Erlyn dyn o Flaenau Gwent am annog ci i fynd i mewn i frochfa moch daear

Dyn yn annog ei gi i fynd i mewn i seti moch daear, Fferm Tyr Ywen yn Y Fenni,

Mae dyn o Flaenau Gwent wedi’i erlyn yn llwyddiannus mewn ymgyrch ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’r Uned Troseddau Bywyd Gwyllt Cenedlaethol (NWCU), a hynny am annog ei gi i fynd i mewn i frochfa ar drywydd y mochyn daear a oedd ynddi.

Ymddangosodd Jordan Thomas o Frynmawr gerbron Ynadon Cwmbrân ar 14 Rhagfyr ar gyhuddiad o dorri Deddf Gwarchod Moch Daear 1992.

Tra'n tresmasu'n anghyfreithlon ar Fferm Tyr Ywen yn y Fenni, cafodd Mr Thomas ei ddal ar gamera yn annog ei gi i fynd i mewn i'r frochfa a dod o hyd i'r mochyn daear a oedd ynddi.

Ar ôl pledio'n euog, cafodd Mr Thomas ddirwy o £495 mewn costau a gordaliadau, a gorchmynnwyd iddo gael ei dagio'n electronig am gyfnod o 12 wythnos gyda chyrffyw rhwng 8pm a 04.30am.

Nododd yr ynad y byddai Mr Thomas wedi cael dedfryd o garchar pe bai unrhyw dystiolaeth bod mochyn daear wedi ei niweidio.

Dywedodd PC Mark Powell, sydd ar secondiad gyda thîm Rheoleiddio Diwydiant Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae hela moch daear yn ffiaidd ac ni fydd yn cael ei oddef. Mae'r erlyniad llwyddiannus hwn yn deillio o gydweithrediad effeithiol rhwng asiantaethau, a dylai atgoffa pobl na fydd troseddau cefn gwlad a throseddau yn erbyn bywyd gwyllt yn cael eu goddef.
Mae Heddluoedd ledled Cymru yn gweithio’n llwyddiannus gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Uned Troseddau Bywyd Gwyllt Cenedlaethol i ymchwilio i droseddau, ac i erlyn y rhai sy’n gyfrifol am gyflawni troseddau cefn gwlad a throseddau yn erbyn bywyd gwyllt. Rwy’n croesawu’r ddedfryd, sy’n cynnwys cyrffyw 12 wythnos, ac yn gobeithio y bydd yn atal eraill rhag cyflawni troseddau cyffelyb yn y dyfodol.

I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, cysylltwch â Llinell Cyfathrebu Digwyddiad CNC sydd ar agor 24/7, ar 0300 065 3000.

I roi gwybod am drosedd amgylcheddol ffoniwch 101.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.