Arwyr tawel y gwlâu cocos

Fan hyn, mae Timothy Ellis, Swyddog Aber Afon Dyfrdwy, yn trafod sut y bu inni fynd yn ôl i’r dechrau i greu trefn gynaliadwy lwyddiannus…

Yn yr ‘hen ddyddiau’, byddai’r rhywogaeth wyllt C. edule (sef cocos cyffredin i’r mwyafrif ohonom) yn ymgasglu o bryd i’w gilydd ar draethau Aber Afon Dyfrdwy, ar y ffin rhwng gogledd Cymru a Lloegr. Byddai cannoedd o bysgotwyr yn dod o bob cyfeiriad i’w cynaeafu.


Casglu dwys y gorffennol

Ar y mwyaf, tua thridiau o gynaeafu fydden nhw’n ei gael, a byddai’r traethau’n wag o bysgod cregyn dros y blynyddoedd nesaf.

Ond, yn yr hen hen ddyddiau, byddai pysgotwyr lleol yr aber yn mynd a ti’n ofalus i gasglu’r cocos mwy â chribin dros fisoedd yr haf a’r hydref, gan adael stoc fridio iach a chan ofalu bod y pysgodfeydd yn cael eu gwarchod.

Pysgotwyr Flookburgh (Cumbria) oddi ar Grange, yn pysgota am gocos. Daw’r llun o gasgliad Keith Willacy

Byddai’r cocos yn cael eu cribinio â llaw i mewn i ogr mawr. Mae’r dull hwn yn gadael y cocos llai er mwyn iddynt dyfu dros y blynyddoedd dilynol. Ystyrir hefyd mai’r dull cribinio â llaw yw’r un lleiaf niweidiol i’r amgylchedd, gan effeithio neu amharu cyn lleied ag y bo modd.

Ers 2008, mae CNC (ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru cyn hynny) wedi rheoleiddio’r bysgodfa gocos yn Afon Dyfrdwy (Rheoleiddio’r Bysgodfa).  Eleni fydd y 12fed blwyddyn olynol inni agor y bysgodfa. Yn yr achos hwn, ystyr ‘rheoleiddio’ yw cyfyngu ar nifer y pysgotwyr sydd â thrwydded i gynaeafu, a chadw cwota’r bysgodfa ar lefelau cynaliadwy. Mae’r arwyddion i gyd yn awgrymu bod hynny’n gweithio. Rydym wedi adfer y bysgodfa i’w gwreiddiau mwy cynaliadwy.

Ymchwilio a dadansoddi….

Wrth gwrs, nid lwc mo hyn yn unig. Rydym yn defnyddio methodolegau sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth i gyfrifo stoc y bysgodfa o flwyddyn i flwyddyn, ac rydym yn rheoli’r bysgodfa ar ffurf adnodd cynaliadwy.

Bob gwanwyn a hydref, mae timau o’n gwyddonwyr yn cynnal arolygon stoc dros ardal gyfan yr aber, sef 15,000-hectar. Ar ôl cynnal arolygon cerdded er mwyn canfod ble y mae’r cocos yn byw bob blwyddyn, mae ein harolygwyr yn defnyddio technegau samplu meintiol i gyfrifo’r stoc o gocos sydd ar gael.

Mae’r dull samplu’n debyg iawn i’r un y bu cenedlaethau o bysgotwyr yn ei ddefnyddio ar yr aber. Defnyddir cwadrad i bennu’r ardal ar gyfer casglu samplau’r cocos. Caiff unrhyw bysgod cregyn a ganfyddir eu didoli neu eu rhidyllu drwy gyfres o ograu wedi’u graddnodi er mwyn pennu carfanau maint-dosbarth. Caiff y cocos eu cyfrif a’r canlyniadau eu cofnodi yn y maes. Yna, deuir ag is-sampl ar y tir er mwyn gwneud mesuriadau pellach.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf wedi ymuno â’r tîm arolygu, gan ddysgu am y fasnach a cheisio dal i fyny wrth inni ymlwybro drwy laid hyd at ein pengliniau! Mae’n ymarfer corff da.

Ar ôl profi’r hwyl a sbri o gerdded drwy’r slwtsh ar y glannau llaid mwy meddal y llynedd, roeddwn yn croesi fy mysedd na fyddwn yn cael un o’r ardaloedd anoddach y tro hwn. Yn ddiddorol iawn, nid oeddwn yn teimlo’n euog o gwbl pan roddwyd map imi o ddarn sy’n hysbys am fod yn un hawdd!

Sut rydym yn defnyddio’r data?

Gan fod yr aber yn rhan hynod warchodedig o’n hamgylchedd naturiol, mae dyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn rheoli gweithgareddau ynddo.

Yn rhannol, mae hyn yn cynnwys sicrhau bod digon o fwyd ar gyfer adar gwarchodedig sy’n gaeafu yno, fel piod môr a phibyddion yr aber. Fel mae’n digwydd, cocos yw hoff fwyd piod môr.

Rydym yn defnyddio modelau twf i gyfrifo faint o gocos a fydd ar gael i’r adar eu bwyta dros y gaeaf. Ar ôl gadael digon ohonynt ar gyfer yr adar, gan ystyried yr angen i ddiogelu stoc fridio y flwyddyn nesaf a thrwy ddeall anghenion ein pysgotwyr lleol, gallwn ddatblygu patrwm cynaeafu sy’n gynaliadwy.

Wrth gwrs, rhaid ymdrin â byd natur wrth iddo gyflwyno pob math o heriau annisgwyl sy’n gallu chwalu ein modelau a’n cynlluniau gorau. Dyna pryd y bydd gwaith ein gwyddonwyr maes a’n harbenigwyr data’n hollbwysig yn arolygon yr hydref. Yn ffodus iawn, mae data’r 11 mlynedd ddiwethaf yn awgrymu ein bod yn gwneud pethau’n iawn. Pan fo’r niferoedd wedi’u cyfrifo, gallwn agor y bysgodfa i gynaeafu masnachol sy’n rhan mor bwysig o’n diwylliant a’n treftadaeth leol ar yr aber.

Gweithio mewn partneriaeth

Mae’r gwaith o reoli a rheoleiddio’r bysgodfa’n dibynnu ar gyfraniad llawer o bobl ymroddedig, y tu mewn i CNC a’r tu allan iddo. Er ei bod yn ymddangos mai Tîm Rheoli Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy sy’n cydlynu rhan fwyaf y gwaith o ategu’r bysgodfa, heb gyfraniad y pysgotwyr, yr ecolegwyr, gwyddonwyr maes, timau gorfodi, timau cyfreithiol, arbenigwyr technegol, a chynghorwyr polisi (gan enwi ychydig yn unig), ni allai’r bysgodfa weithredu’n gynaliadwy.

O’i hystyried yn astudiaeth achos ynglŷn â chydweithredu, mae pysgodfa gocos Aber Afon Dyfrdwy’n enghraifft gref drawiadol o bartneriaid yn cydweithio’n llwyddiannus i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Nid oes neb ohonom yn gweithio’n gwbl ar wahân, a’n cydweithwyr sydd wrthi’n ddiwyd yw gwir arwyr di-glod pysgodfa Afon Dyfrdwy.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru