Adfywio Cyforgorsydd Cymru

Group of people at the LIFE launch

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dechrau ar brosiect cadwraeth ar gyfer cynefin hynod brin.

Bydd y prosiect pedair miliwn o bunnoedd, Adfywio Cyforgorsydd Cymru, yn gwella cyflwr saith o gyforgorsydd – rhai o gynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru.

Corsydd siâp cromen yw cyforgorsydd – llecynnau o fawn sydd wedi cronni dros 12,000 o flynyddoedd ac sy’n gallu bod yn 12 metr o ddyfnder.

Aeth staff CNC, partneriaid ac aelodau o’r gymuned leol ar daith gerdded o amgylch Cors Fochno yng Ngheredigion i gael blas ar y gwaith fydd yn dechrau nes mlaen eleni.

Bydd y prosiect yn adfer saith o gyforgorsydd yng Nghymru gan gynnwys Cors Fochno a Chors Caron yng Ngheredigion.

Bydd safleoedd ger Trawsfynydd, Abergwaun, Crosshands a Llanfair-ym-Muallt ar eu hennill hefyd.

Bydd yr ymgyrch i’w hadfer yn arwain at wella systemau draenio, lleihau rhywogaethau goresgynnol, cael gwared â phrysgwydd a chyflwyno pori ysgafn – mewn partneriaeth gyda chymunedau, tirfeddianwyr a chontractwyr lleol.

Meddai Carol Fielding, Rheolwr y Prosiect:

“I rai, efallai fod corsydd braidd yn anniddorol a dibwys. Ond, mae’r gwrthwyneb yn wir. Mae corsydd iach yn esgor ar fanteision lu i fywyd gwyllt a phobl.
“Maen nhw’n gartref i anifeiliaid a phlanhigion prin, gan gynnwys gweirlöyn mawr y waun ac andromeda’r gors. Maen nhw’n helpu i fynd I’r afael ag effeithiau newid hinsawdd trwy storio llawer iawn o garbon. Ac maen nhw’n llefydd gwych i ymweld â nhw i fwynhau natur ar ei gorau.”

Mae canrifoedd o dorri mawn a draenio wedi newid cyforgorsydd. Yn awr, gydag arian gan raglen LIFE yr UE, gall CNC wella eu cyflwr er mwyn galluogi cyforgorsydd Cymru i barhau i greu mawn newydd a chloi mwy o garbon.

Bydd y manteision a ddaw yn sgîl y gwaith yn parhau ymhell ar ôl i’r prosiect ddod i ben, gan gael effaith gadarnhaol am genedlaethau i ddod.

Mae’r prosiect pedair blynedd hwn wedi cael ei ariannu gan grant rhaglen LIFE yr UE a CNC, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae yna fideo am y prosiect ar sianel YouTube CNC: