Tri mis ers stormydd y gaeaf

Llun o staff CNC yn arolygu glan yr afon am ddifrod yn dilyn llifogydd

Dri mis ar ôl stormydd mis Chwefror, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi pwysleisio ei ymrwymiad i wneud popeth yn ei allu i helpu i sicrhau bod cymunedau Cymru yn gallu gwrthsefyll effeithiau digwyddiadau tywydd eithafol.

Er gwaethaf cyfyngiadau’r coronafeirws sydd mewn grym, mae CNC wedi bod yn gweithio'n barhaus ar ei weithgareddau hanfodol ar gyfer adfer yn sgil llifogydd, gan gynnwys cynnal archwiliadau ac atgyweiriadau hanfodol i amddiffynfeydd llifogydd yr effeithiwyd arnynt gan stormydd Ciara, Dennis a Jorge.

Tarodd y tair storm y DU o fewn tair wythnos yn gynharach eleni, ac arweiniodd hyn at y llifogydd mwyaf difrifol ac eang a welwyd yng Nghymru ers blynyddoedd lawer. Roedd timau ymroddedig a phrofiadol CNC allan mewn grym cyn, yn ystod ac ar ôl y stormydd, gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a'r gwasanaethau brys i baratoi ac i ymateb i'r digwyddiadau.

Ar anterth storm Dennis, roedd 61 o negeseuon llifogydd, 89 o rybuddion llifogydd a dau rybudd llifogydd difrifol mewn grym - mwy nag y mae CNC wedi'u cyhoeddi erioed ar gyfer un storm.

Cyrhaeddodd Afon Taf ym Mhontypridd ei lefelau uchaf mewn mwy na 40 o flynyddoedd - 80 cm yn uwch na'r lefel a gofnodwyd yn ystod y llifogydd a ddinistriodd lawer o Gaerdydd a Rhondda Cynon Taf yn 1979.

Ar anterth y llifogydd ym Mhontypridd, mae CNC yn amcangyfrif bod 740 o dunelli o ddŵr yr eiliad yn llifo i lawr Afon Taf – digon i lenwi pwll nofio o faint Olympaidd bob tair eiliad.

Cadarnhaodd y Swyddfa Dywydd yn ddiweddarach mai Chwefror 2020 oedd y mis Chwefror gwlypaf ers dechrau cofnodi.

Er bod y data’n atgyfnerthu maint y digwyddiadau, teimlwyd effeithiau personol y stormydd ar draws y wlad.

Profodd cymunedau yng Ngogledd Cymru holl nerth storm Ciara, a theimlwyd effeithiau Dennis i’r byw ar draws llawer o gymunedau ar draws de Cymru, yn enwedig yn Rhondda Cynon Taf.

Mae proses adolygu ac adfer gynhwysfawr yn sgil y llifogydd bellach ar waith, gyda CNC yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau partner drwy Gymru i ddysgu o effeithiau'r stormydd. 

Dywedodd Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol CNC:

"Rydyn ni’n llawn sylweddoli’r effaith y mae stormydd mis Chwefror wedi'i chael ar fywydau pobl. Mae'r effaith honno bellach yn cael ei theimlo'n ddyfnach nag erioed oherwydd y pwysau ychwanegol y mae pandemig y coronafeirws yn ei roi ar ein cymunedau.
"Rydyn ni am sicrhau bod y sawl yr effeithiwyd arnynt yn gwybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain, ac yn sicr nid ydyn nhw wedi mynd yn angof. Roedd y gwydnwch a welsom yn ein cymunedau yn gynharach eleni yn rhyfeddol, ac mae eu hagwedd benderfynol i oresgyn heriau'r misoedd diwethaf wedi bod yr un mor ysbrydoledig.
"Dyna pam mae ein hymrwymiad i weithio gyda'n partneriaid i symud y broses adfer ymlaen wedi bod yn ddiwyro. Rydyn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i dawelu meddwl ein cymunedau a’n hunain bod ein hamddiffynfeydd, ein gwaith modelu a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn gadarn ac yn barod i ddelio â'r hinsawdd gynhesach, wlypach a llai rhagweladwy sydd i’w disgwyl yn y blynyddoedd i ddod, yn ôl y gwyddonwyr a'n harbenigwyr ein hunain."

Dros y tri mis diwethaf, mae CNC hefyd wedi sicrhau bod y cymunedau sy'n wynebu'r risg fwyaf yn ganolbwynt i’w waith adfer, gyda'r nod o reoli perygl llifogydd a meithrin gwydnwch ar gyfer y dyfodol - hyd yn oed yn yr amgylchiadau digynsail a brofwyd yng Nghymru gwta dri mis yn ôl.

Dyma’r math o waith sydd wedi’i gwblhau hyd yn hyn:

  • Archwilio a chynnal a chadw asedau hollbwysig gerllaw eiddo a seilwaith ledled Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i weithredu'n effeithiol.
  • Mae gwaith atgyweirio ar amddiffynfeydd wedi'i gwblhau ym Mangor-is-y-Coed a Llanrwst. Mae gwaith adfer wedi digwydd yn Llanfair Talhaearn hefyd, ac rydym bellach yn mynd ati i roi gwelliannau tymor byr ar waith tra byddwn yn trafod pryderon, materion ac opsiynau gyda'r gymuned.
  • Ymchwiliadau ac archwiliadau ar strwythurau ac argloddiau yn dilyn llifogydd yng Ngogledd Powys.
  • Asesiadau ar waith amddiffyn posibl ar gwlferi yn Whitebarn a choedwig Gwydyr yn Nyffryn Conwy ac ym Mhont Trelái ger Caerdydd. 

Dywedodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau CNC:

"Mae llifogydd yn cael effaith ddinistriol ar fywydau ac rydyn ni’n meddwl yn aml am y rhai sy'n parhau i fyw drwy ganlyniadau stormydd y gaeaf wrth i ni ymgymryd â'r gwaith adfer hwn.

"Rydyn ni wedi gwneud cynnydd arbennig i wella gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd dros y degawdau.
"Mae ein hamddiffynfeydd yn gwneud gwahaniaeth, mae ein rhagolygon yn well, ac mae ein gwaith modelu wedi gwella, sy'n golygu bod effaith bosibl stormydd difrifol wedi cael ei lleihau'n sylweddol. Serch hynny, rydyn ni’n llwyr gydnabod na fydd hyn o gysur mawr i'r rhai y mae digwyddiadau mis Chwefror wedi effeithio arnynt.
"Wrth i ni barhau i ddysgu drwy gydol y broses adfer ac adolygu hon, rydyn ni hefyd yn bwriadu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Y consensws gwyddonol yw bod ein hinsawdd yn newid ac y bydd digwyddiadau tywydd eithafol fel y rhai a brofwyd y gaeaf hwn yn dod yn fwy cyffredin.
"Mae llawer i'w wneud o hyd a bydd angen i bob un ohonom ni newid ac addasu i wneud ein hunain mor wydn â phosibl i wrthsefyll effeithiau y bydd newid yn yr hinsawdd yn parhau i'w cael ar ein cymunedau. Yn y tymor byr a'r tymor hir, rydyn ni’n dal yn benderfynol o weithio mewn partneriaeth i feithrin y gwydnwch hwnnw a gwella ein parodrwydd i fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd ar y cyd."