Plannu coed yn sefydlu partneriaeth rheoli tir newydd

Agorwyd ardal newydd o goetir yn swyddogol, i dalu teyrnged i Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, a ddathlodd ei 80fed pen-blwydd yn ddiweddar.

Rhoddwyd cyfanswm o 6000 o goed ifanc i Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru, un ar gyfer pob aelod, gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Arfordir Sir Benfro ac Eryri, ynghyd â Tilhill Forestry.   

Defnyddiodd Clwb Ffermwyr Ifanc Brycheiniog 200 o’r coed derw ifanc rhoddwyd iddynt i greu coetir Clwb Ffermwyr Ifanc Talybont, ar ddarn o dir cynigiwyd iddynt gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a roddodd hefyd, goed ychwanegol iddynt. 

Plannwyd y coed ifanc ym mis Mawrth 2018 a mis Ionawr 2019, gan swyddogion o CNC a grŵp o wirfoddolwyr o Glwb ffermwyr Ifanc Brycheiniog, i greu rhan o goetir collddail cymysg, ar hyd Llwybr Taf yng nghoedwig Talybont.

Mae plannu Coetir Clwb Ffermwyr Ifanc yn annog sefydliadau i weithio gyda'i gilydd i greu amgylchedd gwell.

Mae coed yn darparu gweithgareddau hamdden sy’n dda i’n hiechyd a’n lles meddyliol ac maent yn helpu i leihau’r perygl o lifogydd ac yn gwella ansawdd aer, dŵr a phridd ac yn gartref i lawer o’n bywyd gwyllt.

Dywedodd Hefin Evans, Cadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru:

Mae’r hen ddywediad ‘o fes bach, mae coed derw mawr yn tyfu’ yn cael ei adlewyrchu yn y cyfleoedd i ennill sgiliau a phrofiadau newydd a gwneud cyfeillgarwch gydol oes mae’r CFfI wedi ei roi i’w aelodau dros 80 mlynedd diwethaf, ac yn parhau i’w wneud. 
“Plannwyd coetir CFfI mewn lleoliad delfrydol i’r cyhoedd ei weld a’i werthfawrogi wrth i’r coetir aeddfedu.
“Mae’r dull cydgysylltiedig hwn o reoli ein hadnoddau naturiol er mwyn creu amgylchedd iachach a mwy gwydn yn deyrnged addas i'r sefydliad ieuenctid mwyaf yng nghefn gwlad Cymru.”

Dywedodd Michael Cresswell, swyddog rheoli tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi CFfI Brycheiniog – Bydd y gwaith hwn, gobeithio, yn cynyddu dealltwriaeth ffermwyr ifanc o’r hyn sy’n digwydd wrth reoli coedwigoedd, a fydd gobeithio yn creu mwy o reolaeth tir yng nghyswllt cenedlaethau’r dyfodol”.

Dywedodd Chris Davies AS, Cadeirydd Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Goedwigaeth:

“Mae gen i feddwl mawr o GFfI Brycheiniog, sydd wedi cymryd yr awenau ac wedi cael cefnogaeth lawn gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cynllun coetir hwn.  Dyma’r cydweithrediad cyntaf o’i fath yng Nghymru ac rwy’n gobeithio bydd gweddill y DU yn dilyn yr esiampl gyda’u coetiroedd preifat a chyhoeddus. Llongyfarchiadau i’r CFfI.”

Yn draddodiadol, caiff pen-blwydd 80fed ei symboleiddio gan dderw, sy’n dynodi cryfder a hirhoedledd, gyda changhennau’n debyg i deulu sy’n tyfu a’r mes yn symbol o dyfiant a photensial diderfyn.