Lansio Cod Cefn Gwlad newydd i helpu pobl i fwynhau'r awyr agored

Dynes, bachgen a chi yn cerdded yng Nghoedwig Pen-bre

Mae Cod Cefn Gwlad newydd wedi'i gyhoeddi, 70 mlynedd ers cyhoeddi'r llyfryn cyntaf ym 1951. Mae'r Cod yn caniatáu i bobl o bob oed a chefndir fwynhau'r manteision iechyd a lles y mae natur yn eu cynnig, gan barchu'r amgylchedd a phobl sy'n byw ac yn gweithio ynddo.

Mae Cod Cefn Gwlad newydd, wedi'i adnewyddu, wedi'i lansio heddiw gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Natural England, 70 mlynedd ers creu'r llyfryn cyntaf. Gyda mwy o bobl yn mwynhau'r awyr agored nag erioed o'r blaen, mae'r cod wedi'i ddiwygio i helpu pobl i fwynhau cefn gwlad mewn ffordd ddiogel a pharchus. 

Cyhoeddwyd llyfryn cyntaf y Cod Cefn Gwlad ym 1951. Mae'r diweddariad hwnwedi'i ddylanwadu gan bron i 4,000 o ymatebion gan randdeiliaid i arolwg ar-lein, a oedd yn ceisio barn ar arferion gorau ar gyfer ymweld â chefn gwlad a diogelu'r amgylchedd naturiol, ac fe gafwyd ymateb enfawr.

Mae'r newidiadau'n cynnwys cyngor ar greu amgylchedd croesawgar, er enghraifft drwy ddweud helo wrth gyd-ymwelwyr; rheolau cliriach i danlinellu pwysigrwydd clirio baw cŵn; aros ar lwybrau troed; a pheidio â bwydo da byw. Mae hefyd yn rhoi cyngor ar sut i geisio caniatâd ar gyfer gweithgareddau fel nofio gwyllt. 

Mae'r newidiadau allweddol i'r Cod Cefn Gwlad yn cynnwys:

  • Cyngor newydd i bobl 'fod yn gyfeillgar, dweud helo, rhannu'r lle' yn ogystal â 'mwynhau eich ymweliad, cael hwyl, creu atgofion'.

  • Nodyn i atgoffa pobl i beidio â bwydo da byw, ceffylau nac anifeiliaid gwyllt.

  • Cyfarwyddyd i aros ar lwybrau troed wedi'u marcio, hyd yn oed os ydynt yn fwdlyd, i ddiogelu cnydau a bywyd gwyllt.

  • Gwybodaeth am ganiatâd i wneud rhai gweithgareddau awyr agored, fel nofio gwyllt.

  • Rheolau cliriach i gerddwyr cŵn fynd â baw cŵn adref a defnyddio eu bin eu hunain os nad oes biniau gwastraff cyhoeddus.

  • Naws wahanol, gan greu canllaw i'r cyhoedd yn hytrach na rhestr o reolau – gan gydnabod y manteision iechyd a lles sylweddol a ddaw yn sgil treulio amser ym myd natur.

  • Geiriad newydd i'w gwneud yn glir bod y cod yn berthnasol i'n holl leoedd naturiol, gan gynnwys parciau a dyfrffyrdd, arfordir a chefn gwlad.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Ers 70 mlynedd, mae'r Cod Cefn Gwlad wedi bod yn gonglfaen i'n perthynas â'r awyr agored – adnodd dibynadwy a hanfodol sy'n helpu pobl i fwynhau eu hamgylchedd naturiol yn ddiogel ac yn barchus. Hoffwn ddiolch i'n holl bartneriaid yng Nghymru sydd wedi chwarae eu rhan wrth lunio'r cod wedi'i ddiweddaru rydym yn ei lansio heddiw.
"Gyda mwy a mwy ohonom yn gwneud y gorau o'n cefn gwlad hardd a gyda thywydd cynhesach a dyddiau hirach ar y ffordd, ni fu glynu wrth y cod erioed yn bwysicach. P'un a ydych chi’n dychwelyd i leoedd poblogaidd, neu'n mynd i gyrchfan am y tro cyntaf erioed, gwnewch yn siŵr eich bod yn paratoi ar gyfer eich taith ymlaen llaw ac yn glynu at y cod pan fyddwch yn cyrraedd yno."

Gyda'r gofyniad i aros yn lleol wedi'i lacio yng Nghymru, disgwylir i ymwelwyr ddychwelyd i gefn gwlad yn eu heidiau dros gyfnod y Pasg. Yn haf 2020, diweddarwyd y Cod Cefn Gwlad i ymateb i faterion a ddaeth i’w amlwg yn ystod y cyfnod clo, fel cynnydd mewn taflu sbwriel a chŵn yn aflonyddu ar ddefaid.

Nod yr adnewyddu yw helpu pawb i fwynhau parciau a mannau agored mewn ffordd ddiogel, gan eu hannog i ofalu am ein hamgylcheddau naturiol a bywoliaeth y rhai sy'n gweithio yno.

Meddai John Davies, Llywydd NFU Cymru:
"Mae cefn gwlad Cymru yn cynnig llu o fanteision i'r cyhoedd, ac yn gweithredu fel campfa werdd ar gyfer ymarfer corff a hamdden awyr agored, yn ogystal â bod yn gefndir trawiadol sy’n cael ei gynnal gan ffermwyr sydd hefyd yn helpu i sicrhau fod y wlad yn cael ei bwydo.
Mae pwysigrwydd cefn gwlad Cymru wedi dod yn amlwg iawn yn ystod pandemig Covid-19, ac mae wedi bod yn noddfa i filiynau o ymwelwyr er mwyn gwella eu hiechyd corfforol a'u lles meddyliol.
"Mae'r Cod Cefn Gwlad hwn, sydd ar ei newydd wedd, yn arf pwysig i helpu i ddelio â'r pwysau ychwanegol a roddir ar gefn gwlad gan gerddwyr a phobl sy'n mwynhau ein hamgylchedd amaethyddol. Byddwn yn annog pobl i ddeall a pharchu'r Cod, yn enwedig o ran cadw at hawliau tramwy cyhoeddus, sicrhau fod cŵn yn cael eu cadw dan reolaeth a gwaredu baw cŵn mewn biniau."

 

Dywedodd Rebecca Brough, Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth Ramblers Cymru:
"Rydym yn ffodus yng Nghymru bod gennym gymaint o leoedd anhygoel i'w darganfod ac rydym am i bawb fod â’r hyder i fwynhau cerdded yn yr awyr agored, teimlo bod croeso iddynt yng nghefn gwlad a gweithredu fel hyrwyddwyr dros yr amgylchedd, p'un a ydynt yn ymweld â Pharc Cenedlaethol neu eu parc lleol – mae'r Cod Cefn Gwlad yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol i gefnogi cerddwyr ac mae'n lle gwych i ddechrau os ydych yn newydd i gerdded."

Gellir gweld y Cod Cefn Gwlad wedi'i ddiweddaru yma.