Targedu gwastraff masnachol anghyfreithlon mewn canolfannau ailgylchu ledled Wrecsam

Bydd unigolion sy'n gwaredu gwastraff masnachol yn anghyfreithlon mewn canolfannau ailgylchu ledled Wrecsam yn cael eu targedu mewn ymgyrch orfodi sy’n digwydd drwy bartneriaeth.

Bydd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ynghyd â chydweithwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru, yn treulio amser mewn canolfannau ailgylchu ar draws Wrecsam i sicrhau nad yw gwastraff masnachol yn cael ei waredu'n anghyfreithlon.

Bydd staff y sefydliadau’n cynnal archwiliadau ar hap o geir er mwyn sicrhau bod yr holl wastraff yn cael ei reoli’n briodol. Bydd yr ymgyrch yn digwydd trwy gydol mis Ionawr ac i mewn fis Chwefror.

Gall gwaredu gwastraff masnachol mewn canolfannau ailgylchu cyhoeddus gael effaith niweidiol ar fusnesau gwastraff cyfreithlon sy'n buddsoddi yn y mesurau cywir, gan beryglu marchnad busnesau gwastraff Gogledd Ddwyrain Cymru.

Dywedodd David Powell, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru:

"Ein nod yw sicrhau bod yr holl wastraff yn cael ei waredu yn y ffordd fwyaf priodol.  Mae gennym gyfrifoldeb i’r rhai sy'n gweithredu'n gyfreithlon i sicrhau tegwch i bawb a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw fusnesau unigol yn cael mantais. 
"Rydym yn amau bod rhai unigolion a busnesau yn cael gwared ar wastraff masnachol mewn canolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi ar draul y trethdalwr.
"Mae hyn yn annheg ar y mwyafrif o unigolion a busnesau sy'n cael gwared ar eu gwastraff masnachol yn briodol ac mae’n rhywbeth yr ydym am ei atal."

Dylai unrhyw un sy'n amau gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn ei ardal roi gwybod drwy linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.