Dirwyo dyn o Dredegar am droseddau gwastraff

rhannau ceir sgrap

Gorchmynnwyd dyn o Dredegar, Blaenau Gwent yn Ne Ddwyrain Cymru i dalu £3404, ar ôl pledio’n euog i gyhuddiadau’n ymwneud â gwastraff yn Llys Ynadon Cwmbrân y mis diwethaf.

Roedd Mervyn Lewis, wedi bod yn rhedeg busnes modurol ar dir yn Park Hill Garage yn Nhredegar, heb y trwyddedau amgylcheddol neu’r esemptiadau gwastraff perthnasol.

Ymwelodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) â’r safle am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2021, ar ôl cael clywed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent fod cerbydau’n cael eu tynnu oddi wrth ei gilydd a’u hailgylchu ar y safle.

Ar ôl cyrraedd, darganfu’r swyddogion fod nifer o gerbydau mewn cyflyrau gwael amrywiol ar y safle, ac ystyriwyd fod nifer ohonynt yn fetel sgrap a bod angen eu cludo o’r safle.

Roedd nifer o duniau olew, gwastraff a chadachau olewog hefyd wedi eu gwasgaru ar lawr, a chanfu’r swyddogion nad oedd unrhyw fesurau rheoli llygredd yn bodoli, er bod y safle yn agos iawn at gwrs dŵr.

Cyflwynwyd Hysbysiad Gorfodi (S59) i Mr Lewis oedd yn ei gwneud yn ofynnol iddo symud pedwar cerbyd, yn ogystal â nifer o ddarnau o gerbydau cysylltiedig â gwastraff olewog, a methodd gydymffurfio yn llawn â hyn yn ddiweddarach.

Dyfarnwyd ef yn euog o ollwng a thrin gwastraff heb y trwyddedau amgylcheddol angenrheidiol a chafodd ddirwy o £800 yn Llys Ynadon Cwmbrân ar 23 Mehefin. Cafodd orchymyn hefyd i dalu costau ymchwilio o £2524.18 yn ogystal â gordal dioddefwr o £80 oedd yn rhoi cyfanswm o £3404.18.

Meddai Susana Fernandez, Uwch Swyddog Gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae trwyddedau amgylcheddol yn cael eu rhoi er mwyn inni allu sicrhau bod busnesau'n gweithredu'n ddiogel ac yn cydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol, fel nad ydynt yn llygru'r amgylchedd nac yn achosi niwed i bobl neu i fywyd gwyllt.
Mae'n drosedd casglu, cludo, storio neu dorri cerbydau heb drwydded amgylcheddol.
Os byddwn yn dod o hyd i dystiolaeth bod busnes yn gweithredu heb y trwyddedau angenrheidiol sy'n diogelu'r amgylchedd lleol a'r cymunedau cyfagos, ni fyddwn yn petruso cyn ymchwilio a chymryd y camau gorfodi priodol.

Dylai unrhyw un sy’n amau bod gweithgarwch gwastraff anghyfreithiol yn digwydd yn eu hardal roi gwybod ar unwaith i linell gymorth digwyddiadau CNC drwy ffonio 0300 065 3000.