Hen safle picnic yn Abercarn yn cael bywyd newydd

NRW staff planting Cherry tree at Abercarn picnic site

Mae gwaith adfer a gafodd ei wneud ar safle picnic Abercarn i'r gogledd o Gwmcarn yng Nghaerffili wedi cael canlyniadau positif, diolch i ymdrechion swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’i gysylltiadau â'r gymuned leol.

Nid oedd y safle picnic wedi cael ei ddefnyddio ers bron i ddau ddegawd ac roedd wedi dod yn darged gweithgareddau gwrthgymdeithasol, gan gynnwys defnydd anghyfreithlon o gerbydau oddi ar y ffordd, sy’n achosi difrod amgylcheddol i lwybrau troed a nodweddion y dirwedd, yn ogystal ag aflonyddu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.

Daeth contractwyr lleol i wneud y gwaith adfer sydd wedi helpu i adfywio'r safle.

Cafodd gwaith ei wneud i godi canopi'r coed, sydd wedi helpu gwella mynediad a diogelwch y cyhoedd, yn ogystal â helpu i gynyddu goleuni ac amrywiaeth yn llystyfiant y ddaear a hyrwyddo adfywiad naturiol.

Mae coed ceirios wedi cael eu plannu yn yr ardal i helpu i gynyddu bioamrywiaeth. Mae llystyfiant wedi'i glirio ac mae waliau cerrig a llwybrau troed wedi'u hadfer i helpu i annog defnydd hamdden tawel o'r safle felly gall trigolion lleol ei fwynhau unwaith yn rhagor.

Mae nifer fechan o goed oedd wedi eu heintio â Phytopthora ramorum (glefyd llarwydden) wedi'u tynnu, a bydd y pren yn cael ei ddefnyddio i greu ffensys ffiniau i helpu i atal cerbydau oddi ar y ffordd anghyfreithlon a chadw ymwelwyr â'r safle'n ddiogel.

Bydd y pren hefyd yn cael ei ddefnyddio i greu blychau cynefinoedd ystlumod a seddi pren naturiol. Bydd pren dros ben yn cael ei ddefnyddio yn rhai o safleoedd eraill CNC ar gyfer rheoli dŵr naturiol gan ddefnyddio byrddau mynach  - math o borth llifddor sy’n cael ei ddefnyddio i reoleiddio lefel dŵr o strwythurau pyllau) ac i greu argaeau sy'n gollwng.

Dywedodd Jo-Anne Anstey, Uwch Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae ein mannau gwyrdd yn amhrisiadwy ac yn darparu cymunedau gyda llefydd hamdden diogel sy'n helpu i wella lles corfforol a meddyliol pobl.
Roedd y safle picnic yn Abercarn wedi dod yn fan poblogaidd ar gyfer gweithgareddau gwrthgymdeithasol, gan gynnwys y defnydd o gerbydau anghyfreithlon oddi ar y ffordd ac mae wedi bod yn werth chweil ei weld yn cael ei adfer yn fan diogel i bawb ei fwynhau.
Rydyn ni wedi plannu nifer o goed ceirios ar y safle er mwyn helpu i gynyddu bioamrywiaeth ac rydyn ni'n gweithio ar gynlluniau yn y dyfodol i greu ardal flodau gwyllt a phileri cynefinoedd i helpu i wella cadwraeth.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at y cam nesaf lle byddwn ni’n gweithio'n agos gyda'r gymuned leol unwaith y bydd eu grŵp cyfansoddiadol arfaethedig ar waith, a gallan nhw gymryd rhan weithredol nawr bod CNC wedi gorffen y rhan gyntaf o baratoi'r safle.