Prosiect i gofnodi effaith sŵn ar famaliaid morol

Mae offer recordio wedi cael ei ddefnyddio oddi ar arfordir Ynys Môn i fonitro dolffiniaid, llamhidyddion a sŵn tanddwr.

Gan weithio mewn partneriaeth, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Canolfan Gwyddor yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu a Phrifysgol Bangor wedi gosod offer recordio arbenigol mewn tri lleoliad yn Ardal Cadwraeth Arbennig Gogledd Ynys Môn i ganfod a yw sŵn dynol a sŵn naturiol yn effeithio ar famaliaid morol.

Fel rhan o Arolwg Mamaliaid Morol Acwstig Cymru, bydd recordio yn digwydd rhwng 30 a 60 metr o dan y dŵr dros gyfnod o 18 mis i ddeall sut mae mamaliaid fel llamhidyddion, dolffiniaid trwyn potel, dolffiniaid Risso a dolffiniaid cyffredin, yn defnyddio’r ardal.

Mae sŵn naturiol yn cynnwys sŵn llif llanw cryf sy'n cludo gwaddod, tywydd fel gwynt a glaw ar wyneb y môr, tonnau, a bywyd morol arall, tra bod sŵn o ffynonellau dynol yn cynnwys sŵn llongau a chychod, sonar, a sŵn gwaith adeiladu a diwydiannau morol.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn grant gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddarparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â CNC i helpu i fynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd.

Dywedodd Alex Zalewski, Cynghorydd Ecoleg Forol CNC ar gyfer y prosiect:

“Gall sŵn tanddwr darfu ar famaliaid morol a llesteirio eu gallu i ddefnyddio a chlywed sain i ddod o hyd i fwyd a chyfathrebu â’i gilydd.
“Rydym eisiau gwella ein dealltwriaeth o sut mae lefelau sŵn cefndir yn effeithio ar y mamaliaid hyn drwy ddefnyddio offer recordio acwstig arbenigol.
“Bydd deall lefelau sŵn tanddwr amgylchynol yn rhoi mwy o wybodaeth i ni am ddosbarthiad sŵn, ei ffynonellau ac yn nodi opsiynau rheoli effeithiol i helpu i fagu gwytnwch mewn poblogaethau o famaliaid morol.
“Mae'r dyfeisiau recordio yn cofnodi sain o fewn amleddau penodol sy'n caniatáu inni glywed y synau clicio a chwibanu a wneir gan ddolffiniaid a llamhidyddion. Rydym yn amau y bydd y seinwedd tanddwr yn naturiol yn eithaf swnllyd o ganlyniad i lifau llanw cryf ac mae'n debygol y bydd sŵn canfyddadwy o ffynonellau dynol hefyd.
“Ar ddiwedd y prosiect bydd gennym well dealltwriaeth o sut i fonitro sŵn tanddwr mewn lleoliadau sy’n naturiol swnllyd, gan ganiatáu inni astudio’r ffordd orau o fonitro llamhidyddion a dolffiniaid yn acwstig yng Nghymru.”

Yn ystod y prosiect bydd yr offer yn cael ei gasglu bob tri mis a bydd y recordiadau'n cael eu dadansoddi.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhwydweithiau Natur - gwybodaeth ar brosiectau morol (naturalresources.wales)