrs dŵr yw’r terfyn, byddir yn cymryd mai chi yw perchennog y tir hyd at ganol y cwrs dŵr.
  • Os ydych yn berchen ar dir sydd â chwrs dŵr yn llifo drwyddo neu oddi tano, tybir mai chi yw perchennog y rhan honno o’r cwrs dŵr sy’n rhedeg drwy’ch tir chi.
  • O bryd i’w gilydd bydd trydydd parti’n gyfrifol am gwrs dŵr, yn enwedig un artiffisial. Dylai hyn fod wedi’i nodi ar weithredoedd eich eiddo.
  • Dylai dŵr lifo i’ch tir neu oddi tano yn ei gyfaint a’i ansawdd naturiol. Mae hyn yn golygu na ddylid tynnu dŵr o gwrs dŵr pe gallai hynny amddifadu eraill ymhellach i lawr yr afon. Mae hefyd yn golygu na chaiff unrhyw un wneud dim a allai arwain at lygru’r dŵr a hynny’n achosi dirywiad yn ansawdd naturiol y dŵr mewn cwrs dŵr.
  • Mae gennych hawl i amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd, a’ch tir rhag erydu. Fodd bynnag, rhaid ichi gytuno ar eich cynlluniau gyda’r awdurdod rheoli risg cyn cychwyn ar y gwaith (gwelwer adran 5).
  • Fel arfer bydd gennych hawl i bysgota’ch cwrs dŵr, drwy ddull cyfreithiol. Rhaid i unrhyw un 12 oed neu hŷn fod â thrwydded gwialen ddilys oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n bwysig gwirio beth yw’ch hawliau, oherwydd gellir gwerthu neu brydlesu hawliau pysgota.

Mae eich dyletswydd i berchenogion eraill glannau’r afon, y gymuned a’r amgylchedd yn effeithio ar yr hawliau hyn.

Eich cyfrifoldebau

  • Rhaid ichi adael i ddŵr lifo drwy’ch tir heb amharu arno, ei lygru na’i arallgyfeirio mewn ffordd sy’n effeithio ar hawliau pobl eraill. Mae gan eraill hefyd yr hawl i dderbyn dŵr yn ei gyfaint a’i ansawdd naturiol fel yr eglurir yn adran Eich Hawliau. Dylech fod yn ymwybodol fod gan holl berchenogion glannau’r afon yr un hawliau a chyfrifoldebau. 
  • Rhaid ichi dderbyn llif llifogydd drwy’ch tir, hyd yn oed os yw wedi’i achosi gan ddiffygion capasiti ymhellach i lawr yr afon. Nid oes gan dirfeddiannwr unrhyw ddyletswydd mewn cyfraith gwlad i wella capasiti draenio cwrs dŵr y mae ef neu hi yn berchen arno.
  • Dylech gadw’r glannau’n glir o unrhyw beth a allai achosi rhwystr a chynyddu’r perygl llifogydd, un ai ar eich tir chi neu’n bellach i lawr yr afon os caiff ei olchi i ffwrdd. Chi sy’n gyfrifol am gynnal gwely a glannau’r cwrs dŵr a’r coed a’r llwyni sy’n tyfu ar y glannau. Dylech hefyd glirio unrhyw sbwriel a charcasau anifeiliaid o’r sianel a’r glannau, hyd yn oed os na ddaethant o’ch tir chi. Efallai y bydd angen caniatâd eich awdurdod rheoli risg ar gyfer y gwaith hwn (gweler adran 5). Gall eich awdurdod lleol roi cyngor ar gael gwared â charcasau anifeiliaid.
  • Dylech gadw ymyl yn rhyddo ddatblygu ar y glannau ger cwrs dŵr bob amser. Mae’n hwyluso mynediad at y cwrs dŵr rhag ofn y bydd angen unrhyw gynnal a chadw neu archwilio. Mewn rhai ardaloedd, ceir is-ddeddfau lleol sy’n esbonio beth y gallwch ac na allwch ei wneud o fewn
    pellter penodol i gwrs dŵr. I gael rhagor o wybodaeth am waith ger cyrsiau dŵr dylech gysylltu â’ch awdurdod rheoli risg.
  • Rhaid ichi gadw unrhyw strwythurau, fel cwlferi, sgriniau sbwriel, coredau a giatiau melinau, yn glir o sbwriel. Dylech drafod cynnal a chadw amddiffynfeydd rhag llifogydd, fel waliau ac argloddiau, ar eich eiddo gyda’ch awdurdod rheoli risg. Gallant fod yn dyngedfennol er mwyn amddiffyn rhag llifogydd.
  • Ni ddylech achosi rhwystrau, dros dro na pharhaol, a fyddai’n atal pysgod rhag pasio drwyddynt.
  • Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru a’r awdurdod rheoli risg perthnasol os ydych yn dymuno adeiladu neu addasu strwythur sy’n gweithredu fel rhwystr i gwrs dŵr. Dan y Rheoliadau Llyswennod, mewn rhai achosion gall fod yn drosedd os nad ydych yn hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru o’r uchod.
  • Helpwch i ddiogelu ansawdd dŵr. Peidiwch â defnyddio glannau afonydd i gael gwared ar wastraff gardd neu wastraff arall, lle gallai gael ei olchi i’r afon. Mae hyn yn cynnwys tocion glaswellt, sy’n llygru’r dŵr.
  • Chi sy’n gyfrifol am ddiogelu’ch eiddo rhag dŵr sy’n treiddio drwy lannau naturiol neu artiffisial. Pan fydd hyn yn difrodi amddiffynfa rhag llifogydd, gallai’ch awdurdod rheoli risg fynnu eich bod chi’n talu am y gwaith trwsio.
  • Rhaid ichi reoli rhywogaethau estron goresgynnol fel clymog Japan. Gall eich awdurdod rheoli risg lleol eich cynghori ar sut i reoli a chadw trefn ar y rhywogaethau hyn.
  • Sicrhewch fod unrhyw waith a wnewch ar gwrs dŵr yn cyd-fynd â’r system afonydd naturiol. Ni ddylai gwaith niweidio bywyd gwyllt a, lle bynnag y mae hynny’n bosibl, dylech geisio gwella’r cynefin. Siaradwch â’r awdurdod rheoli risg perthnasol ynglŷn â chadwraeth bywyd gwyllt a natur.
  • Os nad ydych yn siŵr beth mae rhaid ichi ei wneud a/neu fod byw ger cwrs dŵr yn brofiad newydd ichi, gofynnwch i’ch awdurdod rheoli risg am gyngor.
  • Efallai y bydd eich eiddo yn cynnwys cwrs dŵr sy’n llifo mewn cwlfer. Mae gennych yr un cyfrifoldebau i gynnal y gwlfer â phe byddai’n gwrs dŵr agored.
  • Os nad ydych yn cyflawni’ch cyfrifoldebau, gallech wynebu gweithredu cyfreithiol.
  • Os gwelwch unrhyw weithgaredd a allai ddifrodi’r amgylchedd neu gynyddu’r risg o lifogydd, rhowch wybodaeth i’ch awdurdod rheoli risg cyn gynted â phosibl, os gwelwch yn dda. Dylid rhoi gwybodaeth am lygredd dŵr a thir neu rwystrau sy’n cynyddu’r risg o lifogydd i linell frys Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0800 80 70 60 (Gwasanaeth 24 awr). Peidiwch â rhoi gwybodaeth am ddigwyddiadau drwy e-bost gan y gallai hyn achosi oedi cyn ymateb.

3. Rheoli’r risg o lifogydd

Fel perchennog glannau afon, mae gennych gyfrifoldeb hefyd i reoli eich risg llifogydd eich hun.

Mae dros ddwy filiwn o adeiladau yng Nghymru dan risg o lifogydd o afonydd a’r môr. Bydd newidiadau yn ein hinsawdd, yn arwain at stormydd garwach a gaeafau gwlypach, yn cynyddu’r risg honno. Ni allwn byth atal llifogydd ond gallwn oll reoli’r risg er mwyn gwneud llifogydd yn llai tebygol a lleihau’u heffaith.

Defnyddir y term ‘rheoli’r risg o lifogydd’ i ddisgrifio gwaith awdurdodau rheoli risg fel Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol.

Eu nod yw lleihau’r tebygolrwydd o lifogydd drwy:

  • reoli’r risg o lifogydd o bob ffynhonnell, yn cynnwys systemau afonydd a systemau arfordirol, dŵr ffo wyneb a dŵr daear
  • adeiladu a rheoli amddiffynfeydd, lle mae’n briodol
  • cynnal cyrsiau dŵr ac amddiffynfeydd rhag llifogydd, lle mae’n briodol

Maent yn gweithio gyda’i gilydd i leihau effaith llifogydd drwy:

  • ddylanwadu ar gynllunio defnydd tir, beth a adeiladir a ble
  • rheoleiddio gwaith sy’n cael ei wneud mewn afonydd
  • gwell rhybuddion llifogydd
  • ymatebion cyflymach i argyfwng. 

Ceir rhagor o wybodaeth am yr hyn mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yn Atodiadau 1 a 2.

NODYN PWYSIG

Gall eich awdurdod rheoli risg ddynodi nodwedd ar eich tir yn ased rheoli risg llifogydd. Gall nodweddion a strwythurau fel waliau gardd nad ydynt wedi’u cynllunio i reoli risg o lifogydd helpu serch hynny i reoli’r risg.

Bydd yr awdurdod rheoli risg yn rhoi o leiaf 28 diwrnod o rybudd ichi os bydd yn penderfynu gwneud hyn. Bydd hefyd yn rhoi manylion y nodwedd ichi ac yn esbonio pam ei fod eisiau ei dynodi. Mae gennych hawl i herio unrhyw benderfyniad os nad ydych yn cytuno â’r hyn sy’n cael ei gynnig.

Ni chaniateir addasu, tynnu nac amnewid nodweddion a strwythurau sydd wedi’u dynodi’n ased heb ganiatâd yr awdurdod cyfrifol.

Am ragor o wybodaeth ac arweiniad, cysylltwch â’ch awdurdod rheoli risg.

Mae cynlluniaui reoli’r risg o lifogydd ac erydu ar yr arfordir yn edrych ar risg llifogydd ar raddfa fawr. Mae hyn yn caniatáu i awdurdodau rheoli risg ystyried a allai lleihau’r risg mewn un ardal newid, neu hyd yn oed gynyddu, y risg yn rhywle arall.

Yn ystod llifogydd, mae’ch awdurdod lleol yn darparu cymorth argyfwng i ddeiliaid tai, a gallai hynny gynnwys cyflenwi bagiau tywod. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth am ei rôl yn ystod llifogydd.

4.  Deall y risg o lifogydd

Gall dŵr llifogydd ddod o lif dros y tir, dŵr daear, afonydd a’r môr. Gallai tir ac eiddo ger cyrsiau dŵr a’r môr fod dan fygythiad llifogydd. Gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi gwybod ichi am y risg honno, sut y cyhoeddir rhybuddion llifogydd, a beth i’w wneud pan fydd llifogydd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru mapiau yn dangos y graddau o lifogydd o afonydd a’r môr yng Nghymru.

Mae ein gwefan hefyd yn rhoi cyngor ar sut i baratoi cyn llifogydd a beth i’w wneud pan fydd llifogydd yn digwydd.

Gallwch hefyd gofrestru yn rhad ac am ddim am ein rhybuddion llifogydd lle gellir ddarganfod pa rybuddion llifogydd sydd mewn grym. 

Yn ogystal gallwch ffonio ein llinell llifogydd 24- awr ar 0345 988 1188 am y rhybuddion llifogydd diweddaraf.

GALL AFONYDD FOD YN BERYGLUS

Efallai fod dŵr yn edrych yn ddiniwed, ond gall guddio llif cryf o ddŵr. Gall dŵr fod yn ddwfn a phwerus, yn arbennig ger coredau a llifddorau. Dylech bob amser fod yn ymwybodol o’r risg o anaf neu hyd yn oed farwolaeth pan fyddwch yng nghyffiniau dŵr.

5. Trwyddedau Perygl Llifogydd/caniatâd cwrs dŵr cyffredin

Dylech drafod eich cynlluniau i weithio ar neu ger cwrs dŵr gyda’ch awdurdod rheoli perygl cyn gynted â phosibl. Cyflwynwch eich cynlluniau i’r awdurdod rheoli perygl a’ch awdurdod cynllunio lleol. Bydd yr awdurdod rheoli perygl yn dweud wrthych a oes angen eu caniatâd cyn gwneud y gwaith. Maent yn ystyried llawer o ffactorau amgylcheddol cyn awdurdodi gwaith. Mae’r rhain yn cynnwys perygl o lifogydd, cadwraeth bywyd gwyllt, pysgodfeydd, cyfyngiadau llanw ac ail-luniad yr afon a’r dirwedd.

Mae rhai safleoedd yn bwysig o ran cadwraeth neu o werth archeolegol. Petai eich gwaith yn effeithio ar un o’r safleoedd hyn, efallai y bydd angen i chi gael caniatadau eraill gan yr awdurdodau perthnasol yng Nghymru.

Bydd y math o ganiatâd sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar y math o gwrs dŵr yr ydych am weithio ynddo.

1. Trwyddedau Gweithgaredd Perygl Llifogydd ar gyfer gweithgareddau ar brif afonydd

Mae’r is-ddeddfau sy’n gysylltiedig â Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol Cymru a Lloegr, yn ei gwneud yn ofynnol i chi wneud cais i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am Drwydded Gweithgaredd Perygl Llifogydd ar gyfer gwaith mewn, dros, o dan neu gerllaw prif afonydd. Caiff prif afonydd eu diffinio yn adran 13 isod.

Pan fydd gennych Drwydded Gweithgaredd Perygl Llifogydd, gallwch hefyd wneud cais am i Gyfoeth Naturiol Cymru newid eich trwydded, neu gallwch ildio’ch trwydded os yw eich trwydded yn cynnwys elfennau gweithredol nad ydych eu hangen bellach. Gallwch hefyd hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru os dymunwch drosglwyddo eich trwydded i rywun arall.

Codir tâl am wneud cais am Drwydded Gweithgaredd Perygl Llifogydd. Mae cynllun Taliadau Cyfoeth Naturiol Cymru sydd ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys gwybodaeth gyfredol am y gost o wneud cais.

Yn dibynnu ar y math, ble a phryd y byddwch yn dymuno ymgymryd â gweithgaredd perygl llifogydd, efallai na fydd angen i chi wneud cais am Drwydded Gweithgaredd Perygl Llifogydd. Os yw eich gweithgaredd arfaethedig yn bodloni amodau penodol, efallai y byddwch yn gallu cofrestru am esemptiad, neu ymgymryd â’ch gweithgaredd fel eithriad. Mae manylion llawn o’r amodau sy’n berthnasol i bob esemptiad ac eithriad ar gael ar wefan CNC. Rhaid i chi sicrhau bod eich gweithgaredd yn bodloni’r amodau penodedig gan y gall methu â gwneud hynny arwain at gamau gorfodi.

2. Caniatâd cwrs dŵr arferol ar gyfer gwaith ar gyrsiau dŵr cyffredin

O dan Ddeddf  Draenio Tir 1991, mae angen i’ch awdurdod lleol neu Ardal Draenio Mewnol gymeradwyo unrhyw waith a fydd yn creu neu’n newid argae melin, cored neu rwystr i lif cwrs dŵr cyffredin arall tebyg, gan gynnwys unrhyw fwriad i osod cwlferi neu eu newid mewn modd a fyddai’n debygol o effeithio ar lif y dŵr.

Diffinnir cyrsiau dŵr cyffredin yn adran 13 isod. Y ffi bresennol am wneud cais yw £50 y strwythur.

3. Gwybodaeth ychwanegol ar gyfer gwneud cais am Drwydded Gweithgaredd Perygl Llifogydd neu Ganiatâd Draenio Tir

Nid yw awdurdodau rheoli perygl yn annog cwlferi mewn cyrsiau dŵr (gweler adran 8).

Cysylltwch â’ch awdurdod rheoli perygl cyn gynted ag y bo modd i drafod eich cynlluniau. Bydd angen iddynt weld cynlluniau manwl ar gyfer y gwaith a derbyn eich cais, gan gynnwys y ffi, o leiaf ddau fis cyn y byddwch yn bwriadu dechrau ar y gwaith.

Wrth wneud cais am drwydded neu ganiatâd, efallai y bydd angen i chi gwblhau asesiad cydymffurfiaeth y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw eich cynnig yn niweidio’r amgylchedd ac er mwyn helpu i gyflawni’r camau gweithredu a nodir yn eich Cynllun Rheoli Basn Afon lleol. Gall asesiadau cydymffurfiaeth y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr gymryd cryn dipyn o amser.

Cysylltwch â’ch awdurdod rheoli perygl cyn gynted agy bo modd i gael gwybod a oes angen asesiad, ac i gytuno ar ei gwmpas. Mae hyn yn osgoi oedi ac ymdrech ofer. Unwaith y cytunir ar y manylion rhagarweiniol, gallwch lenwi’r ffurflen gais a’i dychwelyd at yr awdurdod gyda’r ffi briodol.

Fel arfer bydd yr awdurdod rheoli perygl yn penderfynu p’un ai ydynt yn cytuno i’r gwaith neu beidio o fewn dau fis. Gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad os ydych yn credu bod trwydded neu ganiatâd wedi’i wrthod yn afresymol. Cewch wybod mwy am y weithdrefn apelio os yw’r awdurdod yn penderfynu gwrthod caniatâd. Bydd canolwr annibynnol yn gwrando ar yr apêl.

Ni ddylech wneud unrhyw waith heb y drwydded, caniatâd, cofrestru esemptiad neu eithriad perthnasol. Os wnewch chi hynny, gallai fod yn ddrud. Gall yr awdurdod rheoli perygl hawlio cost pa gamau bynnag y maent yn penderfynu sy’n angenrheidiol i gael gwared neu newid eich gwaith. Gallant hefyd eich gorchymyn chi i adfer y sefyllfa. Os na fyddwch yn cydymffurfio â hysbysiad i ddatrys problemau gallech wynebu cyhuddiadau troseddol. Mae trwydded neu ganiatâd yn ymwneud ag effaith y strwythur ar y perygl o lifogydd a’r amgylchedd yn unig.

Nid yw’r awdurdod rheoli perygl yn asesu neu gymeradwyo dyluniad strwythur neu’n sicrhau a yw eich cynllun yn cydymffurfio â deddfwriaeth arall, megis iechyd a diogelwch. Nid yw’n caniatáu i chi wneud gwaith ar dir neu afonydd nad ydych yn berchen arnynt. Rhaid i chi gael caniatâd perchennog y tir yn ogystal â’r drwydded neu ganiatâd.

Os ydych yn dirfeddiannwr yr effeithir arnoch gan lifogydd, efallai y byddai cynllun stiwardiaeth amgylcheddol yng Nghymru, a adnabyddir fel Glastir o fantais i chi. Gall yr awdurdod perthnasol roi cyngor i chi; neu ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais i gynllun cadwraeth ar gyfer adfer, neu greu, nodweddion mewn cwrs dŵr neu ar y gorlifdir.

Byddwch yn dal i fod angen trwydded neu ganiatâd ar gyfer unrhyw waith ac efallai bydd rhaid dangos y caniatâd hwn cyn y gellir cytuno ar gynllun cadwraeth.

Cysylltwch â’r corff ariannu a swyddfa leol yr awdurdod rheoli perygl cyn i chi wneud cais am gyllid er mwyn osgoi oedi.

6. Caniatâd cynllunio

Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer gwaith ar gwrs dŵr, yn ogystal â chaniatâd amddiffyn rhag llifogydd neu ganiatâd cwrs dŵr cyffredin. Gall eich awdurdod cynllunio lleol eich cynghori a fydd angen caniatâd cynllunio ar eich gwaith arfaethedig, ac o bosibl asesiad risg o lifogydd/canlyniadau llifogydd i gefnogi eich cais.

Efallai y bydd eich awdurdod cynllunio lleol yn mynnu eich bod chi’n darparu Datganiad Amgylcheddol os yw’n bosibl y bydd eich gwaith arfaethedig ar gwrs dŵr neu lyn yn cael effaith amgylcheddol sylweddol.

Cysylltwch â’ch awdurdod cynllunio lleol i gael rhagor o wybodaeth.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghorai statudol ar geisiadau cynllunio sy’n ymwneud â’r materion amgylcheddol y mae’n gyfrifol amdanynt, yn cynnwys amddiffyn gorlifdir rhag datblygu amhriodol. Gall staff Cyfoeth Naturiol Cymru eich cynghori am faterion datblygu ar y gorlifdir. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud sylwadau ar bolisïau a cheisiadau cynllunio i awdurdodau cynllunio lleol, ond yr awdurdod cynllunio lleol sy’n llunio’r polisïau hyn ac yn cymeradwyo’r ceisiadau.

Am fanylion polisi’r llywodraeth ar ddatblygu a’r risg o lifogydd, gweler:

Polisi Cynllunio Cymru 2012 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cyhoeddiadau hyn a gwybodaeth arall ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

7. Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr

Fel perchnogion glannau afonydd, rhaid i’r holl awdurdodau rheoli risg ystyried y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr pan fyddant yn cynllunio gwaith ar gwrs dŵr.

Mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn gyfraith Ewropeaidd, sy’n darparu fframwaith i ddiogelu’r amgylchedd dŵr (yn cynnwys afonydd, llynnoedd, morydau a chyrsiau dŵr eraill). Ei nod yw:

  • diogelu a chyfoethogi ein hamgylchedd dŵr
  • hyrwyddo defnydd cynaliadwy o ddŵr
  • lleihau llygredd dŵr
  • lleihau effeithiau llifogydd a sychderau

Mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn cael ei gweithredu yng Nghymru a Lloegr  drwy ddefnyddio Cynlluniau Rheoli Basn Afon. Pan fydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n cyflawni gwaith rheoli risg, mae’n asesu a allai ei gynigion ddifrodi’r afon. Os felly, rhaid iddo gwblhau asesiad cydymffurfio o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Rhaid iddo sicrhau nad yw’r cynnig yn achosiniwed amgylcheddol, a’i fod yn helpu i gyflawni’r camau gweithredu sydd wedi’u nodi yn y Cynllun Rheoli Basn Afon lleol. Mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw un a hoffai wneud gwaith a fydd yn effeithio ar gwrs dŵr.

Dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr efallai y bydd rhaid i berchennog glannau afon sy’n difrodi cwrs dŵr unioni’r drwg.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn effeithio arnoch chi, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

8. Cwlferi

Cwrs dŵr sydd wedi’i amgáu mewn strwythur fel pibell yw cwlfer.

Gwneir hyn fel arfer er mwyn gallu defnyddio’r tir uwchben y cwrs dŵr ar gyfer pethau eraill, fel tramwyfa neu gae chwarae ysgol. Nid yw cwlferi yn cynnwys carthffosydd. Mae’r diffiniad cyfreithiol o gwlfer wedi’i nodi yn yr esboniad o dermau yn adran 13.

Nid yw awdurdodau rheoli risg yn annog adeiladu cwlferi newydd gan eu bod yn cynyddu’r risg o lifogydd ac yn difrodi’r amgylchedd.

Dim ond at ddibenion mynediad y maen nhw’n debygol o ganiatáu adeiladu cwlfer. Os ydych eisiau adeiladu cwlfer newydd, neu addasu un presennol, rhaid i’ch awdurdod rheoli risg lleol rhoi caniatâd i’r gwaith. Cysylltwch â’r awdurdod i gael rhagor o wybodaeth.

Os oes cwlfer ar eich tir, yn gyffredinol chi piau ef o’r man y daw i mewn i’ch tir hyd y man y mae’n ei adael. Rydych chi’n gyfrifol am gynnal cwlferi ar eich tir. Gall cwlferi gwympo ar i mewn gan achosi i’r tir uwchben ymsuddo os nad ydynt wedi cael eu cynnal yn iawn. Ni all dŵr lifo drwy gwlferi sydd wedi blocio, ac efallai y bydd yn ôl-gronni ac yn achosi llifogydd ar yr wyneb.

Nid yw’n hawdd dod o hyd i gwlferi bob tro, yn enwedig os cawsant eu hadeiladu gryn amser yn ôl. Efallai na fydd mapiau a chofnodion yn gywir neu efallai y collwyd nhw neu nad ydynt wedi cael eu llunio o gwbl. Os ydych yn credu bod gennych gwlfer ar eich tir, ond nad ydych yn gwybod ble mae neu eich bod yn poeni am ei gyflwr, dylech drefnu i gwmni proffesiynol wneud arolwg. Mae gan eich awdurdod rheoli risg hefyd wybodaeth ar gwlferi.

Mae gennych gyfrifoldeb i adael i ddŵr lifo drwy’ch tir heb iddo gael ei rwystro, ei lygru na’i ddargyfeirio gan effeithio ar hawliau pobl eraill. Golyga hyn fod rhaid ichi glirio cwlfer wedi blocio ar eich tir neu o dan eich eiddo.

GALL CWLFERI FOD YN BERYGLUS

Mae perygl ichi gael anaf, boddi neu fynd yn sownd drwy fynd i mewn i gwlfer. Mae cwlferi yn fannau cyfyng sy’n gallu cynnwys nwyon gwenwynig. Dim ond pobl gymwysedig, gyda chyfarpar priodol, ddylai fynd i mewn iddynt.

9. Melinau a choredau

Mae strwythur rheoli afon yn effeithio ar lefelau a llif afon, argae neu gored melin er enghraifft. Os ydych yn berchen ar un, mae gofyniad cyfreithiol arnoch i gynnal a gweithredu’r strwythur yn gywir.

Rhaid ichi hefyd gyflawni eich rhwymedigaethau o dan is-ddeddfau draenio tir, sy’n cael eu hesbonio yn Atodiadau 1 a 2. Os bydd unrhyw un yn dioddef colled neu ddifrod oherwydd i chi newid neu fethu â chynnal eich strwythur, gallant gyflwyno achos sifil yn eich erbyn. Rhaid ichi:

  • gadw gatiau a sgriniau yn glir o rwystrau fel eu bod yn gweithio fel y dylent
  • cael trwydded tynnu dŵr os ydych yn bwriadu cymryd dŵr o’r afon
  • cysylltu â’ch awdurdod rheoli risg os ydych chi eisiau adeiladu cored, llifddor neu strwythur rheoli arall, neu pe baech yn dymuno addasu strwythur presennol. Efallai y bydd angen caniatâd yr awdurdod arnoch, a thrwydded gronni gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae angen trwyddedau cronni pan fyddwch yn dymuno creu argae ar gwrs dŵr neu adeiladu cored. Nid yw’r awdurdodau rheoli risg yn annog adeiladu’r rhwystrau hyn oherwydd eu heffeithiau amgylcheddol.

Efallai hefyd y bydd angen ichi gynnwys hwylusfa neu sgrin pysgod wrth adeiladu, ailadeiladu neu ailwampio strwythur rheoli afon i unrhyw raddau.

Gallwch drafod cynnal a chadw a gweithrediad strwythurau rheoli afon gyda’ch awdurdod rheoli risg. Os ydych chi’n prynu eiddo sydd â strwythur rheoli afon, cysylltwch â’r awdurdod i’ch cyflwyno’ch hun. Os yw’ch strwythur ar brif afon, Cyfoeth Naturiol Cymru fydd eich awdurdod rheoli risg, ac os yw’ch strwythur ar gwrs dŵr cyffredin, naill ai’ch awdurdod lleol neu’ch Ardal Draenio Mewnol fydd yr awdurdod rheoli risg. Ceir rhagor o wybodaeth ar yr awdurdodau rheoli risg hyn yn Atodiadau 1 a 2.

Gallwch ganfod beth sydd angen ichi ei wybod, sut y gallwch weithio gyda nhw a pha broblemau allai godi.

10. Cyrsiau dŵr llanw

Gall y llanw effeithio ar afonydd sy’n llifo i’r môr dros bellter maith i mewn i’r tir.

Os yw’r llanw’n effeithio ar y cwrs dŵr ar eich tir, mae’ch tir islaw’r terfyn llanw. Os felly, efallai y bydd angen trwydded forol arnoch gan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn gwneud rhai mathau o waith. Mae’r drwydded hon yn ychwanegol at y caniatâd amddiffyn rhag llifogydd a ddisgrifir yn adran 5.

Rhagor o wybodaeth am drwyddedu morol yng Nghymru.

11. Erydiad glannau afonydd

Mae llif dŵr yn treulio glannau afonydd yn naturiol gan achosi erydu. Gall culhau sianel yr afon, atgyfnerthu’r glannau yn y lle anghywir a gorbori’r glannau achosi mwy o erydu.

Fel arfer y tirfeddiannwr sy’n gyfrifol am waith i leihau erydu ar lannau afonydd. Dim ond lle mae erydu naturiol yn bygwth amddiffynfa rhag llifogydd y bydd yr awdurdod rheoli risg yn ymyrryd fel arfer. Mae’n debyg y bydd angen i’r awdurdod rheoli risg lleol gytuno i unrhyw waith i ddiogelu’r glannau. Bydd yn eich annog i ddefnyddio technegau peirianneg feddal, lle mae hynny’n bosibl. Golyga hyn ddefnyddio defnyddiau naturiol fel wal helyg pleth neu blannu i gyfyngu ar yr erydu, yn hytrach na cherrig bloc neu stanciau dalenni dur.

12. Rôl sefydliadau eraill

Archaeoleg

Eich awdurdod lleol sy’n gyfrifol am sicrhau bod ardaloedd o bwys archeolegol yn cael eu hamddiffyn rhag niwed a allai gael ei achosi gan waith mewn cyrsiau dŵr neu gerllaw. Os gallai eich gwaith arfaethedig effeithio ar weddillion archeolegol, neu os ydych yn dod o hyd i weddillion archeolegol ar eich tir yn ystod y gwaith, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol. Bydd y swyddog archeolegol yn gallu rhoi cyngor pellach ichi.

Cadwraeth natur

Bydd angen caniatâd gan gorff cadwraeth arnoch ar gyfer gwaith mewn cwrs dŵr neu gerllaw, yn ogystal â chaniatâd yr awdurdod rheoli risg, os yw’ch gwaith arfaethedig:

  • ar safle a ddiogelir gan y gyfraith, neu y gallai effeithio ar safle o’r fath, megis Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA); neu
  • ar safle sy’n cynnal rhywogaeth a ddiogelir gan y gyfraith, fel dyfrgwn neu lygod benron y dŵr

Dan yr amgylchiadau hyn, rhaid ichi gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000.

Mordwyo

Mae hawliau mordwyo cyhoeddus ar lawer o afonydd, ar y rhannau lle mae llanw’r môr yn effeithio ar eu llif. Efallai y bydd gan awdurdodau harbwr rywfaint o reolaeth yn y rhannau hyn.

Fodd bynnag, nid oes unrhyw hawl fordwyo gyhoeddus ar y rhan fwyaf o gyrsiau dŵr heb lanw, ond gall y cyhoedd ddefnyddio rhai afonydd a chamlesi penodol sy’n cael eu gweinyddu gan awdurdodau mordwyo, cwmnïau preifat neu Cyfoeth Naturiol Cymru.

13. Esboniad o’r termau

Prif afonydd

Mae prif afonydd fel arfer yn nentydd ac afonydd mwy, ond mae rhai yn gyrsiau dŵr llai sydd ag arwyddocâd lleol. Llywodraeth Cymru sy’n penderfynu pa gyrsiau dŵr sy’n brif afonydd.

Mae prif afonydd wedi’u marcio ar ddogfen swyddogol a elwir yn fap prif afonydd. Mae gan swyddfeydd lleol Cyfoeth Naturiol Cymru gopïau o’r mapiau hyn.

Gall prif afonydd gynnwys unrhyw strwythur sy’n rheoli neu’n rheoleiddio’r llif dŵr o fewn sianel, i mewn iddi neu allan ohoni.

Cwrs dŵr cyffredin

Cwrs dŵr cyffredin yw pob afon, ffrwd, ffos, draen, toriad, morglawdd, llifddor, charthffos (heblaw am garthffos gyhoeddus) a llwybr y mae dŵr yn llifo drwyddo, ond nad yw’n rhan o brif afon. Mae gan yr awdurdod lleol neu’r Ardal Draenio Lleol rymoedd ar gyrsiau dŵr cyffredin sy’n debyg i rymoedd Cyfoeth Naturiol Cymru ar brif afonydd.

Prif awdurdod llifogydd lleol Mae hyn yn golygu— awdurdodau unedol Cymru.

Ardal Draenio Mewnol

Caiff Ardaloedd Draenio Mewnol eu sefydlu mewn ardaloedd o ddraeniad arbennig a elwir yn ddosbarthau draenio. Mae eu swyddogaethau’n cynnwys goruchwylio draenio tir, rheoli lefel dŵr a gwaith i reoli’r risg o lifogydd.

Cwlfer

Sianel neu bibell wedi’i gorchuddio i atal creu rhwystr gan adeiladwaith artiffisial ar draws cwrs dŵr neu lwybr draenio.

Amddiffyn rhag llifogydd

Mae rhywfaint o ddeddfwriaeth yn dal i ddefnyddio’r term ‘amddiffyn rhag llifogydd’ neu ‘ddraenio tir’. Rydym ni nawr yn cyfeirio at y gweithgareddau hyn fel ‘rheoli’r risg/perygl o lifogydd’, ond efallai y defnyddir termau eraill at ddibenion cyfreithiol.

Gorlifdir

Mae gorlifdir yn ardal o dir y mae afon neu’r môr yn llifo drosti neu lle caiff dŵr ei storio yn ystod llifogydd. Mae gorlifdir fel arfer yn ymestyn y tu hwnt i’r tir sy’n ffinio’n uniongyrchol â chwrs dŵr. Yn aml mae pwysau i adeiladu ar orlifdiroedd. Fodd bynnag, gall adeiladau neu wrthrychau artiffisial eraill greu rhwystrau ar orlifdiroedd, atal llif y dŵr a dwysáu llifogydd.

Dŵr daear

Dŵr daear yw’r holl ddŵr sydd islaw wyneb y ddaear ac mewn cyswllt uniongyrchol â’r tir neu’r isbridd.

Dŵr ffo wyneb

Dŵr glaw, yn cynnwys eira, yw dŵr ffo wyneb. Mae’n ddŵr ar wyneb y tir, pa un a yw’n symud neu beidio, nad yw wedi cyrraedd cwrs dŵr, system ddraenio neu garthffos gyhoeddus.

Awdurdod rheoli risg

Mae gan yr awdurdodau rheoli risg canlynol rymoedd i reoli cyrsiau dŵr a chyfrifoldebau i wneud hynny:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • Prif Awdurdodau Llifogydd Lleol

Atodiad 1

Rôl Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfoeth Naturiol Cymru yw un o’r awdurdodau rheoli risg a ddiffiniwyd gan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae diogelu amgylchedd afonydd a rheoli perygl llifogydd yn rhan o’i waith.

Golyga hyn fod rhai o’i ddyletswyddau a’i rymoedd yn effeithio ar berchnogion glannau afonydd.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r awdurdod rheoli risg y mae angen ichi gysylltu ag ef os hoffech ragor o wybodaeth am brif afonydd a materion yn ymwneud â llifogydd o brif afonydd ac o’r môr.

Grymoedd

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru rymoedd i weithio ar brif afonydd (a ddiffinnir yn adran 13) a’r môr i reoli perygl llifogydd.

Mae’r grymoedd hyn yn ei alluogi i wneud gwaith. Fodd bynnag, nid oes rhaid iddo gynnal nac adeiladu gwaith newydd ar brif afonydd na’r môr. Mae’n annhebygol o gynnal cwrs dŵr i wella amwynder afon neu o atal erydu lle nad yw’n cynyddu’r risg o lifogydd.

Gall gwaith i reoli’r risg o lifogydd gynnwys:

  • adeiladu a chynnal asedau sy’n rheoli’r risg o lifogydd, er enghraifft, cloddiau llifogydd, a gwaith ar brif afonydd i reoli lefelau dŵr ac i sicrhau y gall dŵr llifogydd lifo’n rhwydd
  • gweithredu asedau rheoli risg llifogydd yn ystod llifogydd
  • carthu’r afon. Gall Cyfoeth Naturiol Cymru waredu deunydd ar dir sydd o fewn cyrraedd i fraich y peiriant carthu
  • cyhoeddi rhybuddion

Gall hefyd wneud gwaith i atal difrod amgylcheddol i gyrsiau dŵr, neu i adfer cyflwr lle mae’r difrod eisoes wedi cael ei wneud.

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru rym i wneud is-ddeddfau. Gall swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru roi ichi’r is-ddeddfau perthnasol ar gyfer lle’r ydych chi’n byw.

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi rhybudd ichi os nad ydych wedi cynnal cwrs dŵr ar eich tir sy’n achosi problemau, er enghraifft ei fod yn cynyddu’r perygl llifogydd.

Dyletswyddau

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru rôl strategol o ran pob ffynhonnell o lifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Mae wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar strategaeth genedlaethol i Gymru. Mae’r strategaeth yn dangos sut y gall cymunedau, y sector cyhoeddus a sefydliadau eraill gydweithio i reoli’r risg. Mae hyn yn cynnwys datblygu strategaethau rheoli risg llifogydd gan brif awdurdodau llifogydd lleol fel y cynghorau sir.

Gwybodaeth am y Strategaeth Genedlaethol i Gymru

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd ddyletswydd i hyrwyddo cadwraeth yr amgylchedd dŵr, harddwch naturiol afonydd a gwlyptiroedd, a’r bywyd gwyllt sy’n byw yno. Mae’n asesu effeithiau unrhyw gynllun ar yr amgylchedd cyfan. Ar gyfer perchnogion glannau afonydd, golyga hyn y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn asesu effeithiau amgylcheddol cynlluniau ar gyfer unrhyw waith mewn afonydd neu yn eu hymyl. Bydd yn trafod sut a phryd y gellir gwneud y gwaith i ddiogelu’r amgylchedd.

Atodiad 2

Rôl eich awdurdod lleol (ALl) a’ch Ardal Draenio Mewnol

Mae rhai awdurdodau lleol, yn ogystal ac Ardaloedd Draenio Mewnol, yn awdurdodau rheoli risg. Mae ganddynt rymoedd i reoli perygl llifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin. Yn eu rôl yn rheoli’r risg o lifogydd, gelwir awdurdodau lleol yn Brif Awdurdodau Llifogydd Lleol.

Mewn ardaloedd a elwir yn ddosbarthiadau draenio mewnol, yr awdurdod rheoli risg yw’r Ardal Draenio Mewnol ar gyfer yr ardal, ac mae ganddo ef rymoedd ar gyrsiau dŵr cyffredin yn hytrach na’r awdurdod lleol.

Sefydlwyd Ardaloedd Draenio Mewnol mewn ardaloedd yng Nghymru lle mae anghenion draenio arbennig, a’u diben yw rheoli risg o lifogydd a lefelau dŵr ar ran eu cymuned.

I gael rhagor o  wybodaeth neu i ganfod a yw’ch eiddo’n gorwedd mewn dosbarth draenio mewnol, cysylltwch â 0300 065 3000

Diweddarwyd ddiwethaf