Seilwaith gwyrdd, Malmo Sweden

Ynglyn â’r Fforwm

Mae’r Fforwm Seilwaith Gwyrdd yn rhwydwaith o weithwyr proffesiynol o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy’n amcanu i hyrwyddo mabwysiadiad cyffredinol seilwaith gwyrdd o amgylch trefi a dinasoedd Cymru.

Mae’r Fforwm yn amcanu i roi i’w haelodau yr ysbrydoliaeth, yr wybodaeth a’r cysylltiadau i ddefnyddio dulliau naturiol i sicrhau fod y mannau lle’r ydym yn byw yn well i bobl ac i natur.

Ynghylch Seilwaith Gwyrdd

Mae seilwaith gwyrdd yn cyfeirio at yr holl nodweddion naturiol sy’n gwneud bywyd yn ein trefi a’n dinasoedd yn bosibl.

Mae seilwaith gwyrdd yn cynnwys nodweddion fel:

  • Coed
  • Coed ar strydoedd
  • Pyllau, afonydd, llynnoedd a gwlypdiroedd;
  • Dolydd a gwelltiroedd;
  • Lleiniau ymyl ffordd;
  • Parciau a gerddi;
  • Ardaloedd agored oedd unwaith yn cynnwys adeiladau (a elwir weithiau yn safleoedd tir llwyd)
  • Tiroedd wedi eu tirlunio o amgylch swyddfeydd a ffatrïoedd;
  • Toeau gwyrdd a muriau gwyrdd; ac
  • Unrhyw nodweddion lle ceir planhigion neu ddŵr

Yn wahanol i seilwaith tir llwyd hen ffasiwn (fel peipiau draenio) sydd ag un swyddogaeth (i gludo dwr glaw), mae gan bob rhan o seilwaith gwyrdd (fel pant gwelltog) nifer o swyddogaethau (i gludo dwr glaw, caniatau dwr i suddo i’r ddaear, i dynnu llygredd dwr, i ddarparu cartrefi i fywyd gwyllt, i ddarparu blodau i wenyn a pheillwyr eraill, i helpu i gadw’r ddinas yn oer).

Yn ddelfrydol, dylai seilwaith gwyrdd fod yn rhwydwaith strategol o fannau gwyrdd o ansawdd uchel a nodweddion naturiol eraill, wedi eu cynllunio a’u rheoli i gyflawni’r gwasanaethau ecolegol a manteision ansawdd bywyd sydd ei angen ar gymunedau nawr, ac yn y dyfodol. Mae Seilwaith Gwyrdd yn cynnwys mannau gwyrdd sefydliedig a safleoedd newydd a dylent dreiddio drwy’r amgylchedd adeiledig a’i hamgylchynnu a chysylltu’r ardal drefol â’i chyrion gwledig ehanach.

Sut mae’r Fforwm yn gweithio?

Mae’r Fforwm yn gweithredu’n bennaf fel rhwydwaith e-bost i’w haelodau er mwyn gallu rhannu gwybodaeth a chyfleoedd cysylltiedig â seilwaith gwyrdd. Ceir cyfarfod blynyddol lle mae siaradwyr yn cyflwyno eu gwaith i’r Fforwm ac mae’r aelodau’n cael y cyfle i ddysgu mwy am y gwaith hwnnw mwen grwpiau trafod bychain. O bryd i’w gilydd bydd y Fforwm yn cynnal cyfarfodydd ar y cyd â chyrff eraill, ac yn trefnu cyfarfodydd ar bynciau penodol megis defnyddio dolydd bloau ar welltiroedd trefol.

Pwy yw’r aelodau a sut ydw i’n ymuno?

Mae’r Fforwm yn agored i unrhyw un sy’n weithredol yng Nghymru a chanddo ddiddordeb neu arbenigedd proffesiynol ym maes seilwaith gwyrdd mewn trefi a dinasoedd ac o’u cwmpas. Mae aelodau cyfredol yn gweithio i gwmnïau preifat; Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill; sefydliadau gwirfoddol cenedlaethol; a grwpiau cymunedol lleol. Os hoffech ymuno â’r Fforwm, anfonwch e-bost yn gyntaf gyda manylion cryno (un paragraff) o’ch diddordeb a’ch arbenigedd ym maes seilwaith gwrydd i Peter Frost (peter.frost@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk).

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Fforwm Seilwaith Gwyrdd Cymru (Saesneg yn unig) WORD [28.0 KB]
Introduction to the GI Forum 2015 meeting (Saesneg yn unig) PPT [6.7 MB]
Parc Peulwys (Saesneg yn unig) PPT [33.6 MB]
Well Being of Future Generations Act (Saesneg yn unig) PPT [8.1 MB]
Working with nature to improve human health (Saesneg yn unig) PPT [15.0 MB]
Green infrastucture in New York Presentation - 2016 (Saesneg yn unig) PPT [40.9 MB]
New Welsh legislation Presentation - 2016 (Saesneg yn unig) PPT [3.2 MB]
Urban buzz buglife Presentation - 2016 (Saesneg yn unig) PPT [23.1 MB]
Planhigion a phensaernïaeth, Prifysgol Aberystwyth PowerPoint (Saesneg yn unig) PPT [36.9 MB]
Strategaeth Mannau Agored Merthyr Tydfil PowerPoint (Saesneg yn unig) PPT [9.6 MB]
Cynllun amgylcheddol, Cyngor Dinas Birmingham PowerPoint (Saesneg yn unig) PPT [9.5 MB]
Cyllid yr UE ar gyfer Seilwaith Gwyrdd PowerPoint (Saesneg yn unig) PPT [8.0 MB]
Green Infrastructure Forum Annual Meeting 2018 (Saesneg yn unig) PDF [2.9 MB]
Designing good SUDs (Saesneg yn unig) PDF [2.9 MB]
Developing green infrasturcture assessment guidance (Saesneg yn unig) PDF [714.4 KB]
Tre Cwm estate green infrastrucure (Saesneg yn unig) PPT [9.3 MB]
Diweddarwyd ddiwethaf