Golygfa Ban, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Lleolir Coetir Ysbryd Llynfi ar lethrau dwyreiniol Cwm Llynfi Uchaf, naw milltir i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr.
Cafodd y coetir ei sefydlu’n ddiweddar ar hen safle diwydiannol ac mae’r coetir cymunedol hwn yn cynnig man gwyrdd i bobl leol ar garreg eu drws yn ogystal ag amrywiaeth o gyfleusterau y gall pawb eu mwynhau.
Mae’r dirwedd amrywiol yn cynnwys pyllau, corstir a rhostir.
Plannwyd dros 60,000 o goed yma gan gynnwys cymysgedd o goed llydanddail, ffrwythau a choed addurniadol.
Cafodd y coedwig ei gynllunio a’i ddatblygu ar y cyd â’r gymuned, ar gyfer y gymuned a’i noddi gan Gronfa Natur Llywodraeth Cymru a Chronfa Fyd-eang Cwmni Moduron Ford.
Darllenwch mwy am ddatblygiad y coetir.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:
Mae’r llwybrau rhedeg yma, sydd wedi eu nodi ag arwyddbyst, yn gyflwyniad gwych i redeg llwybrau.
Mae’r llwybrau ar gymysgedd o ffyrdd coedwig, arwynebau tarmac a rhan fechan ar ffordd gul lle ceir mwd a chreigiau’n achlysurol.
Yn ddibynnol ar ba mor anodd yw’r llwybr, ceir disgyniadau ac esgyniadau serth a rhannau pantiog.
Gweler y wybodaeth isod am ragor o fanylion am y llwybr, ei hyd a’r lefel ffitrwydd sy’n ofynnol.
Mae Llwybr Cwm Llynfi yn llwybr Sustrans sy’n rhedeg drwy ran isaf y safle ac mae’n addas ar gyfer pob gallu.
Mae llwybr hygyrch yn cysylltu’r llwybr Sustrans â’r llwybr marchogaeth er mwyn caniatáu gwell mynediad i rannau uchaf y safle.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Llwybr Cwm Llynfi, ewch i wefan Sustrans.
Mae Coetir Ysbryd Llynfi ar safle hen Bwll Glo Coegnant a Golchfa Maesteg.
Mae cerflun Ceidwad y Pyllau Glo yn gerflun derw sy’n dathlu bywydau’r cannoedd o lowyr a fu’n gweithio, ar un adeg, ledled Cwm Llynfi.
Comisiynwyd cerdd ar gyfer seremoni dadorchuddio’r cerflun.
Mae’r gerdd yn seiliedig ar orffennol diwydiannol yr ardal a’i hadfywiad drwy brosiect Ysbryd Llynfi.
Gwrandewch ar gerdd Ceidwad y Pyllau Glo yn ein fideo.
Ysgrifennwyd y gerdd gan Dan Lock, ac adroddwyd gan breswyliwr lleol Sian Teisar.
Mae Coetir Ysbryd Llynfi yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Sylwch:
Mae’r goedwig yn ffinio â chymunedau Maesteg, Caerau a Nantyffyllon.
Mae’r safle hwn yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.
Wrth ddod o gyfeiriad Pen-y-bont ar Ogwr, ewch ar hyd yr A4063 i Faesteg.
Wrth ddod o gyfeiriad Cwm Afan, ewch ar hyd yr A4107 i Bontycymer ac yna ar hyd yr A4073 i Faesteg.
Gallwch fynd ar y safle ar droed o amryw leoliadau:
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk