Manteision niferus i afon yng ngorllewin Cymru yn dilyn cael gwared ar gored

Mae craen yn codi'r gored ym Melin y Ficer ar y Cleddau Dwyreiniol.

Mae prosiect ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru (YAGC) i agor rhannau uchaf afon Cleddau Ddu i bysgod mudol wedi'i gwblhau.

Mae tynnu’r gored yn Vicar’s Mill yn benllanw dros chwe blynedd o gynllunio gan CNC ac YAGC a bydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o wella iechyd Afon Cleddau a'i phoblogaeth bysgod.

Dywedodd Dave Charlesworth, Uwch Swyddog Pysgodfeydd CNC:

"Bu cored ym Vicar’s Mill ers dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ddefnyddid pŵer dŵr ar gyfer melino. Yn fwy diweddar, cynyddwyd uchder y gored i ddarparu dŵr ar gyfer fferm bysgod ac adeiladwyd llwybr pysgod ar yr un pryd i ganiatáu i bysgod oresgyn y gored. 
"Yn anffodus, roedd y llwybr pysgod yn tueddu i lenwi gyda sbwriel, gan rwystro mynediad amrywiaeth o rywogaethau pysgod mudol i afon Cleddau Ddu uchaf, a thrwy gael gwared ar y gored rydym yn gobeithio cywiro hynny. Mae hyn wedi bod yn broblem gan fod yr afon yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac mae nifer o rywogaethau pysgod mudol, megis llysywen bendoll yr afon a’r nant, yn cyfrannu at y dynodiad.
“Bydd tynnu’r strwythur yn gwella mynediad i fwy nag 20 cilometr o gynefin i bysgod i fyny’r afon ac yn adfer geomorffoleg naturiol yr afon.
"Mae'r cynllun hefyd yn gobeithio ysgogi gwelliant yn nifer y poblogaethau o eogiaid a siwin sydd wedi bod o dan bwysau dros y blynyddoedd diwethaf a dod â hwb economaidd y mae mawr ei angen i bysgodfeydd lleol. 
"Mae strwythurau artiffisial mewn afonydd hefyd yn amharu ar symudiad graean ac yn rhannu dalgylchoedd cyfan, gan leihau ansawdd y cynefin sydd ar gael. Mae rhannau uchaf dalgylchoedd afonydd yn tueddu i fod yn oerach a chânt eu diogelu, i ryw raddau, rhag effeithiau gwaethaf newid hinsawdd, felly mae tynnu’r strwythurau hyn i bob pwrpas yn diogelu'r afon a'i hecoleg at y dyfodol."

Dechreuodd y gwaith i dynnu’r gored a'r llwybr pysgod ar 1 Medi ac fe'i cynhaliwyd gan gontractwr lleol profiadol a gwblhaodd y dasg mewn dim ond tridiau. 

Rheolwyd y prosiect gan YAGC a wnaeth gais am yr holl gydsyniadau angenrheidiol i alluogi'r prosiect i fynd rhagddo. Aeth yr Ymddiriedolaeth ati hefyd i benodi'r contractwr a rheoli'r ddarpariaeth i sicrhau bod yr holl fesurau diogelu amgylcheddol gofynnol ar waith o ystyried natur sensitif yr afon. 

Cwblhawyd y gwaith heb unrhyw broblemau a gobeithir bellach y bydd pob rhywogaeth o bysgod mudol yn gallu cael mynediad i ddalgylch cyfan afon Cleddau Ddu i silio a chwblhau eu gwahanol gylchoedd bywyd.

Dywedodd Helen Jobson, Uwch Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru:

"Heddiw rydym yn dathlu'r ffaith y bydd pysgod mudol yn awr yn gallu cael mynediad i ben uchaf afon Cleddau Ddu.
"Mae tynnu cored Vicar’s Mill yn benllanw dros chwe blynedd o gydweithio rhwng CNC ac YAGC, lle cafodd y cynllun ei fodelu a'i lunio’n ofalus i ystyried nodweddion amgylcheddol arbennig y safle. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a CNC am ddarparu'r arian i hwyluso'r gwaith o gyflawni'r prosiect arwyddocaol hwn.
"Mae cwblhau'r prosiect hwn yn elfen allweddol yn yr ymdrechion i wella iechyd afon Cleddau Ddu ar gyfer pob rhywogaeth ac mae'r Ymddiriedolaeth yn edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio mewn partneriaeth â CNC, er mwyn canfod pa mor llwyddiannus fu tynnu’r strwythur o ran helpu gyda gwelliannau i boblogaethau pysgod."

Bydd CNC yn parhau i weithio gyda phartneriaid i archwilio mwy o gyfleoedd fel hyn i adfer afonydd, neu weithio gyda phrosesau naturiol drwy waith Datganiad Ardal De-orllewin Cymru. Bydd ffocws penodol ar gyfleoedd yn ardaloedd Aberdaugleddau a Bae Abertawe.

Maent yn ddau o 10 ardal dalgylch cyfle mae CNC wedi’u nodi ar gyfer gwaith penodol i reoli'r amgylchedd dŵr yn gynaliadwy.