Cyfoeth Naturiol Cymru yn COP26 Manteisio ar fyd natur er lles pobl a'r blaned

Bydd prosiectau Cymru sydd wedi’u hysbrydoli a’u cyflawni gan natur i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn cael eu cyflwyno i gynulleidfa fyd-eang wrth i arweinwyr byd ymgynnull yng nghynhadledd COP26 i drafod cymryd camau gweithredu uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymuno ag asiantaethau cadwraeth natur, diogelu'r amgylchedd a choedwigaeth y DU yng Nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn Glasgow i dynnu sylw at sut y gall atebion sy'n seiliedig ar natur chwarae rhan flaenllaw wrth sicrhau dyfodol sero-net.

Bydd CNC yn cyflwyno dau brosiect o Gymru sy’n canolbwyntio ar atebion ar sail natur fel rhan o arddangosfa ar stondin y Grŵp Rhyngasiantaethol ar Newid Hinsawdd (IACCG) yn y Parth Gwyrdd, wedi’i lleoli yng Nghanolfan Wyddoniaeth Glasgow, ddydd Mawrth 2 Tachwedd.

Y cyntaf yw Grangetown Werddach, prosiect system ddraenio gynaliadwy (SuDS) a gynlluniwyd i reoli dŵr glaw yn well a gwneud y gymdogaeth amrywiol hon yng Nghaerdydd yn lle glanach a gwyrddach i fyw ynddi.

Yr ysgogiad y tu ôl i’r prosiect hwn, a gyflawnwyd trwy bartneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Caerdydd a Dŵr Cymru, oedd yr angen i leihau faint o ddŵr glaw sy'n mynd i mewn i system garthffosiaeth y brifddinas er mwyn gallu gwrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd a threfoli. Un o nodau eraill y prosiect oedd gwella'r ardal a’r mynediad i fannau gwyrdd trefol i'w thrigolion a'i chymudwyr.

Yn Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn Ne Cymru, mae CNC yn gweithio mewn partneriaeth â'r cwmni ynni Vattenfall ar gynllun rheoli cynefinoedd 25 mlynedd gwerth £3 miliwn, a gynlluniwyd er mwyn cefnogi bywyd gwyllt lleol, adfer cynefinoedd a gwella cadernid ecosystem y mawndir ar y safle sydd â 76 o dyrbinau. Rhoddir blaenoriaeth i adfer gorgorsydd, cael gwared ar blanhigfeydd conwydd a chynnal gwaith paratoi tir i adfer prosesau hydrolegol naturiol y mawndiroedd er mwyn storio a dal carbon.

Gan gydnabod y rôl hollbwysig a'r brys ar gyfer mynd i'r afael ag argyfwng bioamrywiaeth ynghyd â’r argyfwng hinsawdd, mae'r ddau brosiect yn dangos dulliau naturiol a chost-effeithiol o ddelio â rhai o heriau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd mwyaf y DU. Maent hefyd yn dangos sut y gellir cyflawni camau i addasu i newid yn yr hinsawdd a’i liniaru drwy ddatblygu gwytnwch adnoddau naturiol ac ecosystemau.

Mae'r arddangosfa yn rhan o raglen ehangach o ddigwyddiadau y bydd cydweithwyr CNC yn eu mynychu yn ystod pythefnos COP26. Bydd yn cynnwys pedwar digwyddiad Sioe Deithiol

Ranbarthol ledled Cymru (rhwng 4 a 10 Tachwedd) yn pwysleisio enghreifftiau o arfer orau a chaniatáu cyfranogwyr I gyfrannu at drafodaethau pwysig ynghylch themâu Rhaglen Llywyddiaeth COP26.

Yr uchelgais yw ennyn diddordeb domestig a rhyngwladol cryf yn y broses o fabwysiadu’r ystod eang o ddulliau sy'n cael eu cymryd ar hyn o bryd yng Nghymru a'r DU i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd – gan gynnwys atebion sy'n seiliedig ar natur.

Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mae’n ddigon hysbys erbyn hyn mai'r uwchgynhadledd bwysig hon ar yr hinsawdd fydd cyfle gorau’r byd i adeiladu dyfodol glanach a gwyrddach. Wrth i effeithiau newid yn yr hinsawdd gael eu gweld a'u teimlo ledled y byd, ac ar garreg ein drws, rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i gyflymu'r camau sydd eu hangen er mwyn atal unrhyw effeithiau pellach yn y dyfodol.

"Nawr mae’n bryd i bob gwlad a phob rhan o gymdeithas groesawu eu cyfrifoldeb i amddiffyn ein planed. Mae CNC yn edrych ymlaen at chwarae ein rhan dros y pythefnos nesaf, i dynnu sylw at y rôl gadarnhaol y mae Cymru eisoes yn ei chwarae wrth gyflawni'r uchelgais hon ar lwyfan byd-eang."

Ym mis Medi, lansiodd pum asiantaeth natur statudol y DU adroddiad newydd – Natur Bositif 2030 – sy’n nodi sut y gall y DU fodloni ei hymrwymiadau yn Addewid Natur yr Arweinwyr, a sicrhau bod adferiad natur yn chwarae rhan hanfodol yn y llwybr at Sero-Net.

Bydd canfyddiadau'r adroddiad ar y cyd yn cael eu hamlygu drwy gydol COP 26, er mwyn pwysleisio y bydd cyflawni ymrwymiadau natur yn sicrhau buddion enfawr i iechyd pobl, lles a'n heconomi, ac y bydd angen newid trawsnewidiol ar draws cymdeithas ac yn y ffordd rydym yn amddiffyn, gwerthfawrogi, defnyddio ac ymgysylltu â natur.

Ychwanegodd Clare Pillman:

"Mae adroddiad Natur Bositif 2030 yn pwysleisio'r angen i drin ein huchelgeisiau ar gyfer adfer natur a’r rhai ar gyfer newid hinsawdd fel blaenoriaethau cyfartal – mae angen i'r unigolion, busnesau, dinasoedd a llywodraethau hynny sy'n mynychu'r gynhadledd hollbwysig hon sy'n ymdrechu i fod yn Sero-Net ddod yn natur bositif hefyd.

"Ein huchelgais ar gyfer yr adroddiad hwn yn COP26 yw cyflwyno’r enghreifftiau gorau o brosiectau sy’n canolbwyntio ar atebion naturiol o bob rhan o'r DU, gan dynnu sylw cynulleidfaoedd newydd at sut y gall natur ddarparu atebion pwysig i’r newid yn yr hinsawdd a helpu i sicrhau gwelliannau amgylcheddol er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol."

 

  • Mae astudiaethau achos sy’n ffocysu ar atebion naturiol o Gymru ar gael gan Cyfoeth Naturiol Cymru – cysylltwch â cyfathrebu@cyfoethnaturiol.cymru
  • Mae rhagor o wybodaeth am yr astudiaethau achos o bob rhan o'r DU a ddangosir yn COP26 i'w gweld ar wefan y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) o 1 Tachwedd gov.uk/iaccg-nbs-case-studies/
  • Mae Grŵp Rhyngasiantaethol y DU ar Newid Hinsawdd (IACCG) yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr o asiantaethau amgylcheddol y DU i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi newid yn yr hinsawdd a datblygiadau tystiolaeth ar draws pedair gwlad y DU, gan nodi meysydd o ddiddordeb cyffredin a rhannu profiad.

  • Mae ei aelodaeth yn cynnwys:
  • Natural England
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • NatureScot
  • Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon
  • Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC)
  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Scottish Forestry
  • Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA)
  • Y Comisiwn Coedwigaeth
  • Forestry England

  • Bydd yr IACCG yn arddangos rhai o'r enghreifftiau gorau o brosiectau’r DU sy’n canolbwyntio ar atebion naturiol ar ei stondin (C8) yn y Parth Gwyrdd ddydd Mawrth 2 Tachwedd.
  • Cynhyrchwyd Natur Bositif 2030 gan y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur, Natural England, Cyfoeth Naturiol Cymru, NatureScot ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon. Mae'n cynnwys dau adroddiad – Adroddiad Crynoac Adroddiad Tystiolaeth ac fe'i cyhoeddwyd ym mis Medi 2021 i nodi un flwyddyn ers Addewid Natur yr Arweinwyr.
  • Ein gwaith ni yw gofalu am adnoddau naturiol Cymru a'r hyn y maent yn eu darparu i ni; helpu i leihau'r risg o lifogydd a llygredd i bobl ac eiddo; gofalu am ein llefydd arbennig ar gyfer lles pobl a bywyd gwyllt; darparu pren; ac i weithio gydag eraill i'n helpu ni i gyd i'w rheoli'n gynaliadwy. Mae gan ein pobl yr wybodaeth, yr arbenigedd a'r angerdd i helpu i wireddu rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol.
  • Am wybodaeth bellach, ewch i'n gwefan: naturalresources.wales
  • I gael rhagor o wybodaeth am COP26 HOME - UN Climate Change Conference (COP26) at the SEC – Glasgow 2021 (ukcop26.org)