Gwaith diogelwch ar gronfa ddŵr Llyn Tegid yn cyrraedd y pwynt hanner ffordd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyrraedd y pwynt hanner ffordd gyda’i waith i sicrhau bod llyn naturiol mwyaf Cymru yn parhau'n ddiogel yn y tymor hir.

Bydd y gwaith, a ddechreuodd ym mis Ionawr 2022, yn sicrhau y gall Llyn Tegid yn y Bala barhau i wrthsefyll tywydd eithafol nawr ac yn y dyfodol, gan hefyd ddod â gwelliannau i'r ardal mewn perthynas â’r amgylchedd a hamdden.

Mae'r rhain yn cynnwys llwybrau troed gwell i bobl o bob gallu, mannau eistedd newydd, cynefinoedd wedi'u hadfer, ardaloedd newydd o ddolydd blodau gwyllt ac adnoddau ar gyfer addysg amgylcheddol.

Mae gwaith i gryfhau argloddiau'r llyn ac amnewid mwy na 1km o amddiffynfeydd cerrig yn digwydd ochr yn ochr â gwaith hwyluso a fyddai o fudd pe bai Rheilffordd Llyn Tegid yn cael ei hehangu yn y dyfodol.

Mae'r gwaith cryfhau wedi golygu cael gwared ar 300 o goed a oedd wedi hunan-hadu a oedd yn gwanhau arglawdd y lan ac mae cam cyntaf gwaith i blannu coed eisoes wedi dechrau fel rhan o'n hymrwymiad i blannu tair coeden yn lleol ar gyfer pob un goeden y bu'n rhaid inni ei chwympo.

Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan y contractwyr William Hughes Peirianneg Sifil a chan y contractwr tirlunio Ground Control, gyda'r gwaith yn parhau drwy gydol gweddill 2022.

Bydd llwybrau troed ar gau drwy gydol yr haf er mwyn cadw'r cyhoedd yn ddiogel.

Mae hyn yn cynnwys llwybr arglawdd glan y llyn rhwng swyddfa wardeiniaid y llyn a chlwb rygbi'r Bala, a llwybr arglawdd Afon Dyfrdwy o bont Dyfrdwy i'r ystad ddiwydiannol.

Mae gwyriadau ar waith ar y llwybrau troed lleol ac maent wedi'u harwyddo ar gyfer y rhai sy'n ymweld â'r ardal.

Mae ein safle gwaith wedi'i leoli ar hyd Stryd Tegid lle bydd system goleuadau traffig tair ffordd ar waith saith diwrnod yr wythnos ac ni fydd mynediad i rai o'r meinciau ar hyd blaen y llyn.

Ymhlith yr ardaloedd o amgylch y llyn sydd eisoes wedi ailagor mae'r ardal wedi'i huwchraddio o amgylch Canolfan Hamdden Penllyn a Chaffi Woody’s a llwybr troed gwell ar gyfer pob gallu ar hyd Afon Tryweryn.

Meddai, Martin Cox, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru yn Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mae argloddiau'r llyn yn rhoi amddiffyniad hanfodol rhag llifogydd i dref y Bala ac mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod y dref yn parhau'n ddiogel.
"Mae pobl leol wedi rhoi adborth ar gynlluniau’r prosiect dros y blynyddoedd diwethaf ac mae eu mewnbwn, yn enwedig am gyfleoedd amgylcheddol a chyfleoedd hamdden, yn cael ei roi ar waith ochr yn ochr â'r gwaith diogelwch ar y gronfa ddŵr.
"Rydym yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned yn rheolaidd am ein cynnydd ac rydym yn gwneud y gwaith hanfodol hwn mor effeithlon â phosibl gan sicrhau ein bod yn cadw'r cyhoedd yn ddiogel ac yn cynnal safonau diogelwch llym bob amser.
"Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith hwn ei achosi ac yn diolch i aelodau'r gymuned am eu dealltwriaeth."

Gallwch ddysgu mwy ar wefan CNC https://cyfoethnaturiol.cymru/llyntegid