Dyddiad cau ar gyfer trwyddedau tynnu dŵr newydd yn prysur agosáu

Image of the river Dee

Mae’r dyddiad cau o ran newidiadau i’r gofynion ar gyfer trwyddedau tynnu dŵr yn prysur agosáu.

Golyga rheoliadau newydd y bydd angen anfon ceisiadau am drwyddedau trosiannol cyn 31 Rhagfyr er mwyn osgoi colli’r hawl i dynnu dŵr o 1 Ionawr 2020 ymlaen.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheoleiddio’r broses o dynnu dŵr yn uniongyrchol o ddŵr wyneb, fel afonydd, neu o ddŵr daear, fel tyllau turio.

Eglurodd Kathryn Mainwaring, cynghorydd arbenigol arweiniol Adnoddau Dŵr CNC:

“Os ydych yn cymryd mwy nag 20 metr ciwbig (4,400 o alwyni) y dydd o ffynhonnell dŵr wyneb neu ddŵr ddaear, mae’n debyg y bydd angen trwydded drosiannol arnoch."
“Cyn 2018, roedd llawer o weithgareddau tynnu dŵr wedi eu heithrio rhag yr angen i gael trwydded, ond oherwydd newidiadau rheoliadol, erbyn hyn mae’n rhaid i’r rhai sy’n tynnu dŵr ac a oedd wedi’u heithrio o’r blaen wneud cais am drwyddedau tynnu dŵr trosiannol."
“Gall tynnu dŵr gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd a hyd yma, gallai’r rhai a oedd yn tynnu dŵr dynnu cyflenwad diderfyn o ddŵr yn gyfreithlon, a hynny heb ystyried yr effeithiau ar yr amgylchedd neu ar ddefnyddwyr eraill y dŵr."

Erbyn hyn bydd yn rhaid i sawl gweithgaredd a oedd wedi’u heithrio o’r blaen gael trwydded os byddant yn tynnu mwy na 20 metr ciwbig y dydd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Tynnu dŵr at unrhyw ddiben mewn ardal dŵr daear neu ddŵr wyneb a oedd wedi’i heithrio’n ddaearyddol o’r blaen. Roedd hyn yn cwmpasu cyfran fawr o’r Gogledd, y Gorllewin a’r De Orllewin
  • Pob math o ddyfrhau (yn flaenorol, dim ond yn achos dyfrhau drwy chwistrellu yr oedd angen trwydded);
  • Dyddodi (tynnu dŵr sy’n cynnwys silt er mwyn gwrteithio tir amaethyddol)

Ychwanegodd Kathryn:

“Mae angen inni sicrhau nad yw cyfanswm y dŵr a gymerir o’n hafonydd neu allan o’r ddaear yn cael effeithiau annerbyniol ar yr amgylchedd neu ar ddefnyddwyr eraill y dŵr."
"Drwy ymgeisio cyn y dyddiad cau, byddwch yn elwa ar broses wedi’i symleiddio sy’n golygu bod mwyafrif y ceisiadau’n haws ac yn rhatach, ac mae’n fwy tebygol y byddwch yn gallu cymryd dŵr fel y gwnaethoch yn y gorffennol. Byddwch yn gallu parhau i dynnu dŵr fel ydych wedi bod yn ei wneud yn y gorffennol tra bydd eich cais yn cael ei benderfynu."
"Os na fyddwch yn ymgeisio, gallech golli eich hawl i dynnu dŵr, a gallech wynebu camau gorfodi gan gynnwys erlyniad os byddwch yn parhau i wneud hynny.”

I gael ffurflen gais a gwybodaeth bellach ynglŷn â sut i ymgeisio, ewch i wefan CNC neu cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu Adnoddau Dŵr: 0300 065 3000; neu anfonwch e-bost at: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.