Gwaith cwympo coed yng Ngwynedd

Ffordd tua Choedwig Aberhirnant

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cwympo coed llarwydd heintus mewn coedwig ger Y Bala y gaeaf hwn.

Bydd dwy ardal o Goedwig Aberhirnant yn cael eu clirio er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu, ardal 28 hectar, sef maint 32 cae pêl-droed yn fras.

Mae un rhan sydd i'w chwympo uwchben y ffordd B4393 Rhos Y Gwaliau i Lyn Fyrnwy. Er mwyn cadw pobl yn ddiogel, bydd angen rheoli traffig pan fydd y coed yn cael eu cwympo a'u cario i fyny'r llethr.

Disgwylir i'r gwaith ddechrau ar 1 Rhagfyr 2021 a'i gwblhau erbyn 31 Mawrth 2022.

Er eu bod yn heintiedig, mae'r coed llarwydd yn gnwd defnyddiol. Bydd yr 8000 tunnell o goed yn mynd i felinau llifio i'w defnyddio ar gyfer deunydd adeiladu tai, ffensio a thanwydd coed.

Ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau, bydd CNC yn ailblannu'r ardal gyda chymysgedd o goed llydanddail a chonwydd, fydd yn helpu i greu coetir mwy amrywiol a fydd yngallu gwrthsefyll afiechydon yn well. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu bioamrywiaeth.

Dywedodd Dylan Roberts, Rheolwr Prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru: “Er mwyn cydymffurfio â’r hysbysiad iechyd planhigion statudol, mae’r coed eisoes wedi cael eu chwistrellu i atal clefyd y llarwydd rhag lledaenu ymhellach. Ond mae angen torri’r coed marw rwan.
“Oherwydd y lleoliad heriol uwchben y ffordd, mae’r gwaith yn gofyn am reoli traffig i gadw pawb yn ddiogel.
“Yn anffodus mae hyn yn golygu defnyddio goleuadau traffig. Bydd ein holl weithredwyr mewn cysylltiad radio i sicrhau cyn lleied o darfu â phosib i ddefnyddwyr y ffordd.
“Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r gymuned leol trwy gydol y gwaith i leihau’r effaith lle bynnag y bo modd. Ond ein blaenoriaeth ydy cadw pawb yn ddiogel ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb am eu cydweithrediad.”

Mae mwy o wybodaeth am iechyd coed yng Nghymru ar gael yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Iechyd Coed yng Nghymru (naturalresources.wales)