Cychwyn cynllun peilot tagio teiars i daclo problem tipio anghyfreithlon Casnewydd

Mae menter newydd i leihau achosion o dipio teiars gwastraff yn anghyfreithlon a'i effaith ar yr amgylchedd yn cael ei lansio gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd.

Meddai Adrian Evans, Cynghorydd Taclo Troseddau Gwastraff CNC:

"Bydd cynllun Tagio Teiars Casnewydd, sy'n cael ei lansio heddiw (Dydd Mawrth, Chwefror 22), yn rhoi cyfle i garejys, gosodwyr teiars ac unrhyw fusnes arall sy'n delio â theiars gwastraff ymuno â'r cynllun a fydd yn ei gwneud hi'n anoddach i deiars gael eu gwaredu’n anghyfreithlon.
"Nod y cynllun yw atal teiars rhag mynd i ddwylo gweithredwyr diegwyddor, sy'n gallu digwydd oherwydd ei bod yn ddrud gwaredu teiars gwastraff yn gywir. 
"Gall troseddwyr fanteisio ar hyn drwy gymryd eich arian ac yna gwaredu'r teiars yn ein hamgylchedd.  Mae hyn nid yn unig yn ei gwneud yn anoddach i fusnesau cyfreithlon weithredu ond mae’n niweidio ein hamgylchedd gwerthfawr hefyd."

Bydd busnesau sy'n ymuno â'r cynllun yn derbyn:

  • Aelodaeth o'r cynllun tagio teiars a gefnogir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Taclo Tipio Cymru, a’r Bartneriaeth Casnewydd Ddiogelach ehangach
  • Deunyddiau cyhoeddusrwydd i'w defnyddio yn eich safle ac ar-lein
  • Pecyn o greonau i farcio teiars
  • Cyngor ac arweiniad gan ein harbenigwyr ar waredu eich teiars yn ddiogel

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, Dirprwy Arweinydd ac aelod cabinet dros wasanaethau'r ddinas yng Nghyngor Dinas Casnewydd:

"Bydd teiars yn cael eu marcio â chreon fel eu bod yn hawdd eu hadnabod, gan ei gwneud hi'n anoddach i droseddwyr eu gwaredu'n anghyfreithlon.
"Byddwn yn cynnig cyfle i fusnesau gofrestru ar gyfer y cynllun a byddant yn derbyn deunyddiau cyhoeddusrwydd am ddim, fel bod eu cwsmeriaid yn sicr bod teiars gwastraff yn cael eu gwaredu yn y ffordd briodol."

Ychwanegodd y Cynghorydd Ray Truman, aelod cabinet dros drwyddedu a rheoleiddio:

"Bdd ein swyddogion hefyd yn cynnal ymweliadau dilynol â phob busnes masnachol sy'n delio â theiars gwastraff, nad ydynt wedi cofrestru gyda'r cynllun i wirio eu bod yn cael gwared ar wastraff o'r fath yn gywir yn unol â Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1991.
"Byddem yn annog aelodau'r cyhoedd i roi gwybod am unrhyw weithgarwch anarferol mewn perthynas â gwaredu teiars er mwyn ein galluogi i ymchwilio. Gellir gwneud hyn drwy roi gwybod ar wefan y cyngor neu drwy ffonio 01633 656656.
"Gyda'n gilydd byddwn yn helpu i gael gwared ar weithgarwch anghyfreithlon yn ein hardal leol, gan ddangos ein hymrwymiad i waredu teiars yn gyfrifol."

Yn 2020/21, roedd cynnydd o 22.5% mewn achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwn, ymatebodd Cyngor Dinas Casnewydd i dros 4000 o achosion o dipio anghyfreithlon a gwariodd dros £150,000 ar glirio gwastraff a oedd wedi'i ddympio.

Mae data CNC yn dangos bod cynnydd o dros 150% wedi bod rhwng 2020 a 2021 mewn achosion o droseddau gwastraff a gofnodwyd oedd yn ymwneud â gwaredu teiars, ac mae nifer yr adroddiadau’n arbennig o uchel yn ardal Casnewydd.

Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent:

"Mae tipio anghyfreithlon yn difetha cefn gwlad a'n mannau agored, yn ogystal â pheryglu bywyd gwyllt ac anifeiliaid sy'n pori. Mae cael gwared â’r broblem yn golygu cost sylweddol i'r trethdalwr.

"Bydd y cynllun syml hwn yn diogelu busnesau sy'n ceisio cael gwared ar eu gwastraff yn gyfrifol ac yn ein helpu i ddal y rhai sy'n dewis gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon."

Mae gan bob busnes ddyletswydd i sicrhau nad yw eu gwastraff mynd i’r dwylo anghywir. Er mwyn osgoi hyn, dylai perchnogion busnes wneud y canlynol:

  • Gofyn a yw eich contractwr wedi’i gofrestru i gario gwastraff.
  • Gofyn i ble maen nhw’n mynd â’ch teiars. Dylai hyn fod i safle sy’n meddu ar drwydded wastraff; gallwch weld y safleoedd trwyddedig yma.
  • Gofyn am nodyn trosglwyddo, bydd hwn yn dweud i ble aeth eich gwastraff. Dylech gadw copi o’r nodyn hwn am ddwy flynedd.
  • A chofiwch, os cewch gynnig pris am waredu’ch teiars sy’n swnio’n rhy dda i fod yn gyfreithlon, meddyliwch ddwywaith gan fod eich greddf yn siŵr o fod yn gywir.

Gall perchnogion busnes ddysgu mwy am ofynion y ddyletswydd gofal yma Waste duty of care code of practice - GOV.UK (www.gov.uk)