CNC yn cynnig sesiynau galw heibio cymunedol cyn i waith coedwigaeth ddechrau yn Sir Fynwy

Mae cymunedau o gwmpas coetiroedd Gogledd a De Gwy yn Sir Fynwy yn cael eu gwahodd i ddysgu mwy am sut mae'r safleoedd yn cael eu rheoli mewn dau ddigwyddiad galw heibio a gynhelir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ym mis Mehefin.

Mae coetiroedd Gogledd Gwy yn cynnwys coedwigoedd Beacon Hill, Whitestone a’r Wenallt ac mae coetiroedd y De yn cynnwys coedwig Parc Cas-gwent, y Fedw a Great Barnets.

Cynhelir y digwyddiadau galw heibio ar 15 a 16 Mehefin a byddant yn cynnwys gwybodaeth am y gwaith cwympo coed sy'n digwydd i gael gwared ar tua 133 ha o goed sydd wedi'u heintio â chlefyd y llarwydd.

Byddant hefyd yn rhannu gwybodaeth am waith CNC i fynd i'r afael â Jac y Neidiwr, sef rhywogaeth estron goresgynnol sy'n llethu planhigion brodorol sy'n fwy dymunol ar gyfer infertebratau sy’n peillio fel gwenyn a gloÿnnod byw.

Bydd staff hefyd ar gael i siarad â thrigolion am Gynlluniau Adnoddau Coedwigaeth Dyffryn Gwy, sy'n nodi'r weledigaeth ar gyfer y coetir yn y dyfodol ac yn ateb unrhyw gwestiynau allai fod ganddynt.

Meddai Jim Hepburn, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwigaeth ar gyfer CNC:

Mae ein coedwigoedd a'n coetiroedd yn darparu mannau diogel ac agored i bobl ar gyfer hamdden, gan alluogi pobl i gysylltu â natur a gwella eu lles, yn ogystal â gwella ein hamgylchedd a bioamrywiaeth.
"Rydym yn awyddus i ymgysylltu â'n partneriaid a thrigolion lleol er mwyn deall yn well yr heriau a'r cyfleoedd y mae ein gwaith coedwigaeth a rheoli tir yn Nyffryn Gwy yn eu cynnig i'n cymdogion a'n cymunedau.
"Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o'n gwaith arfaethedig, yn deall pam mae’n digwydd a sut y gallai effeithio arnyn nhw. Byddem yn annog pobl i ddod i'r sesiynau galw heibio ym mis Mehefin a manteisio ar y cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt i'n staff.

Cynhelir y digwyddiad galw heibio ar gyfer coetir De Gwy ddydd Mercher 15 Mehefin yn Neuadd Goffa Hood (Devauden) rhwng 2:00pm a 7:00pm.

Cynhelir y digwyddiad galw heibio ar gyfer coetir Gogledd Gwy ddydd Iau 16 Mehefin yn Neuadd Bentref Narth rhwng 2:00pm a 7:00pm.


I gael rhagor o wybodaeth am waith coedwigaeth a rheoli tir CNC yng nghoetiroedd Gogledd a De Gwy, ewch i:Gwaith coedwigaeth a rheoli tir sydd ar ddod yng nghoetiroedd Gogledd a De Gwy, Sir Fynwy - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)