Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Mae Coedwig Tywi’n gorchuddio’r bryniau ger tref fach Tregaron yn un o rannau mwyaf anghysbell canolbarth Cymru.
Yn wreiddiol, plannwyd y goedwig gonwydd anferth hon gan y Comisiwn Coedwigaeth i gynhyrchu pren. Mae gwaith yn dal i ddigwydd yn y goedwig ond ceir llwybrau a thraciau sy’n addas ar gyfer cerdded, beicio a marchogaeth.
Mae ein llwybr cerdded byr yn agos at bentref Pontrhydfendigaid. Mae’n mynd drwy’r coed at hen ffynnon uwchben glannau Afon Glas-ffrwd a heibio hen ffermdy a oedd â tho cyrs ar un adeg, sy’n anarferol yn yr ardal hon.
Mae cryn ddirgelwch yn perthyn i’r ffynnon ond y gred yw ei bod yn dyddio o’r cyfnod canoloesol a’i bod, o bosib, yn gysylltiedig ag abaty Sistersaidd Ystrad Fflur. Mae’r abaty un filltir i ffwrdd ac mae ei olion, a reolir gan Cadw, ar agor i ymwelwyr.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded
Cerddwch wrth ochr yr afon a heibio hen goed derw cnotiog.
Dilynwch yr arwyddbyst i’r ffynnon, sy’n siambr lechi siâp blwch, gyda thair gris.
Mae’r llwybr yn parhau at y cerrig camu dros yr afon a heibio adfail Ty’n y Garreg, sef hen ffermdy ac ysgubor, ac yna’n dilyn ffordd goedwig yn ôl i’r maes parcio.
Hanner ffordd ar hyd y llwybr, mae mainc bicnic ychydig ar ôl i chi groesi’r afon.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Taith Gerdded y Ffynnon Sanctaidd ychydig y tu allan i bentref Pontrhydfendigaid, 7½ milltir i’r gogledd-ddwyrain o Dregaron.
Mae yn Sir Ceredigion.
Mae Taith y Ffynnon Sanctaidd ar fap Explorer 187 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS ar gyfer man cychwyn y daith yw SN 755 646.
Cymerwch y B4343 o Dregaron tuag at Bontrhydfendigaid.
Ar ôl 5½ milltir trowch i’r dde, gan ddilyn yr arwyddion brown a gwyn tuag at Abaty Ystrad Fflur.
Daliwch i fynd heibio’r abaty ac mae’r ffordd yn troi’n un trac sengl.
Mae’r lle parcio’n gilfan fach ar y chwith ar ôl oddeutu 1 filltir, ar ben y ffordd untrac.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Aberystwyth.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Mae’r lle parcio mewn cilfan fach ac mae panel gwybodaeth wrth y fynedfa i’r goedwig. Parciwch yn ofalus i gadw’r mynediad i’r goedwig ac i’r eiddo cyfagos yn glir.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.