Ymgynghoriad yn lansio ar amrywio trwydded gwneuthurwr paneli pren yn y Waun

Heddiw (16 Mehefin 2022) mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio ymgynghoriad ar trwydded ddrafft ar gyfer ffatri Kronospan yn y Waun.

Mae Kronospan Limited wedi bod yn gweithredu safle gweithgynhyrchu byrddau gronynnau a byrddau ffeibr dwysedd canolig (MDF) yn y Waun, Gogledd Cymru ers blynyddoedd lawer.

Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gyfarwyddyd a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i CNC gyfuno trwyddedau presennol y ddau reoleiddiwr (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a CNC) ar gyfer y safle, gyda CNC yn dod yn unig reoleiddiwr.

Mae CNC bellach wedi cwblhau asesiad trylwyr o'r gweithgareddau presennol ar y safle er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau cyfreithiol presennol a'r technegau gorau sydd ar gael. Mae amrywio a chyfuno trwyddedau'r ddau reoleiddiwr i greu drafft a fydd yn destun adolygu ac ymgynghori â'r cyhoedd yn darparu llinell sylfaen gyfreithiol gadarn i CNC ymgymryd â’r gwaith rheoleiddio amgylcheddol cyffredinol ar y safle.

Nod yr ymgynghoriad – a fydd yn rhedeg ar-lein am bedair wythnos tan 17 Gorffennaf 2022 - yw rhoi cyfle i fusnesau lleol a chymunedau cyfagos ddweud eu dweud ar y drwydded ddrafft.

Bydd CNC hefyd yn cynnal dwy sesiwn galw heibio yn Neuadd y Dref, y Waun, ddydd Mawrth 28 Mehefin - 8pm, a dydd Mercher 29 Mehefin rhwng 10am a 4pm. Rhaid trefnu apwyntiadau ymlaen llaw erbyn dydd Sul 26 Mehefin, drwy'r ddolen hon.

Meddai David Powell, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru: 

"Rydym yn gwybod fod sut y rheoleiddir Kronospan yn y dyfodol yn bwysig i'r gymuned leol.

"Drwy gynnal yr ymgynghoriad hwn ar-lein a thrwy gynnal dwy sesiwn galw heibio, byddwn yn cynnig cyfle i bobl rannu eu barn ar y newidiadau arfaethedig.

"Bydd unrhyw drwydded a roddwn yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd pobl a'r amgylchedd."

Mae'r cais, y wybodaeth ategol a'r ymgynghoriad ar gael ar-lein:

Ymgynghoriad Cymraeg: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/permitting-caniatau/bwriad-gan-unig-reoleiddiwr-kronospan-i-gychwyn-ym.

Ymgynghoriad Saesneg: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/permitting-caniatau/kronospan-single-regulator-minded-to-consultation