Gweithio mewn afon neu o’i hamgylch: mesurau dros dro ar gyfer llifogydd yng Nghymru

Mewn ymateb i’r tywydd a’r llifogydd heb eu tebyg o’r blaen, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi trefnu cymorth ar gyfer cynnal gwaith atgyweirio brys mewn prif afonydd neu o’u hamgylch.

Ar gyfer gwaith atgyweirio brys ar strwythurau ar gwrs dŵr sy’n brif afon yng Nghymru, gofynnir ichi gysylltu â’ch Tîm Datblygu a Pherygl Llifogydd lleol gan y gall fod angen Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd (FRAP) ar y gwaith.

Fodd bynnag, efallai y bydd CNC yn gallu defnyddio Eithriad i awdurdodi gwaith brys dros dro dros y ffôn neu drwy e-bost.

O ran datrysiadau parhaol y tu hwnt i waith brys, gall fod angen cais FRAP arferol arnynt yn ddiweddarach.

Gofynnir ichi siarad â’ch Tim Datblygu a Pherygl Llifogydd lleol cyn ichi gychwyn unrhyw waith brys arfaethedig drwy ffonio 0300 065 3000 (Llun-Gwe, 9am-5pm) neu drwy e-bost:

Y Gogledd a’r Canolbarth (Ynys Môn; Glaslyn; Clwyd, Conwy; Dyfrdwy; Dyfi; Hafren):

developmentandfloodrisk.northmid@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

datblygiadrisgllifogydd.gogleddcanolbarth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Y De (Rheidol, Ystwyth; Gwy; Teifi; Cleddau; Tywi; Llwchwr; Tawe, Nedd; Taf; Wysg)

floodpermitting.southeast@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

floodpermitting.southwest@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Drwyddedau Gweithgarwch Perygl Lifogydd, ewch i'n gwefan