Gwaith i gael gwared ar rwystr yn Afon Dyfrdwy yn annog eogiaid i ymfudo

Mae poblogaethau lleol o eogiaid ar Afon Dyfrdwy wedi cael hwb ar ôl darganfod eogiaid ifanc mewn tri safle uwchben lleoliad rhwystr a gafodd ei ddatgymalu’n ddiweddar.

Fe wnaeth prosiect Afon Dyfrdwy LIFE gael gwared â Rhyd Morlas ym mis Medi 2021 gan ei fod yn rhwystro ymfudiad pysgod. Mae hyn yn rhan o waith parhaus y prosiect i drawsnewid Afon Dyfrdwy a'i dalgylch drwy adfer yr afon a'r cyffiniau yn ôl i'w cyflwr naturiol.

Ddydd Mawrth 10 Awst, cwblhaodd Swyddogion CNC arolygon electrobysgota yn Nant Morlas a nododd fod eogiaid llawn dwf oedd yn dychwelyd wedi cael mynediad i'r nant yn ystod y gaeaf blaenorol ac wedi llwyddo i silio uwchben y man lle cafwyd gwared ar y rhyd. Roedd arolygon electrobysgota blaenorol wedi dangos nad oedd unrhyw eogiaid wedi silio am o leiaf dair blynedd cyn i'r rhyd gael ei symud.

Mae eogiaid llawn dwf yn dychwelyd i'w nant enedigol i silio ar ôl treulio amser yn tyfu yn y môr. Os yw eu llwybr yn cael ei rwystro gan strwythurau artiffisial, gallant wastraffu egni neu gael eu hanafu wrth geisio mudo a gallai ysglyfaethwyr fod yn fwy o fygythiad iddynt.

Strwythur a adeiladwyd yn wreiddiol yn y 1990au i ddarparu mynediad i lan bellaf yr afon oedd Rhyd Morlas. Mae Nant Morlas yn un o lednentydd Afon Ceiriog, sydd ei hun yn un o lednentydd mawr Afon Dyfrdwy. Mae Afon Ceiriog yn ffurfio rhan o'r Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), gydag eogiaid yn un o'r prif resymau dros ddewis y safle. 

Meddai Joel Rees-Jones, Rheolwr Prosiect Afon Dyfrdwy LIFE:

"Trwy gael gwared ar y rhyd, rydym wedi caniatáu i eogiaid llawn dwf sy'n dychwelyd gael mynediad at fannau silio o ansawdd da. Pellter o 60 metr yn unig oedd rhwng y strwythur a’r cydlifiad ag Afon Ceiriog, felly roedd yn golygu nad oedd modd cael mynediad at y cyfan bron o Nant Morlas yn y rhan fwyaf o flynyddoedd. 
"Yn ogystal â chael gwared â Rhyd Morlas, bydd prosiect Afon Dyfrdwy LIFE hefyd yn cael gwared â phedair cored arall yn Afon Dyfrdwy a'i llednentydd ac yn gosod strwythurau i hwyluso ymfudiad pysgod mewn chwe cored arall. Bydd hyn yn gwella mynediad i bysgod mewn gwerth 88km o afonydd a nentydd gan roi budd i amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau."

Ariennir prosiect Afon Dyfrdwy LIFE (LIFE18 NAT/UK/000743) gan Raglen LIFE yr UE, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Dŵr Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.