Adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi Cymru 2019

Traeth Aberllydan (De)

Crynodeb Gweithredol

Mae dyfroedd ymdrochi o ansawdd da yn bwysig iawn i  gymunedau arfordirol, ymwelwyr a'r economi yng Nghymru. Yn 2019, gwnaeth bob un o'r 105 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru gyflawni’r safonau a bennir gan y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi. O'r 105 o ddyfroedd ymdrochi a aseswyd yng Nghymru, roedd 83 o safon ragorol, 17 wedi cyflawni safon dda, ac roedd pump o safon ofynnol, ddigonol.

Mae'r Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi yn cyflwyno system ddosbarthu gyda safonau ansawdd dwr llym ac yn rhoi pwyslais ar ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd. Mae'n rhaid i aelod-wladwriaethau hysbysu aelodau'r cyhoedd am y dull o reoli dyfroedd ymdrochi, ansawdd dyfroedd ymdrochi a'r peryglon posibl sy'n gysylltiedig ag ansawdd dyfroedd ymdrochi ac iechyd cyhoeddus. Mae’r safonau ansawdd dŵr o fewn y gyfarwyddeb bresennol yn llawer uwch na'r rheini yn y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi wreiddiol. Mae dyfroedd yn cael eu dosbarthu yn seiliedig ar samplau a gymerwyd o'r pedair blynedd flaenorol er mwyn cymedroli effeithiau sefyllfaoedd eithafol.

Enillodd pum dŵr ymdrochi ychwanegol ddosbarthiad rhagorol yn 2019 o gymharu â'r canlyniadau yn 2018. O gymharu â glawiad hirdymor cyfartalog, mae data'r Swyddfa Dywydd yn dangos bod 2019 yn flwyddyn wlyb. Fel arfer, disgwylir dirywiad mewn ansawdd y dŵr gan fod glawiad yn golchi llygredd o ardaloedd trefol ac amaethyddol gwledig i gyrsiau dŵr ac yn cynyddu gweithrediad gorlifoedd carthion, a gynlluniwyd i atal carthion rhag cronni a threiddio i gartrefi a busnesau.

Mae cyflawni'r gwelliant cyffredinol hwn, yn ystod blwyddyn wlyb, yn adlewyrchu'r camau sy'n cael eu cymryd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Awdurdodau Lleol, sefydliadau ffermio a thirfeddianwyr i wella ansawdd dŵr. Gwneir y  gwelliannau'n lleol, megis gwelliannau i arllwysfeydd a charthffosiaeth; ac yn fwy cyffredinol, er enghraifft lleihau llygredd dŵr gwasgaredig o dir ffermio cefn gwlad ehangach.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am fonitro ac adrodd ar y safonau yn y gyfarwyddeb. Mae'r samplau'n cael eu dadansoddi am ddau fath o facteria, sy'n nodi llygredd o garthion neu dda byw. Gall dŵr sydd wedi'i lygru gael effaith ar iechyd dynol, gan achosi anhwylder y stumog a dolur rhydd os caiff ei lyncu.

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau monitro'r dyfroedd ymdrochi yn 2019. Ein her yw diogelu a gwarchod ein hadnoddau naturiol ac felly cynnal y safonau uchel a gyflawnwyd eleni yn ein dyfroedd ymdrochi.

Canlyniadau gwaith samplu a dadansoddi ansawdd dŵr 2019

Enw’r Dŵr Ymdrochi

Cydymffurfio yn 2019

Cydymffurfio yn 2018

Aberdaron

Ardderchog

Da

Aberdyfi Gwledig

Ardderchog

Da

Abereiddi

Ardderchog

Ardderchog

Aberffraw

Ardderchog

Ardderchog

Abermawr

Ardderchog

Ardderchog

Abersoch

Ardderchog

Ardderchog

Traeth Canolog Amroth

Ardderchog

Ardderchog

Barafundle

Ardderchog

Ardderchog

Abermo

Ardderchog

Ardderchog

Benllech

Ardderchog

Ardderchog

Y Borth

Ardderchog

Ardderchog

Borthwen

Ardderchog

Ardderchog

Bae Bracelet

Ardderchog

Ardderchog

Broad Haven (Canolog)

Ardderchog

Da

Broad Haven (De)

Ardderchog

Ardderchog

Caerfai

Ardderchog

Ardderchog

Traeth y Castell, Dinbych-y-pysgod

Ardderchog

Ardderchog

Bae Caswell

Ardderchog

Ardderchog

Porth Swtan

Ardderchog

Ardderchog

Cilborth

Ardderchog

Ardderchog

Cold Knap, Y Barri

Ardderchog

Ardderchog

Bae Colwyn

Ardderchog

Ardderchog

Bae Colwyn Porth Eirias

Ardderchog

N/A

Coppet Hall

Ardderchog

Ardderchog

Traeth Craig Ddu (Canolog)

Ardderchog

Ardderchog

Dale

Ardderchog

Ardderchog

Druidston Haven

Ardderchog

Ardderchog

Dyffryn (Llanendwyn)

Ardderchog

Ardderchog

Y Friog

Ardderchog

Ardderchog

Freshwater East

Ardderchog

Ardderchog

Freshwater West

Ardderchog

Ardderchog

Traeth Glan Don

Ardderchog

Ardderchog

Harlech

Ardderchog

Ardderchog

Bae Langland

Ardderchog

Ardderchog

Bae Limeslade

Ardderchog

Ardderchog

Little Haven

Ardderchog

Da

Llandanwg

Ardderchog

Ardderchog

Llanddona

Ardderchog

Ardderchog

Llanddwyn

Ardderchog

Ardderchog

Llandudno (Gorllewin)

Ardderchog

Ardderchog

Llanfairfechan

Ardderchog

Ardderchog

Llangrannog

Ardderchog

Ardderchog

Llanrhystud

Ardderchog

Ardderchog

Llyn Padarn

Ardderchog

Ardderchog

Lydstep

Ardderchog

Ardderchog

Maenorbŷr

Ardderchog

Ardderchog

Traeth Marloes

Ardderchog

Ardderchog

Morfa Dinlle

Ardderchog

Ardderchog

Morfa Nefyn

Ardderchog

Ardderchog

Mwnt

Ardderchog

Ardderchog

Harbwr Cei Newydd

Ardderchog

Ardderchog

Niwgwl

Ardderchog

Ardderchog

Bae Oxwich

Ardderchog

Ardderchog

Pen-bre

Ardderchog

Ardderchog

Penalun

Ardderchog

Ardderchog

Pen-bryn

Ardderchog

Da

Pentywyn

Ardderchog

Ardderchog

Penmaenmawr

Ardderchog

Ardderchog

Gorllewin Poppit

Ardderchog

Ardderchog

Bae Porth Eynon

Ardderchog

Ardderchog

Porth Dafarch

Ardderchog

Ardderchog

Porth Neigwl

Ardderchog

Ardderchog

Prestatyn

Ardderchog

Ardderchog

Pwllheli

Ardderchog

Ardderchog

Rest Bay, Porthcawl

Ardderchog

Ardderchog

Rhosneigr

Ardderchog

Ardderchog

Rhosili

Ardderchog

Ardderchog

Bae Sandy, Porthcawl

Ardderchog

Ardderchog

Saundersfoot

Ardderchog

Ardderchog

Rhoscolyn

Ardderchog

Ardderchog

Southerndown

Ardderchog

Ardderchog

St Davids - Benllech

Ardderchog

Ardderchog

Tal-y-Bont

Ardderchog

Ardderchog

Traeth y Gogledd Dinbych-y-pysgod

Ardderchog

Ardderchog

Traeth y De, Dinbych-y-pysgod

Ardderchog

Ardderchog

Traeth Lligwy

Ardderchog

Ardderchog

Bae Trearddur

Ardderchog

Ardderchog

Bae Trecco, Porthcawl

Ardderchog

Ardderchog

Tresaith

Ardderchog

Ardderchog

West Angle

Ardderchog

Ardderchog

Traeth Mawr

Ardderchog

Ardderchog

Bae Whitmore, Ynys y Barri

Ardderchog

Da

Wiseman's Bridge

Ardderchog

Ardderchog

Aberafan

Da

Da

Aberdyfi

Da

Da

Aberporth

Da

Da

Aberystwyth (Gogledd)

Da

Ardderchog

Aberystwyth (De)

Da

Da

Clarach (de)

Da

Da

Cricieth

Da

Ardderchog

Bae Jackson, Ynys y Barri

Da

Digonol

Bae Cinmel (Sandy Cove)

Da

Da

Cei Newydd (Gogledd)

Da

Digonol

Traeth y Gogledd, Trefdraeth

Da

Da

Nolton Haven

Da

Da

Dwyrain y Rhyl

Da

Da

Sandy Haven

Da

Da

Bae Abertawe

Da

Digonol

Traeth Gwyn, Cei Newydd

Da

Da

Tywyn

Da

Da

Abergele (Pensarn)

Digonol

Da

Cemais

Digonol

Digonol

Llandudno (Gogledd)

Digonol

Da

Llyn Morwrol, y Rhyl

Digonol

Da

Y Rhyl

Digonol

Digonol

Diweddarwyd ddiwethaf