Rydym ni’n adeiladu ar gyfer y dyfodol, a allwch chi fod yn rhan ohono?

Mae’r argyfwng hinsawdd yn rhywbeth a fydd yn effeithio ar bob un ohonom. Rhagwelir y gallai Cymru ddisgwyl mwy o stormydd difrifol, cynnydd yn lefel y môr a chynnydd yng ngraddfa erydiad arfordirol yn y dyfodol.

Er mwyn sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa orau posibl i gwrdd â’r heriau hyn at y dyfodol a diogelu cymunedau ledled Cymru rhag llifogydd, mae ein tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordirol (FCRM) yn ceisio datblygu’r garfan nesaf o arbenigwyr rheoli perygl llifogydd.

Mae gennym ni bedwar cyfle lleoliad â thâl am gyfnod o 12 mis ar gael o fis Medi, ar gyfer myfyrwyr sydd newydd raddio neu sy’n cwblhau lleoliad ganol blwyddyn fel rhan o gwrs gradd perthnasol yn ymwneud â rheoli llifogydd.

Pa leoliadau sydd ar gael?

Bydd y lleoliadau’n rhoi cyfle gwerthfawr i chi weithio ochr yn ochr â’n tîm o ymarferwyr Perygl Llifogydd ymroddgar a phrofiadol, a magu profiad a gwybodaeth ymarferol yn ymwneud â helpu i leihau perygl llifogydd ledled Cymru.

Er y byddwch yn treulio mwyafrif eich amser gyda’ch tîm, byddwn hefyd yn ceisio rhoi cyfle i chi dreulio amser mewn meysydd eraill o fewn Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordirol, i helpu ehangu eich dealltwriaeth ynglŷn â’r ffordd yr ydym ni’n rheoli perygl llifogydd, ac i roi cyfle i chi ddarganfod yr hyn sy’n eich diddori fwyaf a’r hyn yr hoffech ganolbwyntio arno fel llwybr gyrfa at y dyfodol.

Byddwn hefyd yn eich cefnogi lle bo’n bosibl gyda’ch cynlluniau’n ymwneud â thraethawd estynedig y flwyddyn olaf neu’r prosiect ymchwil sydd gennych ar y gweill, ac mae gennym gynlluniau ar waith a fydd yn eich cefnogi i ennill cymwysterau proffesiynol drwy Sefydliad y Peirianwyr Sifil a Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a’r Amgylchedd.

Dyma rywfaint o wybodaeth am y timoedd sy’n cynnig y lleoliadau ac ambell i enghraifft o’r math o waith y byddwch chi’n rhan ohono:

Perfformiad Asedau

Rydym ni’n berchen ar oddeutu 4000 o asedau perygl llifogydd ar afonydd ac arfordir Cymru, ac yn eu cynnal a’u cadw. Mae asedau perygl llifogydd yn cynnwys strwythurau megis argloddiau llifogydd, waliau a gorsafoedd pwmpio. Gwaith y tîm Perfformiad Asedau yw sicrhau bod yr asedau hyn yn y cyflwr gofynnol a’u bod yn darparu’r lefel sicrwydd angenrheidiol. Gallai’r gwaith o ddydd i ddydd gynnwys cynnal arolygon topograffeg neu gynnal ein cronfa ddata rheoli asedau, AMX.

Cyfoeth Naturiol Cymru / Aelod o'r Tîm Perfformiad Asedau (Lleoliad Addysg Uwch) (naturalresources.wales)

Dadansoddi Perygl Llifogydd

Elfen allweddol o waith perygl llifogydd yw deall lefel perygl llifogydd yng Nghymru. Rydym ni’n defnyddio systemau mapio a modelu i gefnogi ein penderfyniadau ynglŷn â ble y dylid adeiladu cynlluniau llifogydd newydd neu wella amddiffynfeydd llifogydd presennol. Unwaith y byddwch wedi’ch hyfforddi, bydd eich rôl yn cynnwys defnyddio’r adnoddau modelu perygl llifogydd hyn. Byddwch hefyd yn cael cyfle i weld sut mae’r wybodaeth hon yn gysylltiedig â meysydd megis y broses ddatblygu a chynllunio.  

Cyfoeth Naturiol Cymru / Aelod o'r Tîm Dadansoddi Perygl Llifogydd (Lleoliad Addysg Uwch) (naturalresources.wales)

Hydrometreg a Thelemetreg

Mae’r tîm Hydrometreg a Thelemtreg yn darparu gwasanaeth hanfodol ar gyfer y tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordirol a thimoedd eraill ar draws CNC. Mae’r tîm Hydrometreg a Thelemetreg yn gweithredu rhwydwaith eang o orsafoedd hydrometrig sy’n monitro lefelau afonydd ar draws Cymru. Mae’r wybodaeth “amser real” hon yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli perygl llifogydd, gan ei bod yn cael ei defnyddio i ddarparu rhybuddion llifogydd amserol a chywir i’r cyhoedd. Bydd eich prif rôl yn golygu gweithio ar brosiectau gwella systemau Hydrometreg a Thelemetreg. Byddwch chi hefyd yn cael cyfle i dreulio amser yn y maes er mwyn deall sut mae gorsafoedd yn gweithio, yn ogystal â gwneud gwaith mesur llif y sianel.

Cyfoeth Naturiol Cymru / Aelod o'r Tîm Hydrometreg a Thelemetreg (Lleoliad Addysg Uwch) (naturalresources.wales)

Hydroleg a ffynonellau dŵr

Mae ein Hydrolegwyr yn dadansoddi’r data a gesglir gan y Tîm Hydrometreg a Thelemetreg. Maent yn cyfrifo llif dŵr llifogydd er mwyn mapio perygl llifogydd, cynllunio lliniaru llifogydd a chynllunio ar gyfer datblygu.

Mae’r Geomorffolegwyr yn y tîm yn arbenigo yn y rhyngweithiad rhwng ffurf yr afon, hydroleg ac ecoleg. Maent yn darparu cyngor arbenigol ar bopeth o brosiectau adfer afonydd a thrwyddedau gweithgareddau perygl llifogydd i drwyddedau tynnu dŵr a rheoli llifogydd yn naturiol. 

 Cyfoeth Naturiol Cymru / Geomorffoleg – Aelod o'r Tîm Hydroleg a Rheoli Adnoddau Dŵr (Lleoliad Addysg Uwch) (naturalresources.wales)

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano ymysg darpar ymgeiswy? 

Dyma Richard Kelland, ein harweinydd sgiliau a datblygu o fewn y tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordirol yn rhannu’r hyn yr ydym yn chwilio amdano ymysg darpar ymgeiswyr, ac yn rhannu rhywfaint o gyngor ynglŷn ag ymgeisio ar gyfer y swyddi:

“Rydym ni’n chwilio am bobl brwdfrydig llawn cymhelliant. Byddwch wedi cymhwyso’n ddiweddar mewn pwnc yn ymwneud â rheoli perygl llifogydd, megis peirianneg, gwyddoniaeth neu ddaearyddiaeth, neu’n chwilio am gyfle i dreulio blwyddyn mewn diwydiant fel rhan o’ch astudiaethau. Rydym ni’n chwilio am rywun sy’n gallu dangos eu gallu i weithio gydag ystod o bobl a fydd yn darparu buddion i’n timoedd ni yn ogystal â’ch datblygiad.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd eich amser i lenwi’r ffurflen gais. Wrth gwblhau’r cais, ceisiwch ddod o hyd i enghreifftiau da o fywyd go iawn i ddangos sut y byddech yn bodloni’r cymwyseddau allweddol sydd eu hangen.”

Ydych chi’n credu eich bod yn meddu ar yr hyn sydd ei angen i ymuno gyda #TîmCNC?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa ym maes rheoli perygl llifogydd ac yn credu eich bod yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i ymuno â’n timoedd Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordirol gwych, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am y lleoliadau a’r ffurflen gais ar ein gwefan.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Ebrill. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r lleoliadau, mae croeso i chi gysylltu gyda Richard Kelland drwy e-bostio: richard.kelland@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru