Cau Bwlch Nant yr Arian am un diwrnod i sicrhau diogelwch yn ystod rali

Bydd Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian a’i lwybrau ar gau i'r cyhoedd ddydd Sul 4 Medi fel rhagofal diogelwch tra bod Rali Bae Ceredigion yn cael ei gynnal.

Bydd y ganolfan ymwelwyr a redir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ogystal a’i meysydd parcio a llwybrau ar gau i'r cyhoedd o 4pm ar 3 Medi tan 5 Medi.

Er na fydd y llwybr rali ei hun yn defnyddio unrhyw ffyrdd coedwig CNC, bydd yn defnyddio'r ffordd c1016 sy'n rhedeg o Bonterwyd i Benrhyn-coch. Mae'r ffordd hon yn rhedeg trwy bwynt allweddol lle mae llawer o lwybrau Bwlch Nant yr Arian yn croesi'r ffordd. Bydd cau'r ganolfan a'r llwybrau yn caniatáu i drefnwyr y rali drefnu lle diogel i wylwyr wylio'r rali, ac i wylwyr gael lle diogel i barcio oddi ar y ffordd.

Dywed Neil Stoddart, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru,
Yn CNC, rydym yn gweithio'n galed i gydbwyso gofynion iechyd a diogelwch ein canolfannau ymwelwyr a'n coedwigoedd gyda'r manteision hamdden a ddaw yn eu sgil. Er ein bod yn deall y siom y gallai hyn ei achosi, mae ein penderfyniad i gau'r ganolfan ymwelwyr, meysydd parcio a llwybrau ym Mwlch Nant yr Arian wedi'i seilio'n llwyr ar yr angen i sicrhau diogelwch y cyhoedd yn ystod y digwyddiad hwn.
"Fel lleoliad poblogaidd ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr, fe benderfynon ni gau'r safle am ddiwrnod i gyfyngu ar nifer y bobl allai ddod ar draws y rali heb ddisgwyl hynny.
"Am y diwrnod hyn yn unig, gofynnwn i bobl beidio ymweld â Bwlch Nant yr Arian oni bai eich bod yn mynychu'r rali a dilyn cyfarwyddydy trefnwyr. Byddwn yn falch o groesawu pawb yn ôl i fwynhau'r rhan brydferth hon o'r Canolbarth pan fyddwn yn ailagor ddydd Llun."