CNC yn taclo pysgota anghyfreithlon dros wyliau'r Pasg

Roedd swyddogion gorfodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) allan dros benwythnos y Pasg, yn patrolio afonydd er mwyn canfod achosion o bysgota anghyfreithlon.

Gan weithredu ar adroddiadau gwybodaeth, ymchwiliodd y swyddogion i nifer o droseddau gan arwain at gamau gorfodi yn erbyn pedwar pysgotwr ar Afon Tywi am eu defnydd o bryfed genwair fel abwyd, yn groes i is-ddeddfau.

Roedd gweithgareddau eraill yr adroddwyd amdanynt yn cynnwys rhwydo a cham fachu, a chafwyd hyd i rwyd anghyfreithlon o Afonydd Nyfer a Llwchwr.

Dywedodd Dave Mee, Cynghorydd Arweiniol Arbenigol Pysgodfeydd Dŵr Croyw CNC:

"Mae is-ddeddfau pysgota ar waith i ddiogelu stociau pysgod bregus; gall pysgota anghyfreithlon fygwth bodolaeth rhai rhywogaethau yn afonydd Cymru ac rydym yn cymryd pob achos o bysgota anghyfreithlon o ddifrif.
"Rhaid dychwelyd pob eog i'r dŵr ar unwaith er mwyn lleihau'r posibilrwydd o’u hanafu, ac nid yw pysgota am eogiaid gan ddefnyddio pryfed genwair yn cael ei ganiatáu ar unrhyw adeg.
"Er bod ein patrolau'n gweithredu fel rhwystr i bysgota anghyfreithlon, mae ein hadnoddau’n gyfyng ac felly rydym yn dibynnu fwyfwy ar ddull a arweinir gan adroddiadau gwybodaeth i fynd i'r afael â'r broblem.
"Os gwelwch unrhyw weithgaredd amheus neu anghyfreithlon, rhowch wybod i linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000."

Gellir gwneud adroddiadau'n ddienw a dylent gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Ble mae/oedd y gweithgaredd yn digwydd? Rhowch gyfeirnod grid os yw'n bosib, fel arall, dylech ddarparu cyfarwyddiadau / disgrifiadau manwl o'r lleoliad.
  • Beth sydd/oedd yn digwydd?
  • Pwy sydd/oedd yn gyfrifol am y gweithgaredd?
  • Pryd ddigwyddodd y gweithgaredd?