Sesiynau gweithdai ymgysylltu ar-lein i esbonio dull masnachol newydd CNC

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn addasu'r ffordd y mae'n cyflawni ei weithgareddau masnachol i ymateb i'r heriau sy'n wynebu cyllid cyhoeddus ac i ddiogelu'r amgylchedd, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a chefnogi economi Cymru drwy effaith Covid-19 a thu hwnt.

Mae gweithgarwch tîm masnachol CNC yn cynnwys meysydd fel Ynni Adnewyddadwy, Pren, Twristiaeth a Hamdden, a Gwasanaethau Dadansoddi. Bydd y Strategaeth Fasnachol yn canolbwyntio ar ofynion a photensial pob sector unigol ac yn archwilio ffyrdd y gallant elwa o'i gilydd i ddatblygu dull masnachol integredig, ymarferol ac effeithiol.

Dywedodd Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Masnachol CNC:

"Mae gan CNC rôl bwysig i'w chwarae o ran ymateb a chyfrannu at Adferiad Gwyrdd economaidd Cymru yn ystod ac ar ôl y pandemig. Nod arall hefyd yw cefnogi diwydiant pren Cymru a gweithio gyda'n partneriaid ar y potensial o ran twf yn ein defnydd o goed yng Nghymru.  Rydym hefyd am ganolbwyntio ar brosiectau ynni adnewyddadwy newydd ac arloesol, ac ar ein cynnig twristiaeth a hamdden, gan annog mwy o ymwelwyr â Chymru wrth inni ddod allan o'r pandemig.
"Mae ein gweithgareddau masnachol yn ffrwd incwm bwysig ar adeg pan fo cyllid cyhoeddus yn parhau i fod dan bwysau a gallant gefnogi pobl Cymru drwy ganolbwyntio ar rai sectorau allweddol lle mae nid yn unig gyfle i wneud y gorau o'n hadnoddau naturiol ond ffordd o wneud hynny sy'n gynaliadwy ac yn Gymreig.
"Fodd bynnag, nid yw gweithgarwch masnachol CNC yn canolbwyntio ar fanteision ariannol yn unig. Bydd y Strategaeth Fasnachol yn sicrhau bod yr un pwysigrwydd yn cael ei roi i'r Blaned, i’r Bobl ac i Ffyniant (y tair P yn Saesneg – Planet, People, Prosperity).  Mae angen i ni roi’r budd mwyaf posibl i gymunedau Cymru, a mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur."

Er mwyn helpu i egluro sut mae'r Strategaeth Fasnachol yn ceisio gweithio a sut y bydd datblygu'r dull newydd hwn yn helpu i’w gwneud yn haws i gwsmeriaid presennol a chwsmeriaid newydd weithio gyda CNC, mae tîm Masnachol CNC yn cynnal cyfres o weithdai ymgysylltu ar-lein am ddim yn ddiweddarach y mis hwn.

Ychwanegodd Sasha Davies, y Pennaeth Masnachol:

"Wrth ddatblygu'r Strategaeth Fasnachol, rydym yn nodi'n glir yr egwyddorion a'r uchelgeisiau cyffredinol ar gyfer ein gweithgareddau masnachol, yng nghyd-destun y Blaned, y Bobl a Ffyniant.
"Rydym am i gynifer â phosibl o'n partneriaid a'n rhanddeiliaid gael cyfle i gyfrannu at y strategaeth ddatblygu hon, deall ein syniadau cychwynnol ar y dull newydd hwn a sut rydym yn rhagweld y bydd o fudd iddynt hwy a'u busnesau, wrth ddiogelu a gwella'r amgylchedd.
"Yn bwysicaf oll, rhaid gallu cyflawni'r Strategaeth Fasnachol, a dim ond gyda thrafodaeth ragweithiol ac egnïol a gwaith llunio gan randdeiliaid ymroddedig ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a chymunedol y gellir sicrhau hyn ac felly byddem yn gwerthfawrogi eich barn yn fawr.
"Rydym eisoes yn rheoli gweithgareddau masnachol yng nghyd-destun Amcanion Llesiant CNC ac o fewn y cylch gwaith i gyflawni yn erbyn egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR). Ein dyheadau yw gwneud mwy, bod yn well, a chanolbwyntio ar ddyfodol cynaliadwy, gan sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran mynd i'r afael â'r Argyfyngau Natur a Hinsawdd drwy reoli adnoddau naturiol yn effeithiol.
"Bydd y Strategaeth Fasnachol yn ein helpu i gyflawni'r nod hwn."

I gofrestru ar gyfer un o sesiynau ymgysylltu ein Strategaeth Fasnachol anfonwch e-bost at sharon.parry@naturalresourceswales.gov.uk a nodwch pa un (neu ba rai) yr hoffech eu mynychu:

  • Ynni: 24 Tachwedd, 2pm – 4pm
  • Pren: 26 Tachwedd, 10pm -12 hanner dydd, a 2 Rhagfyr 2pm – 4pm
  • Twristiaeth a Hamdden: 26 Tachwedd, 2pm – 4pm