Gwaith cwympo coed yng Nghoedwig Cefni, Ynys Môn

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal gwaith teneuo a chwympo coed llarwydd heintus yng Nghoedwig Cefni, Llangefni, Ynys Môn y gaeaf hwn. 

Mae tair rhan o Goedwig Cefni wedi’u heintio â’r clefyd Phytpophthora ramorum, ac mae Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol wedi’i gyhoeddi. O ganlyniad, bydd y llarwydd heintus yn cael ei lwyrgwympo er mwyn atal lledaeniad y clefyd, sy’n gorchuddio 11 hectar.

Disgwylir i'r gwaith ddechrau yr wythnos hon a'i gwblhau erbyn Mawrth 2022. Fe gallai’r gwaith i dynnu’r pren o’r goedwig barhau hyd at ddiwedd mis Mawrth 2022.

Mae’r gweithrediadau cynaeafu wedi’i cynllunio gan gymryd i lawn ystyriaeth bresenoldeb ac effaith bosibl ar unrhyw rywogaethau gwarchodedig, yn cynnwys gwiwerod coch a’u cynefin. O’r herwydd, bydd y gwaith torri coed yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Ionawr 2022.

Er mwyn cadw pobl yn ddiogel, bydd angen rheoli mynediad i rai rhannau o’r goedwig, pan fydd y coed yn cael eu cwympo a'u cario at ochr y ffordd goedwig.

Er eu bod yn heintiedig, mae'r coed llarwydd dal yn gnwd defnyddiol. Bydd yr cyfanswm o 1200 dunnell o goed amcangyfrifedig yn mynd i felinau llifio wedi’u trwyddedu i dderbyn coed heintus, i'w defnyddio ar gyfer deunydd adeiladu tai, ffensio a thanwydd coed.

Ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau, bydd CNC yn ail-blannu'r ardal gyda chymysgedd o goed llydanddail a chonwydd, a fydd yn helpu i greu coetir mwy amrywiol a fydd yn gallu gwrthsefyll afiechydon yn well. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu bioamrywiaeth ag yn fwy ffafriol i’r gwiwerod coch.

Meddai Ian Sachs, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwig o CNC:

“Oherwydd fod y lleoliad wrth ymyl cronfa ddŵr Cefni, ac er mwyn cydymffurfio â’r Hysbysiad Iechyd Phlanhigion Statudol, penderfynwyd peidio â chwistrellu’r coed heintiedig. Yn hytrach, penderfynwyd gwympo’r coed i atal unrhyw glefyd llarwydd rhag lledaenu ymhellach.
“Oherwydd fod y lleoliad yn un heriol ac yn un poblogaidd iawn o safbwynt hamdden, mae’r gwaith yn gofyn am reoli mynediad i gadw pawb yn ddiogel. Yn anffodus mae hyn yn golygu defnyddio dulliau rheoli mynediad i’r cyhoedd dros dro. Bydd ein holl weithredwyr mewn cysylltiad radio i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosib i ddefnyddwyr y ffordd goedwig.
“Byddwn yn gwneud pob ymdrech trwy gydol y gwaith i leihau’r effaith ar y gymuned leol lle bynnag y bo modd. Ond ein blaenoriaeth ydi cadw pawb yn ddiogel a hoffem ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu cydweithrediad.”

Mae mwy o wybodaeth am iechyd coed yng Nghymru ar gael yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Iechyd Coed yng Nghymru (naturalresources.wales)