Coedwig Crychan - Fferm Cefn ger Llanymddyfri

Beth sydd yma

Croeso

Un o’n meysydd parcio yng Nghoedwig Crychan yw Fferm Cefn.

Mae’n fan cychwyn ar gyfer llwybr cerdded a fydd yn eich tywys heibio ffermdy adfeiliedig.

Ceir meinciau picnic o amgylch y maes parcio.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded

Llywbr Fferm Cefn

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2½ milltir/4.3 cilomedr
  • Amser: 1½ awr

Byddwch yn mynd heibio adfail Glyn Moch, sef hen ffermdy o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyn gostwng i lawr at y nant yng Nghwm Dulas.

Ceisiwch ddychmygu’r moch yn tyrchu ac yn turio yma.

Bydd modd ichi ddychwelyd i’r maes parcio ar hyd llwybrau hawdd.

Marchogaeth yng Nghoedwig Crychan

Ceir mynediad agored ar gyfer marchogaeth ceffylau trwy Goedwig Crychan.

Ein meysydd parcio yng Nghoedwig Crychan yw’r man cychwyn ar gyfer milltiroedd lawer o lwybrau ceffylau ar hyd ffyrdd coedwigaeth a hen draciau.

Mae yna hefyd lwybrau byr sy’n ymuno â Llwybr Epynt, llwybr ceffylau 50 milltir o hyd o amgylch terfynau ardal hyfforddiant milwrol Pontsenni.

Mae’r cyfleusterau ar gyfer marchogion yn ein meysydd parcio yn cynnwys corlannau a rheiliau rhwymo.

Mae meysydd parcio Halfway a Brynffo yn fwy addas ar gyfer bocsys ceffylau.

Ceir mynediad ar gyfer gyrwyr car a cheffyl ym maes parcio Brynffo.

I gael rhagor o wybodaeth am farchogaeth yng Nghoedwig Crychan, edrychwch ar wefan Cymdeithas Coedwig Crychan.

Coedwig Crychan

Mae maes parcio Fferm Cefn wedi’i leoli yng Nghoedwig Crychan.

Lleolir Coedwig Crychan mewn cefn gwlad hardd rhwng Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria, ac mae’n frith o hen lwybrau a arferai gysylltu’r ffermydd a geid yno ers talwm.

Yn y 1930au, aeth y Comisiwn Coedwigaeth ati i brynu’r ffermydd a’r tir a phlannu coed yma fel rhan o ymdrech y DU i ailgyflenwi stociau pren a oedd wedi edwino yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Erys ambell annedd adfeiliedig, ac efallai y dewch ar eu traws yn ystod eich taith.

Mae’r goedwig yn cynnwys derw, ynn, ffawydd, coed cyll a chonwydd, ac mae’r lliwiau’n amrywio gan ddibynnu ar y tymor – o lesni cylchau’r gog yn y gwanwyn i arlliwiau euraid yr hydref.

Y dyddiau hyn, mae’r safle’n darparu pren gwerthfawr ac mae’n gartref i fywyd gwyllt amrywiol.

Mae gweilch Marthin, bwncathod a barcutiaid yn nythu yma, ac efallai y gwelwch gip ar iwrch.

Yn ogystal â’r llwybr cerdded sy’n arwain o Fferm Cefn, ceir llwybrau cerdded sy’n arwain o dri maes parcio arall yng Nghoedwig Crychan, sef:

Maes parcio Halfway yw’r rhwyddaf i’w gyrraedd o blith y rhain ac fe’i lleolir oddi ar yr A40, ychydig filltiroedd o Lanymddyfri.

Lleolir meysydd parcio Brynffo, Fferm Cefn ac Esgair Fwyog ar is-ffyrdd oddi ar yr A483 rhwng Llanymddyfri a Llanfair-ym-Muallt.

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coedwig Crychan yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • mae ymarferion milwrol yn digwydd yn y goedwig yma.
  • gall fferau neu fwledi heb eu ffrwydro achosi niwed difrifol os cyffyrddir â nhw.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae maes parcio Fferm Cefn 6 milltir i'r gogledd ddwyrain o Lanymddyfri.

Mae yn Sir Gaerfyrddin.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae maes parcio Fferm Cefn ar fap Explorer 187 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SN 813 386.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch yr A483 o Lanymddyfri tuag at Lanfair-ym-Muallt.

Ar ôl 4½ milltir trowch i'r dde wrth yr arwydd brown a gwyn am Lwybrau Coedwig Crychan.

Ar ôl 50 llath, ewch i’r dde i fyny'r allt a dilyn ffordd gul y trac sengl.

Mae'r maes parcio Fferm Cefn ar y chwith ar ôl 1¼ milltir.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanymddyfri.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf