Ewch allan yn yr hydref er budd eich iechyd a’ch lles

Gall treulio amser y tu allan fod yn wych ar gyfer eich iechyd meddwl. Ein cynghorydd iechyd, Jess Williams, sy’n egluro sut y gall camu i’r awyr agored roi hwb i'ch hwyliau.

Wrth i ni symud i'r hydref gyda'r tywydd yn troi'n oerach a'r dyddiau'n mynd yn fyrrach, mae'n bwysig iawn i ni i gyd ofalu am ein lles meddyliol.

Oeddech chi'n gwybod y gall eich amgylchedd gael effaith gadarnhaol ar eich iechyd meddwl? Ac nid gweithgarwch corfforol yn unig sy’n cyfri.

Mae’n anodd gwybod ble i ddechrau weithiau, felly dyma ambell ffordd y gall treulio amser yn yr awyr agored yn yr amgylchedd naturiol wella eich iechyd meddwl a’ch lles…

Gweld y gwyrddni, teimlo’r tawelwch

Daw llawer o fanteision yn sgil bod o gwmpas planhigion a choed. Mae mannau gwyrdd yn cynnig elfen o ysgogiad nad yw’n fygythiol, gan ymlacio a thawelu rhan benodol o’ch system nerfol sy’n gyfrifol am leddfu straen.

Os nad ydych chi’n siŵr ble mae eich mannau gwyrdd lleol, dewch o hyd i goetir neu Warchodfa Natur Genedlaethol sy’n agos atoch chi ar ein tudalen lleoedd i ymweld â hwy

Nid oes gan bawb fynediad uniongyrchol i barciau a gwarchodfeydd ond efallai y bydd cyfleoedd eraill o fewn eich awdurdod lleol i fynd allan a chrwydro. 

Ewch allan i olau dydd er mwyn cysgu’n dda

Mae gweld golau dydd (nid dim ond yr haul) yn gallu helpu i reoleiddio dau gemegyn pwysig yn eich ymennydd sy’n allweddol ar gyfer cwsg - melatonin a serotonin. 

Ceisiwch dreulio amser mewn golau dydd yn ystod y dydd – gallai hyn olygu cerdded un safle yn bellach i ddal y bws, neu gymryd seibiannau rheolaidd i ffwrdd o’ch gofod gwaith. 

Bydd mynd allan bob dydd yn cynyddu eich lefel fitamin D ac yn helpu eich system imiwnedd, hefyd.

Byddwch yn egnïol os gallwch chi

Mae ymarfer corff yn rhoi hwb i'ch hwyliau. Mae astudiaethau’n dangos y gall cerdded yn gyflym ryddhau endorffinau cadarnhaol a lleihau straen a phryder.

Dechreuwch yn araf os oes angen. Peidiwch â digalonni os nad ydych chi’n teimlo’r un ysgogiad ag arfer.

Ystyriwch roi cynnig ar fathau gwahanol a newydd o weithgarwch neu symudiad nad ydych chi efallai wedi’u gwneud o’r blaen er mwyn atal eich hun rhag cymharu â hen arferion. 

Os ydych chi'n chwilio am rywle i fynd am dro i weld y lliwiau tymhorol, cymerwch olwg ar ein dewis o lefydd i fynd i gerdded yr hydref hwn am ychydig o ysbrydoliaeth.

Crwydrwch o’ch cartref

Gall newid amgylchedd fod yn ffordd dda iawn o leihau straen ac anghofio am rai o'r pethau a allai fod yn pwyso ar eich meddwl. 

Does dim angen i chi fynd yn bell – gall taith gerdded yn eich parc lleol ddarparu rhyddhad naturiol rhag straen. Y lleiaf o sŵn trefol sydd o’ch cwmpas, gorau oll.

Os ydych chi'n gweithio gartref, gall gwneud amser i fynd i’r awyr agored eich helpu i ymlacio a helpu i osod ffin rhwng gwaith a bywyd cartref.

Gofynnwch am help os oes angen

Ond, y gwir amdani yw nad problemau tymhorol yw problemau iechyd meddwl.  Waeth pwy ydych chi, neu pa dymor ydyw, gall anawsterau gyda’ch hwyliau, gorbryder a llawer mwy effeithio ar unrhyw un ohonon ni, unrhyw bryd.

Mae gwasanaethau anhygoel ar gael ar gyfer pobl sy’n teimlo fel bod angen cefnogaeth arnyn nhw ar gyfer unrhyw beth sy’n ymwneud â iechyd meddwl. Mae gan Amser i Newid restr o sefydliadau sy’n cynnig cefnogaeth i bobl sydd mewn argyfwng neu’r rheini sydd â phryderon am eu hiechyd meddwl.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru