Mae’r Rhestr Coetiroedd Hynafol yn dangos coetiroedd sydd wedi bod dan orchudd o goetir yn ddi-dor ers rhai canrifoedd.

Mae astudiaethau’n dangos bod y coetiroedd hyn fel arfer:

  • yn fwy amrywiol yn ecolegol
  • â gwerth cadwraeth natur uwch na'r rhai a ddatblygwyd yn y blynyddoedd diwethaf

Gall y coetiroedd hyn fod yn ddiwylliannol bwysig hefyd.

Os yw’r safle wedi bod dan orchudd o goetir yn ysbeidiol, fel arfer nid yw’n cael ei ddisgrifio fel coetir hynafol.

Y pedwar categori o goetir hynafol

Mae’r Rhestr Coetiroedd Hynafol yn gosod coetir mewn un o bedwar categori:

Coetir Hynafol Lled-Naturiol

Coetiroedd llydanddail sy’n cynnwys rhywogaethau o goed a llwyni brodorol yn bennaf, y credir eu bod yn bodoli ers dros 400 mlynedd.

Planhigfa ar Safle Coetir Hynafol

Safleoedd y credir eu bod dan goed yn barhaus ers dros 400 mlynedd ac y mae eu canopi ar hyn o bryd yn cynnwys dros 50 y cant o rywogaethau o goed conwydd anfrodorol.

Safle Coetir Hynafol wedi'i Adfer

Coetiroedd y credir eu bod dan goed yn barhaus ers dros 400 mlynedd. Bydd y coetiroedd hyn wedi mynd trwy gyfnod pan roedd eu canopi yn cynnwys dros 50% o rywogaethau o goed conwydd anfrodorol ond bellach mae eu canopi’n cynnwys dros 50 y cant o goed llydanddail.

Mae'r ymadrodd 'coetir hynafol wedi'i adfer' yn disgrifio coetir y mae’n ymddangos, yn ôl technegau synhwyro o bell, eu bod wedi dychwelyd i gyflwr mwy naturiol. Nid yw’r dynodiad yn y rhestr yn golygu bod y coetir wedi'i adfer yn llawn na'i fod mewn cyflwr ecolegol da.

Safle Coetir Hynafol o Gategori Anhysbys

Coetiroedd a all fod yn unrhyw un o'r tri chategori uchod. Mae’r ardaloedd hyn yn mynd trwy gyfnod o drawsnewid yn bennaf a disgrifir y gorchudd presennol fel ‘llwyni’, ‘coed ifanc’, ‘wedi’u cwympo’ neu ‘daear wedi’i pharatoi ar gyfer plannu’.

Map y Rhestr Coetiroedd Hynafol

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Rhestr Coetiroedd Hynafol drwy ddefnyddio ein map rhyngweithiol neu MapDataCymru.

Ymholiadau am y Rhestr Coetiroedd Hynafol

I wneud ymholiad am ddynodiad coetir yn y Rhestr Coetiroedd Hynafol, llenwch a chyflwynwch ein ffurflen.

Diweddarwyd ddiwethaf