Trigolion Llandinam wedi’u gwahodd i ddigwyddiad galw heibio ar berygl llifogydd

Gwahoddir trigolion Llandinam i ddysgu am y gwaith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â risg llifogydd yn yr ardal yn sgil effeithiau llifogydd a brofwyd yn ystod Storm Franklin mis Chwefror 2022.

Cynhelir y digwyddiad gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a bydd hefyd yn cynnwys staff o Gyngor Sir Powys, Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn a Hafren Dyfrdwy.

Nod y sesiwn yw tynnu sylw at wasanaeth rybudd llifogydd CNC, gan ganolbwyntio ar sut y gall preswylwyr gofrestru i’r gwasanaeth. Bydd swyddogion hefyd yn gweithio gyda'r gymuned i gefnogi datblygiad Cynllun Llifogydd Cymunedol sy'n eiddo i'r gymuned, sydd wedi'i gynllunio i helpu'r gymuned gyfan yn ei hymateb cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.

Bydd swyddogion CNC hefyd yn rhoi gwybod i drigolion am y gwaith parhaus a'r sy'n cael ei gynllunio ar gyfer yr ardal yn y dyfodol.

Dywedodd Sara Pearson, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Perygl Llifogydd a Rheoli Dŵr: "Rydym yn gwybod bod Storm Franklin wedi cael effaith ddirfawr ar Llandinam ac mae ein meddyliau gyda'r rhai gafodd eu heffeithio bryd hynny.
"Mae CNC yn gweithio gyda'r gymuned i gymryd camau rhagweithiol i leihau'r risg o lifogydd yn y gymuned hon yn y dyfodol, ac i helpu preswylwyr i gymryd eu camau eu hunain i leihau'r perygl o lifogydd.
"Bydd y digwyddiad galw heibio yn gyfle gwych i bobl leol ddod draw i ddysgu mwy am ein gwaith yn yr ardal ac i ofyn cwestiynau."

Gall preswylwyr fynychu'r digwyddiad ar unrhyw adeg rhwng 2pm a 6:30pm yn Neuadd Bentref Llandinam ar 13 Medi.

I gael gwybodaeth am sut i wirio'ch perygl llifogydd a sut i baratoi, ymateb neu adfer o lifogydd, ewch i https://naturalresources.wales/llifogydd

--

Fel arwydd o barch a chydnabyddiaeth o’r cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, rydym wedi penderfynu gohirio’r sesiwn galw heibio a drefnwyd ar gyfer 13 Medi.

Mae’r sesiwn wedi’i haildrefnu ar gyfer 11 Hydref a bydd yn canolbwyntio ar yr effaith gafodd Storm Franklin ar y gymuned a bydd yn gyfle i bobl leol gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd.

Rhagor o fanylion i ddilyn ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleuster.