Coedwig Clocaenog yn croesawu hwb ychwanegol i boblogaeth y wiwer goch

Wiwer goch Clocaenog

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi croesawu dwy wiwer goch fenywaidd ychwanegol i Goedwig Colcaenog yn ddiweddar.

Galluogodd y bartneriaeth barhaus rhwng CNC, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog (CRST) a Sw Mynydd Cymru yr hwb diweddaraf hwn i rifau'r wiwer goch yng nghoedwig Gogledd Ddwyrain Cymru fel rhan o raglen atgyfnerthu.

Dywedodd Richard Lester, Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Rydym wedi ymrwymo i'r rhaglen hon sy'n helpu i gynyddu poblogaeth y wiwer goch yma yng Nghymru.
"Mae niferoedd y wiwer goch yn y goedwig yn parhau'n isel ond oherwydd y brwdfrydedd a'r gwaith caled gan y bartneriaeth, dylem ddechrau gweld y boblogaeth yn cynyddu. Rydym yn ddiolchgar i gyrff fel Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog sydd wedi bod yn sbardun i'r rhaglen atgyfnerthu yma yng ngogledd ddwyrain Cymru."

Casglwyd y ddwy fenyw yn ddiweddar o’r Sw Fynydd Cymreig ac fe'u rhoddwyd mewn man amgaeedig cyn rhyddhau am dair wythnos i'w galluogi i ymgynefino â'u hamgylchedd newydd.

Yn ystod y cyfnod hwn, cawsant eu monitro'n ddyddiol gan wirfoddolwyr o CRST sy'n defnyddio camerâu llwybr yn ogystal â bwydo Adnabod Amlder Radio (RFID), sy'n cael eu hysgogi gan ficrosglodyn y gwiwerod, yr un microsglodyn a ddefnyddir ar gyfer cathod a chŵn.

Yn dilyn y cyfnod ymgynefino, rhyddhawyd y ddwy fenyw i'r goedwig ac maent wedi cael eu monitro'n ofalus ers hynny. Am gyfnod, dychwelwyd yn rheolaidd i'r man amgaeedig ar gyfer cyflenwadau bwyd ond yn fwy diweddar, fe'u gwelwyd yn defnyddio porthwyr ymhellach allan sy'n dangos eu bod yn gwasgaru i'r goedwig ehangach.

Ychwanegodd Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog:

"Mae'r hwb diweddaraf hwn i'r boblogaeth wedi bod yn llwyddiant ac rydym yn ddiolchgar am yr holl gymorth a chefnogaeth y mae CNC a’r Sw Fynydd Cymreig wedi'u darparu drwyddi draw.
"Mae'r ddwy wiwer goch yn gwneud yn dda yma yng Nghoedwig Clocaenog ac edrychwn ymlaen at gipio lluniau arbennig o'r anifeiliaid anhygoel hyn yn ffynnu yn eu cynefin naturiol."

Os hoffech fwy o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog a’r gwaith sy'n mynd rhagddo gyda'r rhaglen atgyfnerthu yng Nghoedwig Clocaenog, ewch i: https://clocaenog-rst.org/cy/cartref/