Llyfrau gwyrdd i lyfrgelloedd Gwynedd diolch i gymorth grant

Llyfrau

Bydd darllenwyr yng Ngwynedd yn cael cyfle i ddysgu am yr argyfwng hinsawdd o'u llyfrgell leol diolch i gymorth grant.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi derbyn £2,500 gan Gronfa Grantiau Bach Llyfrgelloedd Gwyrdd Cymru CILIP Cymru Wales i ddarparu detholiad o lyfrau Cymraeg a Saesneg i lyfrgelloedd Gwynedd.

Mae’n bosibl hefyd archebu'r llyfrau ar gais gan aelodau'r llyfrgell yn Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Bydd y bartneriaeth gyda Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd yn golygu bod llyfrau cyfoes ar gael i hysbysu'r cyhoedd am argyfyngau natur a hinsawdd, hanes naturiol a bioamrywiaeth ac i rymuso pobl i wneud newidiadau yn eu bywydau.

Dywedodd Kester Savage, Cynghorydd Gwybodaeth CNC:

“Rydym yn falch iawn o fod wedi llwyddo yn y cais am Grant Llyfrgelloedd Gwyrdd i ariannu'r gwaith hwn. Bydd y prosiect, Gwirionedd Cyfleus, yn codi ymwybyddiaeth o'r argyfyngau hinsawdd a natur ac yn dangos i’r cyhoedd sut y gallant wneud gwahaniaeth.
“Mae gweithio gyda Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd yn golygu y gallwn gyrraedd cynulleidfa eang a helpu i hyrwyddo darllen a'r defnydd o lyfrgelloedd lleol.
“Fel rhan o'r prosiect ein nod yw gweithio'n agos gydag ysgolion a hwyluso digwyddiadau mewn llyfrgelloedd cyhoeddus a gynhelir gan amrywiaeth o arbenigwyr a grwpiau cymunedol i annog trafodaeth fywiog.”

Bydd Cwmnïau Elfennau Gwyllt a Twyni ar Symud yn gweithio i gyflwyno'r digwyddiadau mewn llyfrgelloedd cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Fel Cyngor rydym yn falch iawn o weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar y prosiect cyffrous hwn a bydd y Casgliad Llyfrau Gwyrdd arfaethedig yn ychwanegiad gwerthfawr i stoc lyfrau Gwasanaeth Llyfrgell Cyngor Gwynedd.
“Bydd yn galluogi oedolion a phlant i gael gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau sy'n ymwneud â'r amgylchedd a'r newid yn yr hinsawdd a sut y gallwn newid y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn gweithredu a fydd o fudd i bob un ohonom.
“Bydd gwybodaeth am weithdai sydd i ddod yn ddiweddarach yn y gwanwyn yn cael ei hyrwyddo trwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Llyfrgelloedd Gwynedd, tudalen digwyddiadau Llyfrgelloedd Gwynedd a gwefan Cyngor Gwynedd.”

Disgwylir i’r llyfrau gyrraedd llyfrgelloedd ym mis Mawrth.