Cyrff natur y DU yn seinio galwad brys i adfer byd natur i bobl a'r blaned

Ni allwn oedi cyn buddsoddi yn adferiad byd natur os ydym eisiau sicrhau ffyniant economaidd a lles cymdeithasol y DU yn y dyfodol.

Nod yr alwad am weithredu ar y cyd gan gyrff natur statudol y DU heddiw (23 Tachwedd) yw ysgogi cefnogaeth dros yr uchelgais rhyngwladol i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur cyn y trafodaethau COP15 hollbwysig sy’n canolbwyntio ar natur ym Montreal, Canada fis nesaf (7 -19 Rhag).

Yn eu rôl fel cynghorwyr y llywodraeth, gyda chefnogaeth y dystiolaeth yn adroddiad Nature Positive 2030 a gyhoeddwyd y llynedd, bydd arweinwyr cyrff natur y DU yn gwneud eu galwad clir am gamau gweithredu mewn digwyddiad yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain. Byddant yn ailadrodd rôl hanfodol natur wrth gynyddu ffyniant a lles yn y dyfodol ar draws pedair cenedl y DU a thu hwnt, ond yn pwysleisio mai dim ond drwy gael ecosystemau bioamrywiol sy'n gallu gwrthsefyll ergydion yr hinsawdd y gellir cyflawni'r nod hwn. (Datganiad llawn isod).

Bydd Cadeirydd CNC Syr David Henshaw a’r Prif Weithredwr Clare Pillman yn bresennol yn y digwyddiad i dynnu sylw at sut mae Cymru eisoes yn arwain y gwaith o fynd i’r afael â’r argyfyngau bioamrywiaeth a hinsawdd gyda’i gilydd.

O gyflawni prosiectau adfer mawndiroedd uchelgeisiol hyd at wella potensial carbon glas ein moroedd, mae CNC yn mynd ati’n frwd i gynnal prosiectau trwy ddulliau naturiol, cost-effeithiol sy’n helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd mwyaf, ac sy’n dangos sut y gall adeiladu gwytnwch yn ein hadnoddau naturiol ac ecosystemau helpu i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae'n amhosib anwybyddu brys yr argyfyngau hinsawdd a natur sy'n ein hwynebu.
“Pan mae bioamrywiaeth yn dirywio, rydyn ni’n bygwth ein cyflenwad bwyd, ein hiechyd, ein swyddi, ein heconomi a’n hymdeimlad o le. Mae planed iach a diogel i ni a chenedlaethau’r dyfodol yn dibynnu ar natur ac ecosystemau sy’n gallu gwrthsefyll effeithiau hinsawdd sy’n newid. Nid yw cadw at fusnes fel arfer yn opsiwn.
“Yng Nghymru rydym eisoes yn meddwl yn eang – yn rhoi trwyn ar y maen i annog gweithredu cyfunol ar gyfer natur a’r hinsawdd drwy adfer, gwarchod a gwella’r amgylchedd naturiol yr ydym i gyd yn dibynnu arno. Rydym yn cynyddu ein hymdrechion i gadw carbon dan glo mewn dyddodion mawn, adfer a gwella cynefinoedd ar gyfer ein rhywogaethau brodorol, a gweithio i gynyddu poblogaeth rhai o’n rhywogaethau sydd dan y bygythiad mwyaf.
“Trwy ein hymagwedd “Tîm Cymru” gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid, rydym yn symud oddi wrth fusnes fel arfer, ac yn symud i gyflwyno dulliau newydd sy’n cefnogi’r rhywogaethau a’r ecosystemau rydym yn dibynnu arnynt i helpu i roi Cymru, y DU a’r byd ar sylfaen gadarn ar y llwybr tuag at adfer byd natur.”

Drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf Diogelu’r Amgylchedd, mae gan Gymru flociau adeiladu polisi allweddol yn barod i helpu i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae 'Rhaglen Lywodraethu' Llywodraeth Cymru hefyd yn ymrwymo Gweinidogion i ymgorffori ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur ym mhopeth maen nhw’n ei wneud.

Ym mis Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganlyniad ei harchwiliad manwl ar fioamrywiaeth, gan amlinellu argymhellion uchelgeisiol a phellgyrhaeddol. Bydd y rhain yn sicrhau ein bod yn cyflawni’r targed o ddiogelu a rheoli o leiaf 30% o’n tir, ein dyfroedd croyw a’n moroedd dros natur erbyn 2030 – sef uchelgais '30 erbyn 30'.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James:

“Rwy’n edrych ymlaen at COP15. Rwy’n awyddus i weld cytundeb uchelgeisiol ar Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang ôl-2020. Rwyf am i hyn ysgogi gweithredu gan holl arweinwyr y byd yn ogystal â’r rhai mewn llywodraethau lleol ac is-genedlaethol.
“Cymru oedd y wlad gyntaf i ddatgan argyfwng natur yn 2021. Yn dilyn hyn, rydym wedi cwblhau plymio dwfn bioamrywiaeth a fydd yn ein helpu i ddeall pa gamau sydd angen i ni eu cymryd i gyrraedd y targed ‘30 erbyn 30’.
“Mae gennym ni’r cymhellion a’r uchelgeisiau cywir i ysgogi newid gwirioneddol yng Nghymru, ac rwy’n edrych ymlaen at weld yr hyn y gallwn ei gyflawni, gyda’n gilydd, fel Tîm Cymru.”

Mae datganiad cyrff natur y DU yn adeiladu ar y negeseuon yn adroddiad Nature Positive 2030 a gyhoeddwyd cyn COP26 y llynedd, sy'n nodi sut y gall y DU gyflawni ei hymrwymiadau yn Addewid Natur yr Arweinwyr, ac i sicrhau bod adferiad byd natur yn chwarae rhan hollbwysig yn y llwybr i Sero Net.

Bydd canfyddiadau’r adroddiad ar y cyd yn cael eu hamlygu yn nigwyddiad y Gymdeithas Frenhinol ac yn COP15, i bwysleisio y bydd cyflawni ymrwymiadau natur yn dod â buddion enfawr i iechyd a llesiant pobl a’n heconomi, ac y bydd angen newid trawsnewidiol ar draws cymdeithas ac yn y ffordd rydym yn diogelu, yn gwerthfawrogi, yn defnyddio ac yn ymgysylltu â byd natur

Dywedodd Syr David Henshaw, Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Nid argyfyngau natur a’r hinsawdd yw’r unig fygythiadau difrifol sy’n ein hwynebu heddiw – ond hefyd y diffyg gweithredu yn wyneb yr argyfyngau hynny.
“Dim ond trwy weithredu ar y cyd y bydd yn bosib gwireddu ein huchelgeisiau i gyrraedd y targed o 30 erbyn 30 ac atal colli bioamrywiaeth. Nawr yw’r amser i fanteisio ar yr wybodaeth gyfunol, yr arbenigedd, y creadigrwydd a’r angerdd sydd gennym i sicrhau canlyniadau go iawn ar gyfer bioamrywiaeth ac ecosystemau.
“Mae'r mecanweithiau cyflawni rydyn ni'n eu rhoi ar waith yng Nghymru yn dangos ein penderfyniad i greu cenedl sy'n gyfoethog o ran natur ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
“Dros y degawd tyngedfennol hwn, mae’n rhaid i ni i gyd wneud ymdrech i droi ymrwymiadau byd-eang ar gyfer byd natur yn gamau gweithredu i sicrhau ein bod yn creu planed fwy teg a chynaliadwy lle gall pawb a phopeth ffynnu.”

Bydd y datganiad ar y cyd gan y Cyrff Cadwraeth Natur Statudol (SNCB) ar gael ar wefan y JNCC yma jncc.gov.uk/nature-recovery-joint-statement