Annog preswylwyr i fynychu digwyddiad galw heibio ar astudiaeth perygl llifogydd Tref-y-Clawdd

Cynhelir sesiwn galw heibio yr wythnos hon (23 Mehefin) i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion Tref-y-Clawdd am ddatblygiadau diweddaraf astudiaeth perygl llifogydd sy'n cael ei chynnal yn y dref .

Cychwynnwyd yr astudiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ôl i Afon Teme a Wylcwm Brook orlifo ar dri achlysur ers mis Rhagfyr 2020, yn fwyaf diweddar ar ôl Storm Franklin ym mis Chwefror 2022.

Hyd yma, mae'r astudiaeth yn cynnwys adeiladu model hydrolig ar gyfer yr Afon Teme a Wylcwm Brook er mwyn galluogi CNC i ddeall yn well y ffactorau sy'n cyfrannu at gyfres o ddigwyddiadau llifogydd dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r astudiaeth hefyd yn edrych ar opsiynau lliniaru llifogydd posibl i leihau'r perygl o lifogydd i'r gymuned yn y dyfodol.

Cynhelir y sesiwn galw heibio ar 23 Mehefin rhwng 3:30pm a 6pm yng Nghanolfan Gymunedol Tref-y-clawdd. Gall preswylwyr fynychu ar unrhyw adeg yn ystod yr amser i ddysgu mwy am yr astudiaeth a siarad â'r staff.

Dywedodd Keith Ivens, Rheolwr Gweithrediadau CNC: "Mae'r astudiaeth hon yn ceisio cael gwell dealltwriaeth o'r gwendidau yn Nhref-y-Clawdd, a sut y gallwn geisio eu goresgyn.
"Mae'r sesiwn galw heibio hon yn bwysig gan y bydd yn rhoi cyfle i breswylwyr ddysgu am yr astudiaeth, a hefyd iddynt roi adborth i ni i ddylanwadu ar gam nesaf y gwaith. "

Bydd swyddogion CNC yn ymuno â chydweithwyr Cyngor Sir Powys ac Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren yn y digwyddiad.